Yr wythnos yma, bydd y Cyngor yn dechrau ar waith rhagarweiniol ger yr A4119 ym mhentref Tonyrefail cyn cychwyn ar gynllun sylweddol yn ddiweddarach eleni i ailalinio sianel yr afon, cynnal atgyweiriadau i'r arglawdd ac amnewid pont droed Tyn-y-bryn.
Mae Afon Elái wedi achosi difrod sgwrio sylweddol mewn lleoliad ger yr A4119 ym mhentref Tonyrefail, rhwng Heol Tyn-y-bryn a Lôn y Parc. Mae angen gwneud gwaith pwysig i ailalinio'r afon i ffwrdd o gyfeiriad eiddo preifat. Mae'r Cyngor wedi penodi Balfour Beatty a'u hisgontractwyr i gyflawni'r gwaith – sydd hefyd yn cynnwys mesurau diogelu eraill i'r afon a'r arglawdd.
Mae pont droed Tyn-y-bryn yn darparu cyswllt allweddol ar draws yr afon mewn lleoliad cyfagos, gan ei bod yn cynnal llwybr lleol i gerddwyr a beicwyr rhwng Heol Tyn-y-bryn a thanffordd yr A4119. Bydd y strwythur yn cael ei uwchraddio yn ystod y cynllun.
Mae'r cynllun yma wedi'i gynnwys yn rhaglen Llywodraeth Cymru i gynnal atgyweiriadau yn dilyn Storm Dennis, a fydd yn ariannu gwaith gwerth £20.1 miliwn ledled Rhondda Cynon Taf yn 2023/24. Mae'r rhaglen yma ar wahân i Raglen Gyfalaf Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol y Cyngor sydd werth £27.665 miliwn a fydd yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn i ddod.
Bydd y gwaith galluogi yn dechrau'r wythnos sy'n dechrau 3 Ebrill.
Bydd y gwaith yma, a fydd yn para 6 wythnos, yn creu ffordd fynediad oddi ar yr A4119, a fydd wedi'i lleoli tua 250 metr i'r gogledd o Gylchfan Stryd y Felin. Bydd ffordd gludo ac ardal gompownd hefyd yn cael eu sefydlu rhwng yr A4119 ac Afon Elái, yn dilyn gwaith clirio coed a llystyfiant a gafodd ei gwblhau’n ddiweddar.
Mae angen cynllun rheoli traffig ar gyfer y pedair wythnos gyntaf o'r gwaith (o'r wythnos sy'n dechrau 3 Ebrill). Mae hyn wedi'i gynllunio i fod ar waith yn ystod gwyliau Pasg yr ysgol i darfu cyn lleied â phosibl ar drigolion. Bydd goleuadau traffig ar waith a bydd un lôn ar gau ar yr A4119 rhwng 9am a 3.30pm bob dydd gan osgoi'r cyfnodau teithio prysuraf. Bydd swyddogion ar y safle i fonitro llif traffig a bydd modd iddyn nhw reoli'r signalau â llaw os oes angen.
Fydd y llwybr troed a phont droed Tyn-y-bryn ddim yn cael eu heffeithio gan y gwaith paratoadol a bydd yn parhau i fod ar agor yn ystod y gwaith. Bydd creu pwynt mynediad oddi ar yr A4119 yn lleihau'r cynllun rheoli traffig sydd ei angen ar gyfer y prif gynllun.
Cynllun y prif waith a fydd yn dechrau yn ddiweddarach eleni
Bydd y prif waith yn dechrau ar ôl y cyfnod rhagarweiniol, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer canol mis Mai 2023 ar hyn o bryd. Bydd yn dechrau gyda dymchwel y bont droed bresennol i ailalinio sianel yr afon, gosod amddiffyniad sgwrio i tua 50 metr o'r arglawdd, gosod coredau, ac adfer difrod sgwrio ar yr arglawdd yn llwyr.
Bydd y bont droed newydd yn cydymffurfio â gofynion cynllun Teithio Llesol, a bydd ei haliniad yn cael ei wella o gymharu â'r strwythur presennol. Bydd gwaith goleuadau a llwybrau troed cysylltiedig yn cael ei gwblhau yn rhan o'r cynllun. Bydd gwaith tirlunio a gwelliannau ecolegol hefyd yn cael eu cwblhau ar ôl prif gam y gwaith.
Bydd y llwybr droed rhwng Heol Tyn-y-bryn a Lôn y Parc ar gau am gyfnod o'r prif gynllun, a hynny yn fesur angenrheidiol yn sgil dymchwel y bont. Bydd gwasanaeth bws gwennol rhad ac am ddim ar waith tra bydd y llwybr droed ar gau – bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu â thrigolion yn nes at yr amser.
Bydd y contractwr yn defnyddio'r tir oddi ar yr A4119 ar gyfer ei swyddfeydd ar y safle, tra bydd darn o dir segur i'r gogledd o Feddygfa Park Lane yn cael ei ddefnyddio ar gyfer parcio ceir staff a chyfleuster lles bychan. Fydd dim rhan o faes parcio'r feddygfa yn cael ei defnyddio gan y contractwr. Roedd hwn yn gynnig blaenorol ond nid yw'n cael ei ystyried bellach.
Wedi ei bostio ar 03/04/2023