Skip to main content

Cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau i goridor bysiau Heol Sardis

Pontypridd bingo hall site - Copy

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid i drawsnewid ardal fechan o hen safle'r neuadd fingo ym Mhontypridd yn gilfachau arosfannau bysiau. Y nod yw integreiddio'r gwasanaethau bysiau a threnau yn well, a hynny'n rhan o gynllun ehangach Metro De Cymru.

Bydd y cilfachau bysiau a chyfleusterau aros hefyd yn caniatáu i fysiau sy'n teithio tua'r de ar yr A4058, Heol Sardis, wasanaethu pen deheuol canol y dref.

Trwy weithio'n agos ag Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, rydyn ni wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru a’r Rhaglen Seilwaith Bysiau Rhanbarthol. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i adolygu’r cyfleoedd ar gyfer gwella’r integreiddio rhwng y gwasanaethau bysiau a threnau ym mlaengwrt Gorsaf Drenau Pontypridd. 

Bydd y prosiect yn ystyried sut y mae modd gwella symudiadau cerddwyr rhwng yr orsaf drenau a'r dref, a nodi sut y mae modd annog pobl i feicio.

Bydd y prosiect yn gofyn am wneud newidiadau strwythurol i hen safle'r neuadd fingo, a hynny er mwyn cefnogi'r cilfachau newydd. Bydd gwaith paratoi, gan gynnwys dargyfeiriadau, yn cael ei gynnal cyn y prif brosiect adeiladu, a fydd yn dechrau’n gynnar y flwyddyn nesaf. Y nod yw cwblhau’r gwaith yn ystod haf 2024.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rwy'n falch bod y Cyngor wedi gweithio'n agos ag Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac wedi sicrhau cyllid sylweddol gan Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru. Bydd y cyllid yn caniatáu i ni gyflawni gwelliannau i lonydd bysiau yn Heol Sardis ac ystyried gwelliannau ar gyfer yr orsaf drenau.

"Bydd y cilfachau bysiau newydd yn cael eu darparu'r haf nesaf, i wella mynediad trafnidiaeth gyhoeddus ym mhen deheuol canol y dref – wrth gynyddu’r integreiddio rhwng teithiau ar y bysiau a’r trenau. Bydd y gwaith yma'n mynd law yn llaw â gwaith cyflawni Metro De Cymru, a fydd yn cyflwyno trenau cyflym amledd uchel a chynyddu nifer y gwasanaethau sy'n rhedeg trwy Bontypridd bob awr.

“Mae safle’r hen neuadd fingo yn rhan hanfodol o gynlluniau’r Cyngor i adfywio porth deheuol canol tref Pontypridd – ochr yn ochr â sefydlu plaza ar lan yr afon gan ddefnyddio hen safle Marks and Spencer. Derbyniodd y Cabinet yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y buddsoddiad arfaethedig ym mis Mai 2023. Cytunodd yr Aelodau i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer parth cyhoeddus o ansawdd uchel gan ddefnyddio'r rhan fwyaf o safle'r neuadd fingo, gan hefyd ymgorffori'r cilfachau bysiau ychwanegol.

“Bydd y cyllid sydd newydd ei sicrhau yn caniatáu swyddogion i barhau i ddylunio’r cynllun yma, a byddwn ni’n darparu rhagor o fanylion am y cam adeiladu i gyflawni’r buddsoddiad yma maes o law.”

Wedi ei bostio ar 08/08/2023