Skip to main content

£5 miliwn wedi'i ddyfarnu er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) wedi dyfarnu £5 miliwn i Gyngor Rhondda Cynon Taf, gyda'r nod o leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella lles.  

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais i sefydlu Cydweithfa Ymchwil ar Faterion Iechyd Iechyd (HDRC). Bydd y bartneriaeth, sydd wedi'i chydarwain gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn dod â phartneriaid o Brifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Interlink Rhondda Cynon Taf ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd.

Mae pob Cydweithfa’n cael ei chynnal gan awdurdod lleol sy'n gweithio gyda phrifysgolion neu sefydliadau gydag arbenigedd mewn materion ehangach sy’n effeithio ar iechyd. Mae hyn yn dod â gwybodaeth llywodraeth leol a sgiliau ymchwil gan y gymuned academaidd ynghyd. Y nod yw ceisio gwella sail y dystiolaeth sy'n llywio penderfyniadau polisi mewn meysydd pwysig sy'n cael effaith ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd.

Bydd y cyllid newydd yn defnyddio data ymchwil gan faterion sy’n effeithio ar  iechyd yn lleol er mwyn amlygu sut mae modd i ni yn Fwrdeistref Sirol gydweithio gyda'n cymunedau a phartneriaid i wella iechyd cyhoeddus, lleihau anghydraddoldebau iechyd, a gwneud penderfyniadau gwell yn seiliedig ar dystiolaeth er mwyn darparu a llywio ein gwasanaethau yn y dyfodol.

Mae’r materion ehangach yma sy’n effeithio ar iechyd yn cyfeirio at y ffactorau ehangach sy'n dylanwadu ar iechyd a lles cyffredinol unigolyn, megis ansawdd aer a dŵr, ansawdd tai, mynediad at feysydd gwyrdd, cyflogaeth ac amodau gwaith, addysg a llythrennedd.

Mae gyda Rhondda Cynon Taf ddisgwyliad oes is ar gyfer dynion a menywod, cyrhaeddiad addysgiadol is a lefelau yfed alcohol a gordewdra uwch o'u cymharu â chyfartaledd Cymru.

Mae canserau a chlefydon cylchredol yn bryder sylweddol parhaus am farwolaeth gynnar yn Rhondda Cynon Taf, gyda chyfradd achosion canser yr ysgyfaint yn sylweddol uwch yn yr ardal, ynghyd â Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) - mae modd cysylltu'r ddau ohonyn nhw gyda'r nifer uchel o ysmygwyr ledled y Fwrdeistref Sirol a'r gymuned lofaol hanesyddol.

Mae'r Gydweithfa’n bwriadu gweithio'n rhagweithiol gyda thrigolion Rhondda Cynon Taf gan wrando ar farn pobl a'u cynnwys nhw lle fo'n addas er mwyn llywio a chyflawni ymchwil.  

Meddai Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae pobl sy'n byw mewn cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf yn wynebu heriau iechyd sylweddol a chyfraddau amddifadedd uwch na chyfartaledd Cymru. Rydyn ni'n croesawu'r cyllid sydd wedi'i gyhoeddi gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal, a byddwn ni nawr yn cydweithio er mwyn sicrhau bod modd i ni newid deilliannau ar gyfer ein cymuned leol.

"Mae gwybodaeth yn grymuso ein gwaith, a gyda'r gallu i gynnal ymchwil ar sail tystiolaeth y bydd y Gydweithfa’n yn ei roi i ni, byddwn ni'n casglu’r wybodaeth rydyn ni ei hangen er mwyn llunio'r gwasanaethau mae ein cymunedau ni eu hangen a’u heisiau yn Rhondda Cynon Taf.

"Rydyn ni'n diolch i’r Sefydliad am roi'r grym i ni ddatblygu ymchwil er mwyn gwella iechyd a lles cymunedau Rhondda Cynon Taf. Dros y misoedd a blynyddoedd sydd i ddod, byddwn ni'n cysylltu â thrigolion er mwyn eu cynnwys nhw yn y Gydweithfa - am eu bod nhw'n randdeiliaid yn y cydweithrediad yma, nhw fydd wrth galon popeth rydyn ni'n ei wneud bob tro.

"Rydyn ni'n gobeithio bydd y bartneriaeth rhwng y Cyngor, Prifysgol Caerdydd, Interlink Rhondda Cynon Taf, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn caniatáu i Gyngor Rhondda Cynon Taf wneud penderfyniadau gwell yn seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn gwneud gwahaniaeth i iechyd ein trigolion - sy'n hanfodol wrth ystyried y pwysau presennol o ran cyllid."

Meddai Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE: "Dylai pawb gael y cyfle i fyw bywyd iach, ni waeth pwy ydyn nhw na lle maen nhw'n byw.

"Drwy ganolbwyntio ar faterion ehangach sy’n effeithio ar iechyd megis cyflogaeth, tai, addysg a'r amgylchedd ffisegol, mae gyda'r cymunedau lleol rydyn ni'n eu cynorthwyo gyfle anhygoel i gael effaith fawr ar leihau anghydraddoldebau iechyd ac amddifadedd ehangach.

"Rydyn ni'n croesawu'r cyllid yma, sy'n dod wedi blynyddoedd anodd iawn i Rondda Cynon Taf. Cafodd COVID-19 effaith sylweddol ar y Fwrdeistref Sirol, a hynny wedi difrod Storm Dennis.

"Mae cymunedau Rhondda Cynon Taf yn wynebu rhai o'r lefelau uchaf o ran amddifadedd, sydd yn ei dro'n cynyddu anghydraddoldebau iechyd ac yn lleihau disgwyliad oes. Rydyn ni'n gobeithio bydd y bartneriaeth yma'n ein helpu ni i wella dyfodol y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol." 

Meddai Dan Bristow, Cyfarwyddwr Polisi ac Arfer WCPP, "Rydyn ni'n croesawu'r buddsoddiad sylweddol yma gan y Sefydliad, a fydd yn creu isadeiledd newydd er mwyn cysylltu ymchwil a pholisi ac arfer, gan ddod ag unigolion a sefydliadau ynghyd gyda'r nod amlwg o wella deilliannau iechyd trigolion Rhondda Cynon Taf. Mae holl bartneriaid y gydweithfa wedi ymrwymo i weithio'n uniongyrchol gyda dinasyddion er mwyn mynd i'r afael â materion ehangach sy’n effeithio ar iechyd. Dyma gyfle cyffrous i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru weithio'n agos gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf a phartneriaid eraill er mwyn creu diwylliant ymchwil bywiog sy'n mynd ati i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth."

Am ragor o wybodaeth yn ymwneud â Chydweithfeydd, ewch i www.nihr.ac.uk

Wedi ei bostio ar 11/12/23