Bydd trigolion yn sylwi ar waith i uwchraddio’r seilwaith draenio ar sawl stryd yn Aberpennar o’r wythnos nesaf ymlaen – gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru gwerth dros hanner miliwn o bunnoedd a gafodd ei sicrhau gan y Cyngor.
Bydd Carfan Gofal y Strydoedd y Cyngor yn dechrau'r cynllun dydd Llun, 14 Awst, ar y cyd â’r is-gontractwr sydd wedi’i benodi, Arch Services. Mae disgwyl i'r gwaith bara tua chwe wythnos, gan ganolbwyntio ar sawl lleoliad – gan gynnwys Stryd Kingcraft, Stryd Gwernifor, Clas Gwernifor a Brynifor.
Bydd y cynllun yn uwchraddio'r isadeiledd i wella capasiti'r rhwydwaith a lliniaru'r perygl o lifogydd pan fydd glaw trwm. Bydd y gwaith yn cynnwys gosod leinin strwythurol i'r rhwydwaith draenio, adnewyddu sawl twll archwilio presennol, gosod twll archwilio newydd ac uwchraddio isadeiledd strwythur cilfach y cwlfert.
Bydd goleuadau traffig dros dro'n cael eu defnyddio'n lleol lle bo angen i hwyluso'r gwaith – gan symud o un lleoliad i'r llall wrth i'r cynllun fynd rhagddo. Bydd y gwaith mwyaf arwyddocaol yn cael ei gynnal ar gyffordd Clas Gwernifor â B4275 Heol Meisgyn, lle bydd signalau traffig tair ffordd yn cael eu defnyddio pan fo angen.
Mae'r cynllun yma wedi'i gynnwys yn Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth 2023/24, yn rhan o restr o Gynlluniau Lliniaru Llifogydd Unigol Mwy sydd angen cyllid. Mae cyllid llawn wedi'i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru bellach.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rwy'n falch bod y Cyngor wedi sicrhau cymorth cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwelliannau draenio pwysig ar sawl stryd breswyl yn Aberpennar. Mae wedi'i gadarnhau bellach y bydd y gwaith yn dechrau ar 14 Awst. Bydd yn cael ei gwblhau dros y chwe wythnos nesaf cyn y gaeaf.
“Mae gwella seilwaith draenio a chyflawni gwaith lliniaru llifogydd wedi’i dargedu yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a hynny mewn ymateb i fygythiad Newid yn yr Hinsawdd – ac rydyn ni'n parhau i groesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn y maes yma.
"Mae'r Cyngor yn elwa'n gyson ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau draenio'r tir a pherygl llifogydd, sy'n darparu 85% o arian cyfatebol. Mae mwy na £3.82 miliwn hefyd wedi’i sicrhau drwy’r rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, a £1.003 miliwn pellach drwy’r rhaglen Grant Gwaith ar Raddfa Fach, ar gyfer 2023 – tra bod ein Rhaglen Gyfalaf ein hunain, y cytunwyd arni ym mis Mawrth 2023, yn dyrannu £750,000 ar gyfer gwelliannau draenio/perygl llifogydd ar gyfer eleni.
“Bydd y gwelliannau draenio sydd ar y gweill yn Aberpennar yn canolbwyntio ar sawl lleoliad, gan gynnwys Stryd Kingcraft, Stryd Gwernifor, Clas Gwernifor a Brynifor. Bydd cynllun rheoli traffig yn cael ei ddefnyddio’n lleol lle bo angen, a bydd y Cyngor yn gweithio’n galed i gwblhau’r cynllun mor gyflym ac effeithlon â phosibl. Diolch ymlaen llaw i'r gymuned leol am eich cydweithrediad."
Wedi ei bostio ar 11/08/2023