Mwynhewch brofiad pysgota ar gronfa ddŵr tair erw wych ym Mharc Gwledig Cwm Dâr.
Mae Pysgodfa Frithyll Cwm Dâr yn baradwys i bysgotwyr, gan gynnig cyfleoedd pysgota traddodiadol ar gyfer pysgotwyr o bob gallu. Mae hyn yn cynnwys Brithyll Seithliw a Brithyll Brown sy'n amrywio mewn pwysau o isafswm o 3 phwys hyd at 20 pwys a mwy.
Mae'r bysgodfa'n cynnig pecynnau hanner diwrnod, diwrnod llawn ac arbennig, ynghyd â gwersi pysgota ar gyfer grŵp a phecynnau corfforaethol. Mae prisiau'n seiliedig ar nifer y pysgod rydych chi'n cael eu dal a'u cadw:
- Tocyn dau bysgodyn – £40
- Tocyn tri physgodyn – £55
- Tocyn pedwar pysgodyn – £70
Mae'r cyfleusterau ar y safle'n cynnwys parcio am ddim, toiledau a lluniaeth ysgafn.
Bydd modd llogi offer pysgota yn fuan hefyd.
Mae Pysgodfa Frithyll Cwm Dâr hefyd yn brosiect cymunedol a chadwriaethol, sydd â gweledigaeth i warchod a datblygu amgylchedd naturiol hardd Parc Gwledig Cwm Dâr.
Cofiwch, mae Parc Gwledig Cwm Dâr ehangach yn gartref i Barc Disgyrchiant; y parc beiciau ar gyfer teuluoedd pwrpasol cyntaf y DU, sy'n cynnwys traciau pwmp, llwybrau mynydd a chwrs beiciau cydbwysedd. Mae hefyd yno faes chwarae antur, caffi ar y safle, llawer o deithiau a llwybrau cerdded, llety ar y safle a maes carafanau/cerbydau gwersylla/cartrefi modur.
Ffôn: 07488339063
Gwefan: www.darevalleytroutfishery.co.uk
Wedi ei bostio ar 15/08/23