Skip to main content

Trefniadau bws ar gyfer cynllun gosod wyneb newydd ar y ffordd yn ardal Cymer

Nodwch y bydd trefniadau bws amgen ar waith yr wythnos nesaf yn ystod cynllun gosod wyneb newydd lleol yng Ngwaun Bedw, Cymer.

Bydd y ffordd ar gau rhwng y cyffyrdd â Stryd Fawr a Stryd y Bedw/Stryd Sant Ioan – o 8am tan 4pm rhwng 14 a 21 Awst.

Mae llwybr amgen ar gael ar hyd Stryd Fawr a Stryd y Bedw – gweler map o'r ffordd sydd ar gau yma.

Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys ac i gerddwyr, yn ogystal ag i eiddo lleol.

Yn ystod y cyfnod y bydd y ffordd ar gau, fydd dim modd i wasanaeth 150 Stagecoach (Porth-Gilfach-goch) wasanaethu Gwaun Bedw.

Bydd yn teithio ar hyd Stryd Fawr (i gyfeiriad Gilfach-goch) a Heol Glynfach (i gyfeiriad Porth).

Dylai teithwyr ddefnyddio'r safle bysiau agosaf ar Stryd Fawr wrth deithio i'r naill gyfeiriad neu'r llall, neu'r safle ger Eglwys Sant Ioan (i gyfeiriad Porth yn unig).

Bydd gweddill taith gwasanaeth 150 yn parhau yn ôl yr arfer.

Diolch am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 11/08/2023