Unwaith eto bydd Picnic y Tedis yn cael ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ddydd Gwener 23 Mehefin rhwng 10am a 2pm.
Mae'r achlysur hyfryd yma sy'n rhad ac am ddim yn addas ar gyfer meithrinfeydd, ysgolion, teuluoedd, a chynhalwyr â phlant 5 oed neu’n iau.
Wrth i'r plant fwynhau'r holl weithgareddau sydd ar gael, megis ffair fach, castell neidio, celf a chrefft a gemau, bydd gan yr oedolion gyfle i gael gwybodaeth hanfodol am y gwasanaethau sydd ar gael yn Rhondda Cynon Taf.
Eleni bydd perfformiad gan un o ddiddanwyr mwyaf adnabyddus Cymru, Martyn Geraint! Hefyd, bydd 'Cardboard City' yn rhan o'r achlysur am y tro cyntaf erioed! Dyma gyfle i'r plant ddefnyddio'u dwylo i adeiladu pentrefi chwarae a siopau o gardfwrdd.
Mae'r holl stondinau yn cynnig gwybodaeth sy’n berthnasol i deuluoedd a chynhalwyr sydd â phlant ifainc. Bydd gweithgareddau rhyngweithiol ar gael er mwyn i chi gael blas ar y gwaith maen nhw'n ei wneud.
Dyma rai o'r carfanau fydd yn yr achlysur:
Y Gwasanaeth Derbyn Disgyblion: Cewch chi wybod pryd a sut i gyflwyno cais am le mewn ysgol a chael cyfle i chwarae gêm crwban y môr.
Y Garfan Cynnig Gofal Plant: Cewch chi wybodaeth am y 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu yn RhCT, plannu hadau a gwneud collage gan ddefnyddio dail.
Chwaraeon RhCT: Dewch i roi cynnig ar y beiciau balans a dysgu rhagor am y gweithgareddau sydd ar gael i blant yn RhCT.
Cynllun Gwên: Dewch i gwrdd â masgot Dewi'r Ddraig, casglu brwshis dannedd am ddim a chael cyngor deintyddol i blant.
Y Garfan Cymorth Rhianta: Cewch chi wybodaeth ar sut i fanteisio ar gymorth wrth i'r plant fwynhau chwarae yn y tywod a chwarae gyda phyped Incy Wincy.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol "Mae Picnic y Tedis yn achlysur poblogaidd ar gyfer ein trigolion ifainc!
"Yn 2022, daeth miloedd o blant ac oedolion, teuluoedd a grwpiau ysgol i fwynhau'r gweithgareddau a chael gwybodaeth allweddol am y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.
“Mae'r achlysur yn rhoi cyfle i rieni a chynhalwyr ddysgu rhagor am y cymorth pwysig allai fod ar gael iddyn nhw megis Cynnig Gofal Plant Cymru sy'n cynnig 30 awr o ofal plant am ddim bob wythnos ar gyfer plant 3 a 4 oed.
"Gall y math yma o gymorth wneud gwahaniaeth sylweddol i deuluoedd, yn enwedig yn yr amgylchiadau presennol.
Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at gynnal Picnic y Tedis unwaith eto eleni ac at ddangos yr holl wasanaethau sydd ar gael i'n trigolion ieuengaf yn Rhondda Cynon Taf. Mae gwefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar gael drwy gydol y flwyddyn.
"Mae modd dod o hyd i wybodaeth am ystod eang o faterion ar y wefan – o dderbyn disgyblion i'r ysgol i'r cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer gofal plant. Ewch i www.teuluoeddrhct.co.uk i gadw tocynnau Picnic y Tedis am ddim, ac i siarad yn uniongyrchol ag aelod o'r garfan."
Mae mynediad i Bicnic y Tedis a'r holl weithgareddau am ddim. Dim ond hyn a hyn o docynnau sydd ar gael felly rhaid cadw lle ymlaen llaw. Nathaniel Cars sy'n noddi'r achlysur eleni.
Er mwyn cadw lle, ewch i dudalen
Wedi ei bostio ar 12/04/2023