Bydd modd parcio AM DDIM unwaith eto yn Aberdâr a Phontypridd drwy gydol mis Rhagfyr 2025! Bydd y Cyngor yn cynnal y cynllun yma am y ddeuddegfed flwyddyn gan helpu ac annog trigolion i Siopa'n Lleol, er mwyn rhoi hwb Nadoligaidd i fasnachwyr gwych ein Bwrdeistref Sirol, yng nghanol ein trefi.
Yn sgil y fenter flynyddol boblogaidd yma, bydd modd parcio am ddim ym meysydd parcio'r Cyngor wedi 10am bob dydd, a hynny o ddydd Llun, Rhagfyr 1, hyd at, a chan gynnwys, dydd Mercher, Rhagfyr 31. Y nod yw y bydd y cynnig yn fodd o annog trigolion i wneud cymaint â phosib o'u siopa Nadoligaidd yn lleol – ac ymweld â'n hystod eang o fusnesau lleol gwych ar adeg hynod bwysig o'r flwyddyn iddyn nhw.
A pham stopio â'r siopa? Mae ystod o achlysuron Nadoligaidd yn cael eu cynnal yng nghanol ein trefi drwy gydol mis Rhagfyr a bydd amrywiaeth arbennig o fannau bwyd a diod ar gael i ymwelwyr eu mwynhau. Bydd y cynnig parcio am ddim yn cynyddu cyfleoedd i gael mynediad at yr hyn sydd gyda'n hardaloedd manwerthu i'w cynnig ar yr adeg gyffrous yma o'r flwyddyn.
Yn Aberdâr, bydd modd parcio AM DDIM ym meysydd parcio Adeiladau'r Goron, y Stryd Las, y Llyfrgell, Stryd y Dug, Stryd Fawr, Rhes y Nant, Rock Grounds a'r Ynys. Ym Mhontypridd, bydd y cynnig yn berthnasol yn y mannau a ganlyn: Heol y Weithfa Nwy, yr Iard Nwyddau (dim ond y rhan sy'n eiddo i'r Cyngor), Dôl-y-felin, Heol Berw, Heol Sardis a Stryd y Santes Catrin.
Nodwch: Mae meysydd parcio'r Llyfrgell, Y Stryd Las, Stryd y Dug a'r Stryd Fawr yng Nghanol Tref Aberdâr, a maes parcio Heol y Weithfa Nwy yng Nghanol Tref Pontypridd, yn rhai cyfnod byr – lle mae modd parcio am uchafswm o bedair awr. Mae modd cael rhagor o wybodaeth am feysydd parcio'r Cyngor ar ein gwefan.
Dyma atgoffa'r rheiny sy'n parcio cyn 10am bod angen iddyn nhw arddangos tocyn tan 10am yn unig, yn ystod cyfnod y cynnig. Mae modd defnyddio cardiau digyswllt i wneud taliadau wrth beiriannau tocynnau meysydd parcio, ac mae talu ag arian parod yn opsiwn o hyd hefyd.
Yn ogystal â’r cynllun parcio am ddim, bydd y Cyngor hefyd yn cefnogi’r Cynllun Teithiau Rhatach ar Fysiau sy’n rhoi cyfle i'r cyhoedd fanteisio ar docyn bws am uchafswm o £1.50, ar gyfer pob taith fws sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf, drwy gydol mis Rhagfyr 2025. Bydd y cynllun teithio rhatach ar fysiau ar waith ar hyd ystod y gweithredwyr bysiau, o'r gwasanaeth cyntaf hyd yr olaf bob dydd – unwaith yn rhagor, y bwriad yw y bydd hyn yn helpu trigolion, ymwelwyr a masnachwyr, gyfnod y Nadolig yma.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae parcio am ddim dros gyfnod y Nadolig wedi dod yn fenter boblogaidd yn Rhondda Cynon Taf. Mae cymaint yn digwydd yng nghanol ein trefi ac ar ein strydoedd mawr drwy gydol mis Rhagfyr, a bydd ein cynnig parcio am ddim yn cyfrannu mewn modd bychan o ran helpu pobl i fwynhau'r dathliadau. Mae hyn yn bwysig yn benodol felly ar adeg hynod ddrud ar gyfer teuluoedd, â chostau byw yn parhau'n uchel.
"Rhan bwysig o'n cynnig parcio am ddim yw hyrwyddo'r neges Siopa'n Lleol. Rydyn ni'n deall bod y Nadolig yn adeg hynod bwysig i nifer o fasnachwyr, ac rydyn ni'n annog trigolion i ymweld â'n canol trefi gwych a chefnogi'n busnesau stryd fawr yn ystod mis Rhagfyr. Rydyn ni'n hefyd yn cynnig y cynllun teithiau rhatach ar fysiau unwaith yn rhagor yn ystod mis Rhagfyr; uchafswm o £1.50 fydd pris taith unffordd unrhyw le yn ardal Rhondda Cynon Taf – bydd hyn yn fodd o ddarparu arbedion i ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus wrth iddyn nhw ymweld â busnesau a dathliadau lleol."
Wedi ei bostio ar 26/11/2025