Dyma roi gwybod i drigolion y bydd rhagor o waith ar y safle ym maes parcio'r Ynys/Canolfan Hamdden Sobell yn Aberdâr am chwe diwrnod, yn dechrau ddydd Sadwrn, 26 Awst.
Mae Trafnidiaeth Cymru ac Amey yn parhau â'r gwaith i adeiladu platfform newydd ar gyfer Gorsaf Drenau Aberdâr, gan ddefnyddio maes parcio'r Ynys fel y safle ar gyfer y peiriannau/offer.
Mae’r Cyngor wedi cael gwybod, er mwyn gwneud y cynnydd angenrheidiol, y bydd craen mawr yn cael ei leoli ar y safle a bydd yn llenwi llawer o’r lle.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i rai o'r peiriannau mawr sydd fel arfer yn cael eu defnyddio yn y safle ar gyfer y peiriannau/offer deithio trwy'r prif faes parcio.
Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio safle'r Ynys rhwng dydd Sadwrn, 26 Awst a dydd Iau, 31 Awst.
Mae'r gwaith wedi'i amserlennu ar gyfer gwyliau'r ysgol er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar drigolion. Bydd Canolfan Hamdden Sobell yn parhau i fod ar agor yn ôl yr arfer.
Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 23/08/2023