Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi dyrannu dros £4.8 miliwn i Rondda Cynon Taf ar draws dwy raglen ariannu allweddol ar gyfer lliniaru llifogydd yn 2023/24 – gan ategu buddsoddiad sylweddol y Cyngor yn y maes yma.
Ddydd Mawrth 25 Ebrill, cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, y bydd Rhondda Cynon Taf yn derbyn tua £3.82 miliwn dros y flwyddyn nesaf drwy’r rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol - yn amodol ar y caniatâd priodol, caniatâd datblygu a chymeradwyo achosion busnes er mwyn bwrw ymlaen. Bydd y Cyngor hefyd yn derbyn £1.003 miliwn drwy'r rhaglen Grant Gwaith ar Raddfa Fach.
Mae'r grantiau yma wedi'u dyrannu ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd wedi'u targedu, ac mae llawer o'r rhain yn cael eu hategu gan gyfraniad o 15% gan Raglen Gyfalaf 2023/24 y Cyngor. Mae'r rhestr o gynlluniau a fydd yn elwa o'r buddsoddiad yma wedi'i chynnwys ar waelod y diweddariad yma. Mae Rhaglen Gyfalaf y Cyngor, a gafodd ei chytuno ym mis Mawrth 2023, yn dyrannu £750,000 ar gyfer gwelliannau Draenio/Perygl Llifogydd.
Mae'r cyllid a gyhoeddwyd ddydd Mawrth ar wahân i'r rhaglen gwerth £20.1 miliwn (ar gyfer 2023/24) i atgyweirio seilwaith lleol a gafodd ei ddifrodi gan Storm Dennis. Mae'r Cyngor hefyd wedi gwneud cais am gyllid Ffyrdd Cydnerth ar gyfer 2023/24 ac mae'n aros am y cyhoeddiad cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Rydw i’n croesawu’r gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru tuag at un o flaenoriaethau buddsoddi allweddol y Cyngor, sef gwella’r gallu i wrthsefyll llifogydd mewn ymateb i Newid yn yr Hinsawdd. Mae’r cyllid o £4.8 miliwn yn swm uwch ar gyfer 2023/24 o gymharu â’r llynedd, a bydd modd i'r Cyngor roi cyfraniadau o 15% ar gyfer nifer o’r cynlluniau - felly mae’r buddsoddiad cyffredinol yn y maes yma hyd yn oed yn fwy.
“Mae’r Cyngor hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni’r gwaith atgyweirio seilwaith Storm Dennis gwerth £20.1 miliwn dros y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn bwrw ymlaen â chynlluniau allweddol ar draws y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys amnewid Pont Castle Inn yn Nhrefforest, Heol Berw (Y Bont Wen) ym Mhontypridd, Pont Droed Tyn-y-bryn yn Nhonyrefail a Phont Droed y Bibell Gludo yn Abercynon.
“Bydd cadarnhad cyllid dydd Mawrth yn helpu'r Cyngor i barhau i fwrw ymlaen â'i raglen carlam o fuddsoddiad i liniaru llifogydd, gyda thua 100 o gynlluniau lleol wedi'u nodi a dros hanner o'r rhain eisoes wedi'u cyflawni. Roedd hefyd yn braf gweld yng nghyhoeddiad Llywodraeth Cymru fod cyllid pwysig hefyd yn cael ei ddyrannu ar gyfer cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru – sy’n gyfrifol am ein prif afonydd – yn ardal Rhondda Cynon Taf.”
Mae cynlluniau’r Cyngor a gafodd eu nodi yng nghyhoeddiad cyllido Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth wedi’u rhestru isod:
Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol*
- Stryd Abertonllwyd, Treherbert (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn £150,000)
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Afon Cynon/Stryd Wellington, Aberdâr (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn, £85,000)
- Teras Arfryn, Tylorstown (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn, £150,000)
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Heol Cefnpennar, Aberpennar (Achos Cyfiawnhad Busnes/Achos Busnes Amlinellol, £35,000)
- Cam 2 Cwmaman (adeiladu'r cynllun, £352,750)
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Camlas Cwmbach (adeiladu'r cynllun, £30,000)
- Gorsaf bwmpio Glenbói (adeiladu'r cynllun, £182,696)
- Gwernifor a Stryd Kingcraft, Aberpennar (adeiladu'r cynllun, £442,000).
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Maes y Ffynnon, Aberaman (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn, £100,000)
- Nant Gwawr, Aberaman (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn, £150,000)
- Teras Maes-y-dderwen, Cilfynydd (Achos Cyfiawnhad Busnes/Achos Busnes Amlinellol, £32,525)
- Adfer Corsydd Mawn, anhysbys/amrywiol (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn, £75,000)
- Stryd y Gwirfoddolwr, Pentre (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn, £800,000)
- Tirfounder/Heol Bro Teg, Cwmbach (adeiladu'r cynllun, £110,500)
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Trehafod (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn, £75,000)
- Cam 2 Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn, £950,000)
- Heol Tuberville, Porth (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn, £100,000)
*Mae'r cyllid uchod yn amodol ar y caniatâd priodol, caniatâd datblygu a chymeradwyaeth achosion busnes er mwyn bwrw ymlaen.
Rhaglen Grant Gwaith ar Raddfa Fach
- Teras Arfryn, Tylorstown (adeiladu'r cynllun, £148,750)
- Ail-leinio cwlfert Stryd Baglan, Treorci (adeiladu'r cynllun, £153,000)
- Stryd y Nant, Blaenrhondda (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn, £40,000)
- Heol y Dyffryn, Aberpennar (adeiladu'r cynllun, £89,250)
- Cilfach ganolog Teras y Waun, Ynyshir (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn, £40,000)
- Ail-leinio cwlfert Stryd Jones, Treorci (adeiladu'r cynllun, £140,250)
- Uwchraddio cilfach Nant Cae Dudwg, Cilfynydd (adeiladu'r cynllun, £63,750)
- Atgyweirio Difrod Sgwrfa Nant y Fedw, Abercynon (adeiladu'r cynllun, £136,850)
- Heol Penrhys, Ystrad (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn, £40,000)
- Ehangu telemetreg cyrsiau dŵr cyffredin, lleoliadau amrywiol (adeiladu'r cynllun, £25,500)
- Ail-leinio Tynywaun, Treherbert (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn, £25,000)
- Stryd y Buddugwr, Aberpennar (dyluniad manwl a/neu Achos Busnes Llawn, £25,000)
- Heol Ynys-hir, Ynys-hir (adeiladu'r cynllun, £76,500)
Wedi ei bostio ar 28/04/2023