Mae'n bleser gan y Cyngor ymestyn ei ddarpariaeth o'r rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi - gan gynnwys disgyblion Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4 a rhagor o ddisgyblion oed meithrin cymwys.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Awdurdod Lleol er mwyn gwireddu'i bwriad o ddarparu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd erbyn 2024. Mae'r rhaglen yn ymateb i bwysau costau byw cynyddol ar deuluoedd, ac yn ceisio cyflawni nod cyffredin - nad oes unrhyw blentyn yn llwgu yn yr ysgol. Cafodd y rhaglen ei chyflwyno mewn camau ledled Cymru ym mis Medi 2022.
Hyd yn hyn, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyflwyno'r polisi Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn llwyddiannus ar gyfer disgyblion oed Derbyn (o fis Medi 2022 ymlaen), Blwyddyn 1 (o fis Ionawr 2023 ymlaen) a Blwyddyn 2 (o fis Ebrill 2023). Mae disgyblion oed meithrin sy'n gymwys wedi derbyn y ddarpariaeth ers mis Ionawr 2023 hefyd.
Bydd cam nesaf y ddarpariaeth yn cael ei gyflwyno ddydd Llun 4 Medi. Bydd yn cynnwys pob disgybl ym Mlwyddyn 3 a Blwyddyn 4, ynghyd â disgyblion oed meithrin sy'n 4 mlwydd oed rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Awst 2023.
Gan ddilyn yr amserlenni gafodd eu gosod gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cyngor hefyd ar y trywydd cywir i ymestyn y rhaglen ymhellach ym mis Ebrill 2024. Bydd hyn yn ymestyn y cynnig i gynnwys disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6, a rhagor o ddisgyblion oed meithrin cymwys.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Mae'r Cyngor yn gwneud cynnydd ardderchog wrth gyflwyno'r rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yma yn Rhondda Cynon Taf - ac rwy'n falch iawn bydd rhagor o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim o fis Medi ymlaen. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i nifer o deuluoedd yn y cyfnod anodd yma, pan mae Costau Byw'n parhau'n uchel yn ogystal â phrisiau bwyd yn parhau i gynyddu.
"Bydd yn golygu fod pob disgybl o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 4 yn ogystal â disgyblion derbyn a disgyblion cymwys oed meithrin yn derbyn prydau ysgol maethlon am ddim pan maen nhw'n dychwelyd i'r ysgol dros yr wythnosau nesaf. Rydyn ni hefyd yn rhoi trefniadau mewn lle i ymestyn y cynnig yma ymhellach i ddisgyblion ym Mlwyddyn 5 a Blwyddyn 6 ym mis Ebrill 2024, i gyd-fynd â'r amserlenni sydd wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru.
"Mae bwyta prydau iach yn cael effaith gadarnhaol enfawr ar iechyd a lles plant. Rwy'n falch bydd y cymorth yma'n helpu rhagor o deuluoedd yn fuan - mae hyn yn bosib o ganlyniad i'r ddarpariaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r cydweithio agos rhwng Gwasanaethau Arlwyo'r Cyngor â'n hysgolion."
Wedi ei bostio ar 31/08/2023