Mae trigolion ledled Rhondda Cynon Taf wedi dangos pa mor ddisglair ydyn nhw a faint maen nhw'n pryderu am yr amgylchedd.
Dyma ddechrau lansiad ymgyrch Ailgylchu Adeg Dolig Cyngor Rhondda Cynon Taf – 'Byddwch yn 'Seren Ailgylchu' y Nadolig yma!'.
Cyflwynodd y Cyngor newidiadau i'w drefniadau casglu gwastraff ac ailgylchu gan symud i gasgliadau bob tair wythnos er mwyn cynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau gwastraff bagiau du a lleihau ôl-troed carbon er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae'r Cyngor yn falch o roi gwybod bod arwyddion cynnar yn dangos ein bod ni'n agos at gyrraedd y targed ac yn gwella ein harferion ailgylchu, ac mae'r diolch am hynny i'n 'sêr ailgylchu'!
Mae gwastraff bagiau du/biniau ar olwynion wedi lleihau 1,500 tunnell.
Mae ein cyfraddau ailgylchu bwyd hefyd wedi cynyddu gan 150 tunnell, sy'n golygu bod rhagor o bobl yn rhoi eu gwastraff bwyd mewn cadi yn hytrach na bagiau du, ac mae'r gwastraff bwyd hynny'n troi'n YNNI!
Gwastraff bwyd yw 20% o'r gwastraff sy'n cael ei gasglu bob mis yn Rhondda Cynon Taf. Y newyddion da yw bod modd defnyddio’r gwastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu i gynhyrchu ynni ar gyfer tua 1,180 o gartrefi! Dyma newyddion gwych i'r Fwrdeistref Sirol!
Mae Sêr Ailgylchu RhCT hefyd wedi cynyddu cyfraddau ailgylchu deunyddiau 3.5% o’i gymharu â'r un cyfnod y llynedd (chwarter 2).
Mae'r data cyfradd ailgylchu dros dro yn awgrymu ein bod ni ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed!
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
"Hoffwn ddymuno Nadolig Gwyrdd i'n holl drigolion a diolch i bob un ohonyn nhw am gefnogi dyfodol gwyrddach ar gyfer RhCT drwy gydol y flwyddyn.
"Mae cyfnod y Nadolig yn golygu gwastraff ychwanegol ac mae'n amser gwych i chi ddechrau meddwl yn wyrdd ac ailgylchu'r holl ddeunydd pacio ychwanegol, papur lapio a chardiau.
"Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog trigolion i ddal ati gyda'r gwaith da drwy gydol y flwyddyn. Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth ailgylchu hygyrch ac arloesol, ac mae hyn yn mynd law yn llaw â'r gwaith parhaus o addysgu'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth yn eu plith.
“Mae ein trigolion wedi gwneud ymdrech wych i ailgylchu'u gwastraff bwyd yn wythnosol hyd yma.
“Daliwch ati gyda’r gwaith gwych a gadewch i ni i gyd gymryd y camau bach i helpu i frwydro yn erbyn y Newid yn yr Hinsawdd a gwneud 2024 yn Flwyddyn Newydd Wyrddach.”
Mae'r Nadolig yn gyfnod prysur iawn sy'n cynnwys llawer o fwyd ac anrhegion ychwanegol. Amcangyfrifir bod gwastraff o'r cartref yn cynyddu dros 30% yn ystod y cyfnod sy'n golygu llawer o ailgylchu ychwanegol!
Mae'r Cyngor yn gofyn i'w drigolion i barhau â'u hymdrechion hyd yn hyn i ddod yn Sêr Ailgylchu dros y Nadolig eleni, ac i barhau â'u gwaith caled drwy'r Flwyddyn Newydd!
Gall trigolion fwynhau Nadolig disglair drwy ailgylchu'r gwastraff bwyd anochel (esgyrn twrci, gweddillion o'r plât ac ati), poteli plastig ychwanegol, papur lapio, cardiau Nadolig, coed Nadolig go iawn, tybiau a hambyrddau, caniau metel, ffoil, poteli gwydr, jariau, bocsys cardfwrdd a llawer yn rhagor dros y Nadolig.
Wrth gwrs, y peth hawsaf i'w ailgylchu yw'r holl blastig, papur a chardfwrdd y dewch chi ar eu traws dros gyfnod y Nadolig.
Ar ôl agor yr anrhegion a phendroni ynghylch sut i glirio'r mynydd o focsys, bagiau papur a phapur lapio – ewch i ôl bag ailgylchu clir a'i lenwi.
Rhowch yr HOLL bapur lapio mewn bag CLIR ar wahân, gan gynnwys papur lapio ffoil neu sgleiniog. Gwnewch focsys cardfwrdd a bagiau papur yn wastad er mwyn gwneud lle yn eich bag ailgylchu.
Er mwyn gwneud rhagor o le yn eich cartref, mae modd i chi fynd ag eitemau does dim modd eu casglu o ymyl y ffordd, fel hen deganau, dillad neu nwyddau trydanol, i ganolfan ailgylchu yn y gymuned. Sicrhewch eich bod chi'n rhoi trefn ar eich gwastraff cyn ymweld â ni.
Mae ein canolfannau ar agor rhwng 8am a 5.30pm bob dydd ac eithrio 24 a 31 Rhagfyr pan fyddan nhw'n cau am 3.30pm. Bydd pob canolfan ar gau Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan. Byddan nhw'n ailagor dydd Mawrth 2 Ionawr 2024.
Ewch i www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig am fanylion llawn.
Am ragor o wybodaeth ac awgrymiadau ynghylch ailgylchu eich gwastraff Nadolig, dilynwch ni ar Facebook a Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig.
Wedi ei bostio ar 07/12/23