Skip to main content

Caniatâd cynllunio ar gyfer llety gofal arbenigol yng Ngelli

Bronllwyn specialist accommodation gelli

Mae'r Cyngor wedi derbyn caniatâd cynllunio llawn i godi llety gofal arbenigol newydd ar gyfer oedolion a phobl hŷn ag anableddau dysgu. Bydd y llety'n cael ei godi ar hen safle Cartref Gofal Preswyl Bronllwyn yng Ngelli.

Trafododd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu y cais yn ei gyfarfod ddydd Iau, 20 Ebrill, a chytunodd aelodau'r pwyllgor ag argymhellion swyddogion i roi caniatâd cynllunio. Mae'r caniatâd yn cynnwys dymchwel yr adeiladau presennol sydd ar y safle yn Heol Colwyn, ac adeiladu llety newydd sy'n cynnwys ystafell dawel ac 13 ystafell wely - pob un â'i hystafell ymolchi fach ei hun.

Ym mis Gorffennaf 2022, cytunodd Aelodau’r Cabinet ar becyn cyllid gwerth £4.979 miliwn ar gyfer y datblygiad. Cafodd y datblygiad ei gynnwys yn rhaglen gyfalaf ehangach y Cyngor hefyd, sef rhaglen a gafodd ei chytuno yn 2020 i foderneiddio cyfleusterau gofal preswyl y Cyngor.

Bydd yr adeilad newydd yn cynnwys is-lawr gwaelod, llawr gwaelod a llawr cyntaf. Ar y lloriau yma, bydd nifer o gyfleusterau gan gynnwys ardal fynedfa, cyfleuster golchi dillad, ystafell orffwys i staff, tair ystafell ddydd, tair ystafell synhwyraidd, cegin fasnachol, toiledau, gorsaf nyrsys, siop trin gwallt, ystafell ymolchi â chymorth ac ystafell hyfforddi. 

Bydd y datblygiad ehangach yn cynnwys nodweddion draenio cynaliadwy a chwrt mawr i'r gorllewin o'r adeilad a fydd yn darparu man awyr agored i breswylwyr a staff y cyfleuster. Bydd mynediad i'r safle'n parhau yn yr un lle ag y mae e ar hyn o bryd, sef ar Heol Colwyn a Stryd Smith, a bydd y maes parcio yn aros hefyd. Bydd dau le parcio newydd yn cael eu hadeiladu i'r dwyrain o'r adeilad newydd.

Wrth argymell y cais i'w ganiatáu, nododd adroddiad swyddog i gyfarfod ddydd Iau fod y datblygiad yn gynllun wedi'i deilwra. Ei nod diwallu anghenion gofal lleol trwy helpu i fynd i'r afael â diffyg llety gofal preswyl arbenigol. Mae'r adeilad hefyd wedi ei glustnodi ar gyfer safle tir llwyd ac wedi'i ystyried yn dderbyniol mewn perthynas ag ystyriaethau cynllunio perthnasol.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rwy’n falch bod caniatâd cynllunio llawn bellach wedi’i roi i’r Cyngor adeiladu llety gofal arbenigol newydd ar gyfer pobl hŷn ar safle hen gartref gofal a chanolfan oriau dydd Bronllwyn. Cymeradwyodd Aelodau’r Cabinet y datblygiad y llynedd – gan ddyrannu pecyn cyllid gwerth £4.9 miliwn i ddarparu llety modern sy’n cynnig cymorth wedi’i deilwra drwy'r dydd, bob dydd, gan helpu i ddiwallu anghenion cynyddol gymhleth pobl hŷn.

“Bydd y datblygiad yng Ngelli yn ategu'r ymrwymiad gwnaethon ni yn 2017 o glustnodi £50 miliwn er mwyn moderneiddio darpariaeth gofal preswyl i bobl hŷn drwy ddarparu 300 o welyau gofal ychwanegol ar draws pum datblygiad newydd yn Rhondda Cynon Taf. Mae cynlluniau diweddar yn Aberaman a Phontypridd wedi darparu 100 o welyau tuag at y targed yma. Yn ogystal â hynny, cytunodd y Cabinet ar fuddsoddiad cyfalaf ar wahân gwerth £60 miliwn ym mis Chwefror 2023 i greu pedwar llety gofal newydd o’r radd flaenaf yn Nhreorci, Glynrhedynog, Aberpennar a Phentre’r Eglwys.

“Bydd penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ddydd Iau yn caniatáu i’r Cyngor fwrw ymlaen â’r datblygiad newydd yng Ngelli. Rwy’n edrych ymlaen at weld camau cyntaf y cynllun yma ar waith, ac wedyn gweld y gwaith yn datblygu dros y misoedd nesaf i drawsnewid y safle segur yma'n gyfleuster o’r radd flaenaf.”

Yn flaenorol, roedd y safle ar Heol Colwyn yn gartref gofal ac yn ganolfan oriau dydd. Yn 2020, cytunodd y Cabinet i ddadgomisiynu Cartref Gofal Preswyl Bronllwyn, ac ystyried datblygiad newydd yn ei le i ddiwallu newidiadau o ran angen a galw. Doedd dim preswylwyr o gwbl yn byw yn y cartref gofal ar y pryd.

Cafodd Canolfan Oriau Dydd Bronllwyn ei chau yn 2020 oherwydd cyfyngiadau Covid-19, ac mae wedi parhau ar gau (ar wahân i fis Awst i fis Rhagfyr 2021, pan agorodd dri diwrnod yr wythnos). Cafodd ei chau'n barhaol yn rhan o benderfyniad y Cabinet ym mis Gorffennaf 2022 i gymeradwyo llety arbenigol ar gyfer y safle. Bydd trefniadau gofal a chymorth amgen ar gyfer defnyddwyr blaenorol y ganolfan oriau dydd yn parhau hyd nes y bydd modd cynnig y trefniadau yma yng nghynllun Gofal Ychwanegol Porth yn y dyfodol.

Wedi ei bostio ar 28/04/2023