Skip to main content

Y newyddion diweddaraf am Bont Droed Rheilffordd Llanharan

Mae'r cynllun yma wedi bod yn heriol ac roedd y gwaith diweddar a wnaed gan y contractwr yn ddiffygiol. Mae'r Cyngor yn gweithio ar ddatrys hyn mewn modd sy'n cael ei gymeradwyo gan yr holl bartïon dan sylw, a bu'n rhaid ail-ddylunio'r seilbyst sy'n cynnal ochr ddeheuol y bont.

Tra bod gwaith wedi mynd rhagddo ar yr arglawdd gogleddol, bydd gwaith gosod seilbyst yn ailddechrau ar yr arglawdd deheuol yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. 

Mae Swyddogion y Cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda'r dylunwyr, y contractwr a Network Rail, ac yn galw am osod y bont cyn gynted â phosibl. 

Os bydd y gwaith gosod seilbyst yn cael ei ailddechrau a'i gwblhau mewn modd boddhaol, bydd y bont - sydd eisoes wedi'i gweithgynhyrchu - yn cael ei chludo i'r safle a'i gosod erbyn wythnos gyntaf mis Tachwedd.

Mae'r Cyngor yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y contractwr yn glynu wrth yr amserlen yma, ac rydyn ni wedi pwysleisio bod oedi parhaus yn annerbyniol.

Bydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu unwaith y bydd y gwaith gosod seilbyst wedi'i gwblhau ar y safle. Mae'r Cyngor yn ymddiheuro am yr anghyfleustra parhaus y mae'r cynllun yma'n ei achosi i drigolion.

Wedi ei bostio ar 22/08/23