Skip to main content

Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dathlu'iymrwymiad i'r cyflog byw gwirioneddol

LivingWageWales

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf bellach wedi cael ei achredu'n Gyflogwr Cyflog Byw. Bydd ein hymrwymiad i’r Cyflog Byw yn golygu na fydd unrhyw un sy'n gweithio i'r Cyngor yn derbyn cyflog sy'n is na’r isafswm cyflog , sef £10.90 yr awr ar hyn o bryd. Mae hyn yn uwch nag isafswm y Llywodraeth ar gyfer unigolion sy'n hŷn na 23 oed, sef £10.42 yr awr ar hyn o bryd.

Mae’r cyhoeddiad yma ynglŷn â’r achrediad yn dilyn penderfyniad y Cabinet yn 2021 sydd wedi sicrhau bod holl weithwyr gofal cymdeithasol i oedolion annibynnol dan gontract, ynghyd â’r rheiny sy’n derbyn taliadau uniongyrchol, wedi derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol ers 2021. Roedd y Cyngor eisoes yn darparu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol mewnol a gweithwyr gofal cartref yn y sector annibynnol.

Yng Nghymru, mae mwy nag un o bob deg gweithiwr (11.8%) yn ennill cyflog sy’n is na'r hyn sydd ei angen arnyn nhw i gynnal eu hunain, gyda thua 144,000 o swyddi'n talu llai na'r Cyflog Byw Gwirioneddol. Er hyn, rydyn ni wedi ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn Rhondda Cynon Taf.

Y Cyflog Byw Gwirioneddol yw'r unig gyfradd sydd wedi'i chyfrifo'n unol â chostau byw. Mae'n darparu meincnod gwirfoddol i gyflogwyr sy'n dymuno sicrhau bod staff yn ennill cyflog rhesymol sy'n caniatáu iddyn nhw gynnal eu hunain, nid isafswm y Llywodraeth. Ers 2011, mae ymgyrch y Cyflog Byw wedi darparu codiad cyflog i dros 450,000 o bobl ac wedi rhoi £2 biliwn yn ychwanegol ym mhocedi gweithwyr cyflog isel.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:

"Rwy'n falch iawn bod Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cael ei achredu'n Gyflogwr Cyflog Byw.

"Roedden ni eisoes yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i lawer o'n staff, yn enwedig y rheiny sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, fodd bynnag, rydyn ni bellach wedi mynd y tu hwnt i hynny. 

"Mae pawb yn elwa o gyflog gwell, gan gynnwys y person sy'n ei dderbyn a’r busnesau lleol lle maen nhw'n siopa. Mae hefyd yn ein helpu ni fel cyflogwr i ddenu a chadw'r staff sy'n darparu'r gwasanaethau hanfodol hynny y mae bron i chwarter miliwn o drigolion Rhondda Cynon Taf yn dibynnu arnyn nhw."

Meddai'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn:

"Rwy'n falch iawn bod Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cael ei achredu’n Gyflogwr Cyflog Byw. Mae hyn yn gyflawniad enfawr fydd yn rhoi rhagor o arian ym mhocedi ei weithlu.

"Mae hefyd yn enghraifft ymarferol o'r swyddogaeth bwysig sydd gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru i arwain drwy esiampl wrth ymdrin â'r Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae Cynnal Cymru wedi ymrwymo i barhau i adeiladu ar y llwyddiant yma drwy gydol y flwyddyn er mwyn annog cyflogwyr eraill i wneud yr un peth."

Meddai Arweinydd y Rhaglen Cyflog Byw i Gymru, Harry Thompson:

"Rydyn ni'n falch iawn o groesawu Cyngor Rhondda Cynon Taf i deulu Cyflog Byw i Gymru, gan ymuno â dros 500 o gyflogwyr sy'n cyflogi mwy na 150,000 o weithwyr.

"Mae Cyflog Byw i Gymru newydd ddathlu ei mis mwyaf llwyddiannus, ac rydyn ni'n falch iawn o weld y momentwm y mae Cyflog Byw i Gymru yn ei ddatblygu a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar leihau tlodi mewn gwaith. Ein neges i bob cyflogwr yng Nghymru yw dyw ymuno â'r mudiad yma ddim y tu hwnt i'ch cyrraedd - mae modd i Gyflog Byw i Gymru weithio gyda chi fel bod modd i chi sicrhau achrediad a mwynhau’r buddion sy’n gysylltiedig â  bod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol. Bydden ni'n annog pob cyflogwr yng Nghymru i gysylltu â Chyflog Byw i Gymru er mwyn trafod dod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol."

 

Wedi ei bostio ar 07/08/2023