Skip to main content

Diweddariad: Ail gam y gwaith i gwblhau atgyweiriadau ar Bont Imperial Porth

Imperial Bridge in Porth

**DIWEDDARIAD, 04/05/23 - mae contractwr y Cyngor wedi dweud mai’r dyddiad newydd ar gyfer dechrau ar y cynllun yma fydd dydd Mawrth, 9 Mai. Mae'r wybodaeth isod wedi'i diweddaru i adlewyrchu hyn.

 

Bydd y cynllun pwysig i atgyweirio ac adnewyddu Pont Imperial Porth yn parhau ar y safle o ddydd Mawrth, 2 Mai. Fel y cyhoeddwyd y llynedd, dyma ail gam y gwaith sydd yn angenrheidiol i amddiffyn y strwythur ar gyfer y dyfodol.

Cafodd cam cyntaf y gwaith ei gynnal drwy gydol 2022, a chafwyd cyfnod o oedi ym mis Tachwedd i gydymffurfio â chyfyngiadau tymhorol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer gweithio yn yr afon. Bydd y cynllun cyffredinol yn gwneud atgyweiriadau gwaith dur i elfennau strwythurol y bont, ail-baentio'r gwaith dur a'r parapetau, gosod uniadau ymestyn a chwblhau'r gwaith o osod wyneb newydd ar y ffordd gerbydau yn Heol Pontypridd.

Fe wnaeth y contractwr, Centregreat Ltd, gynnydd da pan gafodd ffordd ei chau'r llynedd, gan gwblhau'r holl waith dur a’r parapetau, paentio'r strwythur â phaent amddiffynnol ac amnewid berynnau deheuol y bont. Mae'r gwaith sy'n weddill yn cynnwys amnewid berynnau gogleddol y bont, gwaith adfer i adain fur, gwneud y bont yn wrth-ddŵr a'r gwaith terfynol o osod wyneb newydd i’r ffordd.

Bydd y contractwr yn parhau â'r gwaith o ddydd Mawrth, 2 Mai ac mae disgwyl i'r cynllun fod wedi'i gwblhau erbyn mis Medi 2023. Bydd safle'r gwaith yn cael ei ddefnyddio eto o 17 Ebrill a bydd ffordd yn cau eto, yn yr un modd â’r llynedd ar Heol Pontypridd. Bydd mynediad i gerddwyr o hyd ar draws y bont drwy gydol y cyfnod. Nodwch hefyd fod pob busnes lleol ar agor yn ôl yr arfer yn ystod cyfnod cau’r ffordd.

O 2 Mai, bydd ffordd amgen i draffig sy'n teithio tua'r gogledd tuag at Ganol Dref Porth ar hyd yr A4058, Stryd Porth, Heol y Gogledd a Heol Pontypridd. Dylai traffig sy'n teithio tua'r de tuag at Heol Eirw neu tuag at Bontypridd deithio ar hyd y B4278 Heol Llwyncelyn a'r A4058. Mae darlun o'r llwybrau amgen yma ar fap ar wefan y Cyngor, yma.

Fel y llynedd, fydd dim modd i unrhyw wasanaeth bws Stagecoach wasanaethu Heol Eirw i unrhyw gyfeiriad. Bydd gwasanaeth 132 (Caerdydd-Maerdy) yn gwasanaethu Canol Tref Porth i'r ddau gyfeiriad yn ôl yr arfer, ond ni fydd modd iddo wasanaethu Heol Eirw – gan ddargyfeirio ar hyd Heol Llwyncelyn a Phont Britannia. Bydd gwasanaethau 124 (Caerdydd-Maerdy) a 131 (Ysbyty Brenhinol Morgannwg-Maerdy) yn teithio ar hyd eu llwybr arferol tua'r de, ond byddan nhw'n gweithredu ar hyd yr A4058 wrth deithio tua’r gogledd, gan aros wrth Orsaf Heddlu Porth.

Bydd pob gwasanaeth bws arall yn gweithredu yn ôl yr arfer yn ystod cyfnod cau’r ffordd, gan gynnwys gwasanaethau 120/130, 133, 137, 138, 173 a 175.

Bydd gwasanaeth 150 (Gilfach Goch-Porth) ar gael i drigolion Heol Eirw, a hynny o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd gwasanaeth bws gwennol yn cael ei weithredu bob awr ar ddydd Sul gan gwmni Travel Xarrow a bydd yn cludo teithwyr ar hyd Heol Llwyncelyn i Ganol Tref Porth, i gysylltu â Gwasanaeth 132. Bydd teithiau tua'r gogledd o Morrison's Porth yn gweithredu rhwng 9.14am a 7.14pm, a bydd teithiau tua'r de o Heol Pontypridd (Neuadd y Gweithwyr Lewis Merthyr) yn gweithredu rhwng 8.14am a 5.14pm. Mae modd ffonio Xarrow Travel ar 07967 636659 i gael rhagor o wybodaeth.

Mae'r cynllun pwysig yma i atgyweirio ac adnewyddu'r Bont Imperial yn cael ei gynnal gyda chyllid gan Raglen Gyfalaf Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol y Cyngor. Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth i'r gwaith fynd rhagddo dros y misoedd nesaf.

Wedi ei bostio ar 04/05/23