Bydd y llwybr cerdded dros Bont Heol Berw (y Bont Wen) ar gau dros dro o 14 Awst, wrth i sgaffaldiau gael eu symud a'u hadleoli ar gyfer gwaith atgyweirio i ran olaf y bont. Mae'r Cyngor wedi darparu’r newyddion diweddaraf am y prosiect ehangach yma.
Cafodd Pont Heol Berw, neu’r Bont Wen, ei difrodi gan Storm Dennis, a chafodd ei chau ar unwaith ym mis Chwefror 2020 er diogelwch y cyhoedd. Gweithiodd y Cyngor yn agos gyda Cadw i gael caniatâd i wneud gwaith atgyweirio mawr ar y strwythur rhestredig, sydd hefyd â phibell nwy arni.
Yn dilyn gwaith atgyweirio cychwynnol, cafodd y bont ei hailagor dros dro i draffig a cherddwyr ym mis Tachwedd 2021 tra roedd y prif gynllun yn cael ei baratoi. Dechreuodd y prif waith yn 2022, ac roedd yn rhaid cau'r bont i yrwyr. Mae'r Cyngor wedi bod yn glir drwy gydol y broses bod hwn yn gynllun mawr sy'n gofyn am gau'r Bont Wen am gyfnod sylweddol o amser.
Y newyddion diweddaraf am gynnydd y cynllun –Awst 2023
Bydd mynediad i gerddwyr dros y Bont Wen yn cael ei wahardd dros dro o ddydd Llun, 14 Awst, wrth i'r cynllun symud ymlaen i gam olaf y gwaith atgyweirio mewn perthynas â strwythur y bont. Hyd yma, mae pedwar o'r pum cam o waith atgyweirio concrit i wahanol rannau o'r bont wedi'u cwblhau. Bydd y sgaffaldiau yn cael eu tynnu a'u hadleoli i ran olaf y bont o 14 Awst ymlaen.
Bydd y Cyngor yn rhannu’r newyddion diweddaraf â thrigolion pan fydd modd adfer y mynediad i gerddwyr – mae disgwyl y bydd hyn ymhen tua phedair wythnos.
Mae gwaith diweddar wedi cynnwys cwblhau cam pedwar o’r cynllunatgyweirio concrit ar ran y bont ble mae'r sgaffaldiau ar hyn o bryd. Mae mesurau amddiffyn rhag sgwrio wedi'u gosod ar golofn y gogledd (ochr y bont sydd agosaf i Heol Berw), tra bod rhwydi pridd ac angorau creigiau wedi'u gosod i sefydlogi'r arglawdd i fyny'r afon o'r bont (ochr Y Rhodfa). Mae’r broses o ail-bwyntio gwaith maen y waliau a'r ategweithiau hefyd wedi'i chwblhau ar ddwy ochr y bont.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd cam olaf y gwaith atgyweirio concrit ar y bont yn dechrau pan fydd y sgaffaldiau wedi'u hadleoli. Unwaith y bydd y cam yma wedi dechrau, bydd y contractwr yn dechrau nodi maint a lleoliadau'r gwaith atgyweirio strwythurol angenrheidiol. Bydd yr amserlen ar gyfer cwblhau’r cynllun cyffredinol yn dibynnu ar yr hyn a gaiff ei ddarganfod unwaith y bydd deunydd concrit gwreiddiol y bont wedi’i dynnu o’r safle.
Unwaith y bydd cam olaf y gwaith atgyweirio concrit wedi’i gwblhau, bydd troedffyrdd a ffyrdd cerbydau presennol y bont yn cael eu symud (ynghyd â dargyfeirio cyfarpar nwy a dŵr) er mwyn gosod wyneb sy'n dal dŵr ar ddec concrit y bont.
Bydd elfennau olaf y cynllun cyffredinol yn cynnwys adfer y cyfarpar nwy/dŵr, ailosod y ffordd a’r troedffyrdd, adnewyddu draeniau’r briffordd dros y bont, ailosod colofnau goleuadau stryd, adnewyddu’r parapetau presennol ar y bont, ac ailosod rheiliau addurnol ar y bont yn Y Rhodfa. Bydd manylion pellach yn cael eu rhannu am yr elfennau yma maes o law.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus wrth i'r cynllun mawr yma ddechrau ar ei gamau olaf, a hynny er mwyn diogelu'r strwythur rhestredig ar gyfer y dyfodol er budd hirdymor y gymuned leol.
Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni drwy raglen fawr ar gyfer gwaith atgyweirio yn sgil Storm Dennis yn Rhondda Cynon Taf (2023/24), sy'n cael ei hariannu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.
Wedi ei bostio ar 10/08/2023