Skip to main content

Cymuned a staff yn ganolog i gwmni RhCT!

Mae busnes sy'n derbyn cymorth Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dangos ei fod yn cadw ei weithwyr a'r gymuned leol yn ddiogel!

Mae Vision Products ym Mhont-y-clun yn darparu ystod amrywiol o nwyddau a gwasanaethau, a hynny ochr yn ochr â rhoi cymorth ystyrlon, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i unigolion sydd ag anableddau yn y gymuned leol. Mae'r cwmni bellach yn sicrhau y bydd gan weithwyr a'r gymuned leol y cymorth sydd ei angen yn ystod argyfwng ar ôl gosod diffibriliwr newydd sydd hefyd ar gael i'r cyhoedd.

Mae'r diffibriliwr newydd wedi cael ei osod ar ochr adeilad y brif ffatri yn Lôn Coedcae, Pont-y-clun, ac mae hefyd ar gael i'r cyhoedd.

Yn ôl amcangyfrifon British Heart Foundation (BHF), mae dros 30,000 o bobl yn cael ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty bob blwyddyn yn y DU, ond mae llai nag un ym mhob 10 o bobl yn goroesi. Gall adfywio cardio-pwlmonaidd a diffibrilio ar unwaith fwy na dyblu siawns unigolyn o oroesi.

Mae BHF hefyd yn nodi "am bob munud y mae'n cymryd i'r diffibriliwr gyrraedd unigolyn a rhoi sioc, mae'r siawns o oroesi'n mynd yn llai.” I Vision Products sydd â nifer o weithwyr ag ystod eang o anableddau a chyflyrau iechyd hir dymor, gan gynnwys cyflyrau'r galon, mae'r diffibriliwr yn adnodd amhrisiadwy allai achub bywydau. Mae modd i wirfoddolwyr, staff a'r gymuned leol ehangach ei ddefnyddio.

Mae'r diffibriliwr wedi cael ei gofrestru ar ‘The Circuit’ (sef y rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol).

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mae Vision Products yn fusnes gwych sy'n darparu swyddi i dros 100 o bobl yn yr ardal leol. Mae gan 60-70% o'r bobl hynny anabledd neu gyflwr iechyd hir dymor. Mae'r gweithwyr a'r gymuned yn ganolog i'r busnes ac mae'r adnodd yma allai achub bywydau yn dystiolaeth o hynny! Rydyn ni'n gwybod y gall mynediad cyflymach at ddiffibriliwr yn dilyn ataliad y galon wella'r siawns o oroesi felly mae'n wych clywed bod y diffibriliwr yma wedi cael ei osod.

Mae angen dod o hyd i ddiffibriliwr cyn gynted â phosibl er mwyn helpu rhywun sy'n cael ataliad y galon i oroesi. Am bob munud y mae'n cymryd i'r diffibriliwr gyrraedd unigolyn a rhoi sioc, mae'r siawns o oroesi yn mynd yn llai. Cyn i chi ei angen mewn argyfwng, mae'n ddefnyddiol dod o hyd i'ch offer agosaf – ewch i https://www.defibfinder.uk/.

Mae modd gweld manylion am sut a phryd i ddefnyddio diffibriliwr yma – https://www.bhf.org.uk/how-you-can-help/how-to-save-a-life/defibrillators

Am ragor o wybodaeth am waith, gwasanaethau a nwyddau gwych Vision Products, gan gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli a swyddi, ewch i www.rctcbc.gov.uk/VisionProducts

Wedi ei bostio ar 10/08/23