Skip to main content

Llawer i fod yn falch ohono ar Ddiwrnod Canlyniadau TGAU 2023

GCSC-results-WELSH

Mae disgyblion Blwyddyn 11 ledled y Fwrdeistref Sirol wedi mynd i'w hysgolion ddydd Iau 24 Awst i gasglu canlyniadau eu cymwysterau TGAU.

Dyma benllanw pum mlynedd o waith caled ac ymroddiad gan ddisgyblion trwy gydol eu hamser yn yr ysgol uwchradd. Mae gan ysgolion, disgyblion a'u teuluoedd ledled Rhondda Cynon Taf lawer i'w ddathlu a bod yn falch ohono.

Nodwch fod cymorth a chyngor parhaus ar gael i ddisgyblion nad ydyn nhw'n siŵr am eu camau nesaf – a hynny gan staff ysgolion a Gyrfa Cymru. Rydyn ni wedi cynnwys dolenni defnyddiol ar waelod y diweddariad yma.

Y bore yma mae Aelod o Gabinet y Cyngor ar faterion Addysg wedi anfon neges o longyfarchiadau a diolch at yr holl ddisgyblion, staff ysgolion, a rhieni/gwarcheidwaid.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Llongyfarchiadau i holl ddisgyblion Rhondda Cynon Taf sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU y bore yma. Mae eich cyflawniadau rhagorol yn dilyn eich gwaith caled a dyfalbarhad drwy gydol eich amser yn yr ysgol uwchradd.

“Mae'n wych gweld disgyblion a staff yn gwenu yn ein hysgolion y bore yma. Hoffwn i ddymuno pob lwc i bob disgybl Blwyddyn 11 wrth i chi gychwyn ar ran nesaf eich taith – boed hynny’n dychwelyd i’r chweched dosbarth, mynychu’r coleg, dechrau hyfforddiant, neu gamu i fyd gwaith.

“Mae hefyd yn bwysig cydnabod na fyddai ein disgyblion wedi llwyddo heb ein staff ysgol gwych a chymuned ehangach yr ysgol - sy'n cynnwys rhieni a gwarcheidwaid. Diolch am eich ymroddiad i'n pobl ifainc bob dydd.”

Dolenni defnyddiol:

Wedi ei bostio ar 24/08/23