Skip to main content

Ymgynghoriad ar fuddsoddiad y dyfodol i Ganol Tref Aberdâr

Aberdare Town Centre CYM

Dyma gyfle i drigolion ddweud eu dweud ar Strategaeth ddrafft Canol Tref Aberdâr, sy'n cynnwys meysydd buddsoddi arfaethedig yn y dyfodol. Bydd chwe achlysur yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf, ond bydd modd i drigolion gymryd rhan ar-lein hefyd.

Y mis diwethaf cytunodd y Cabinet i ymgynghori â thrigolion ar strategaeth ddrafft sy'n amlinellu gweledigaeth y dyfodol ar gyfer Canol Tref Aberdâr gan osod nifer o nodau a deilliannau. Cafodd y Strategaeth ei llunio yn dilyn ymgysylltu cynnar â thrigolion a busnesau lleol - mae modd gweld crynodeb o'r nodau strategol, gweledigaeth y dyfodol a themâu buddsoddi allweddol ar waelod y diweddariad yma.

Dechreuodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddydd Llun 7 Awst a bydd yn rhedeg am chwe wythnos tan ddydd Llun 18 Medi. Mae modd i drigolion weld adnoddau'r ymgynghoriad ar-lein, ar wefan Dewch i Siarad Rhondda Cynon Taf. Mae'n cynnwys arolwg y mae modd ei gwblhau ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad.

Mae copïau papur o'r arolwg, crynodeb gweithredol y strategaeth ddrafft, a'r strategaeth yn ei chyfanrwydd ar gael ar gais o Lyfrgell Aberdâr. Mae croeso hefyd i drigolion ddod i'r achlysuron canlynol i gael dweud eu dweud:

  • Llyfrgell Aberdâr – dydd Mawrth, 8 Awst (10am-1pm)
  • Llyfrgell Hirwaun – dydd Iau, 10 Awst (10am-1pm)
  • Canolfan Hamdden Sobell, Aberdâr – dydd Mawrth, 15 Awst (4pm-7pm)
  • Cynon Linc, Aberdâr – dydd Iau, 17 Awst (10am-1pm)
  • Canolfan Cymuned Llwydcoed – dydd Mawrth, 12 Medi (10am-1pm)
  • Asda Cwm-bach (ôl-gerbyd) – dydd Iau, 14 Medi (10am-1pm).

Bydd swyddogion ar gael i drafod unrhyw agwedd ar y Strategaeth ddrafft ym mhob un o'r chwe achlysur. Mae croeso i drigolion ddod draw ar unrhyw adeg yn ystod yr amseroedd sydd wedi'u hamlinellu uchod, does dim rhaid cadw lle ymlaen llaw.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer Strategaeth ddrafft Canol Tref Aberdâr wedi dechrau, ac rydyn ni’n annog trigolion i gymryd rhan ar-lein neu drwy fynd i un o'r chwe achlysur yn y gymuned sydd wedi'u trefnu trwy gydol mis Awst a mis Medi. Bydd cyfle i siarad â swyddogion ynglŷn â gweledigaeth arfaethedig ar gyfer Aberdâr ac amcanion y Strategaeth ddrafft, sydd yn glasbrint ar gyfer buddsoddi yn y dref yn y dyfodol.

"Bwriad y broses yma ydy cael gwybod beth yw barn trigolion, busnesau a rhanddeiliaid allweddol ar Aberdâr, ac i ddarganfod os yw'r bobl leol yn cytuno â'r themâu buddsoddi sydd wedi'u hamlinellu yn y Strategaeth ddrafft. Roedd yr ymarfer ymgysylltu cynnar yn werthfawr er mwyn llywio'r drafft, a bydd yr adborth sy'n dod i law yn yr ymgynghoriad presennol yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r ddogfen ymhellach cyn cymryd y camau terfynol tuag at fabwysiadu'r strategaeth yn ffurfiol.

"Er ein bod ni'n effro i'r ffaith bod canol trefi yn parhau i wynebu heriau sylweddol, mae'n bwysig cofio bod gyda ni nifer o resymau i fod yn gadarnhaol am ddyfodol Aberdâr, a chanol trefi ledled Rhondda Cynon Taf. Mae Ardal Gwella Busnes Caru Aberdâr yn cynrychioli dros 250 o fasnachwyr i sicrhau cymuned busnesau lleol cryf - gydag adeiladau nodedig megis Gwesty’r Boot, Hen Neuadd y Dref a thafarn y Black Lion yn cael eu defnyddio unwaith yn rhagor.   

"Y tu allan i ganol y dref, mae buddsoddiad sylweddol wedi bod yn safle Sobell, adeilad newydd Coleg y Cymoedd a'r unedau busnes newydd yn Nhresalem. Yn ogystal â hynny, bydd Aberdâr yn elwa o welliannau i wasanaethau'r rheilffordd trwy Fetro De Cymru. Mae’r Cabinet wedi cytuno i chwilio am bartner datblygu ar gyfer y gwaith arfaethedig o ailddefnyddio safle'r Rock Grounds, gan ei newid i fod yn westy, bwyty, bar a sba y bydd modd i’r gymuned eu defnyddio.

"Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg tan 18 Medi - ac rwy'n annog trigolion, busnesau ac ymwelwyr ag Aberdâr i ddweud eu dweud, boed hynny ar-lein neu wyneb yn wyneb. Po fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan, y mwyaf o benderfyniadau gwybodus y bydd modd i ni eu gwneud wrth gynllunio buddsoddi yn y dyfodol, i wella canol tref Aberdâr i fod yn fwy deniadol ac i annog rhagor o ymwelwyr ag Aberdâr."

Mae strategaeth ddrafft Canol Tref Aberdâr yn nodi’r weledigaeth ganlynol:

"Adeiladu ar dreftadaeth unigryw a lleoliad strategol Aberdâr i greu cyrchfan mwy bywiog, deinamig a deniadol i drigolion lleol ac ymwelwyr". Mae'r amcanion strategol yn cynnwys:

  • Gwella cynaliadwyedd trwy gynyddu nifer yr ymwelwyr a sicrhau cyfran fwy o wariant gan ymwelwyr.
  • Manteisio i'r eithaf ar safleoedd ac adeiladau yng nghanol y dref i amrywio'r ystod o wasanaethau ac amwynderau a ddarperir.
  • Gwella’r defnydd diogel o fannau cyhoeddus ar lefel y strydoedd, a darparu cysylltiadau gwell â chyrchfannau cyfagos.
  • Helpu i ddatblygu rhagor o amrywiaeth o ran busnesau yn y dref ar gyfer ymwelwyr ac anghenion lleol.
  • Gwella edrychiad cyffredinol a hunaniaeth canol y dref.

Mae chwe thema buddsoddi wedi’u cyflwyno er mwyn helpu i gyflawni’r amcanion yma:

  • Ailddatblygu ac ailddefnyddio adeiladau cyfredol i ddarparu bwytai o ansawdd uchel, llety i ymwelwyr, mannau gwaith, a safleoedd manwerthu unigryw.
  • Gweithio gyda busnesau a’r gymuned i ddod â stori Aberdâr yn fyw, gan wneud arlwy a threftadaeth y dref yn fwy gweladwy, ac atgyfnerthu ei hardal gadwraeth.
  • Cryfhau hunaniaeth y dref fel lle dymunol i fyw a gweithio ynddi, yn ogystal ag ymweld â hi, drwy gyfoethogi profiad yr ymwelydd ac ehangu'r arlwy cyfredol i dwristiaid.
  • Gwella a hyrwyddo llwybrau cerdded/beicio a gosod rhagor o arwyddion, gan gynnwys rhai i gyrchfannau cyfagos.
  • Gwella mannau agored canol y dref ymhellach, cefnogi bioamrywiaeth, creu mannau o ansawdd uchel ar gyfer busnesau newydd a chyfleoedd hamdden, yn ogystal â chynnal rhagor o achlysuron.
  • Meithrin partneriaethau lleol ac adeiladu ar waith da Ardal Gwella Busnes Caru Aberdâr i sefydlu mentrau newydd a chefnogi busnesau ymhellach.
Wedi ei bostio ar 07/08/23