Mae Emily yn sicr o fod ar restr neis Siôn Corn y Nadolig yma. Mae hi wedi mynd yr ail filltir er mwyn sicrhau bod Rhondda Cynon Taf yn ddi-sbwriel.
Mae Emily wedi disgleirio fel Seren Ailgylchu Nadoligaidd, ac fel diolch arbennig am ei hymdrechion disglair, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Siôn Corn yn ei gwobrwyo hi a’i theulu drwy eu gwahodd i ymweld ag ef yn Ogof Siôn Corn yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Cwm Rhondda.
Cafodd Emily, sy’n dair oed yn unig, o Lanhari ei siomi pan aeth i’w pharc lleol a gwelodd boteli gwag, pecynnau creision a sbwriel cyffredinol. Gofynnodd Emily i'w mam a tad, , pam roedd yr eitemau i gyd ar wasgar yn y parc a pham nad oedd pobl yn defnyddio'r biniau? Eglurodd ei mam fod rhai pobl yn taflu sbwriel yn hytrach na defnyddio'r biniau, gweithred ofnadwy sy'n gadael yr ardal yn frwnt, ac weithiau'n beryglus.
Penderfynodd Emily ei bod hi am gymryd camau i sicrhau bod ei hardal leol yn lân ac yn daclus fel bod modd iddi hi a'i ffrindiau chwarae'n ddiogel. Gofynnodd Emily i'w mam a tad a fyddai modd iddyn nhw lanhau'r ardal y tro nesaf y byddan nhw'n ymweld â'r parc? Ers hynny, mae Emily yn mynd â'i menig a bag gwag gyda hi i'r parc bob amser, yn barod i lanhau'r sbwriel y mae'r bobl ddrwg hynny wedi'i adael yn y parc.
Cysylltodd Sian, mam Emily, â’r Cyngor yn ddiweddar i ofyn ble y gallai gael gwared ar y gwastraff ychwanegol roedden nhw’n ei gasglu – ac mae gan Emily bellach gysylltiad uniongyrchol â charfan glanhau Gofal y Strydoedd a Phegwn y Gogledd, sydd wrth law i’w helpu ar ôl ei sesiynau codi sbwriel.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
"Mae Emily wir yn seren ddisglair! Mae mor hyfryd clywed bod rhywun mor ifanc yn cymryd camau i atal y rheiny sy'n taflu sbwriel yn ein cymuned! Heb os, dyma rywbeth na ddylai Emily orfod ei wneud, ac mae hi’n sicr yn esiampl i bobl eraill trwy lanhau eu llanast brwnt! Da iawn Emily a da iawn i'w mam, Sian. Rwy'n siŵr eich bod chi'n hynod o falch ohoni hi. Daliwch ati!
“Fel Cyngor rydyn ni'n gwario miliynau o bunnoedd yn clirio ar ôl pobl sy'n taflu sbwriel – dyma arian y byddai modd ei wario mewn ffordd well ar wasanaethau rheng flaen allweddol!
“Mae dros 2100 o finiau sbwriel ledled Rhondda Cynon Taf, mae 600 o’r rhain yn y 102 o barciau ar draws y Fwrdeistref Sirol - mae hynny, ar gyfartaledd, yn cyfateb i 6 bin ym mhob parc. Mae'r garfan Gofal y Strydoedd yn casglu 8000 o fagiau wedi'u llenwi â sbwriel bob wythnos! Nid yn unig y mae sbwriel yn hyll, mae hefyd yn niweidiol i’n bywyd gwyllt lleol ac yn cael effaith fawr ar sut rydyn ni’n teimlo am ble rydyn ni’n byw. Mae'r gwaith glanhau y mae'r Cyngor yn ei wneud yn costio miliynau ac mae’n enfawr - byddai modd osgoi'r rhan fwyaf ohono pe byddai'r bobl sy'n taflu sbwriel yn mynd â'u sbwriel adref gyda nhw neu'n defnyddio'r biniau sydd wedi’u darparu. Rwy'n meddwl y dylen ni i gyd ddilyn ein Seren, Emily, y Nadolig yma a glanhau ein llanast ein hunain - am esiampl wych!”
Mae'r holl sbwriel a gesglir o'r biniau gan y Garfan Gofal y Strydoedd yn cael ei ddidoli a'i ailgylchu lle bo modd yng Nghanolfan Ailgylchu Tŷ Amgen, Llwydcoed. Ar gyfartaledd, mae gweithiwr codi sbwriel Gofal y Strydoedd yn cerdded tua 40 milltir yr wythnos – mae hynny gyfwerth â 90,000 o gamau!
Ym mis Gorffennaf 2023 newidiodd y Cyngor pa mor aml y mae'n casglu gwastraff bagiau du a biniau ar olwynion i bob 3 wythnos, a hynny mewn ymgais i gynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau gwastraff bagiau du a lleihau ei ôl troed carbon cyffredinol - er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd! Trwy sicrhau bod yr holl sbwriel y mae’r garfan yn ei gasglu yn cael ei ailgylchu, rydyn ni'n helpu ymhellach i fwrw'r targed ac yn brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.
Y Nadolig yma, mae ymgyrch ailgylchu'r Cyngor yn canolbwyntio ar y 'Sêr Ailgylchu' yn Rhondda Cynon Taf. Diolch i gefnogaeth ein ‘Sêr Ailgylchu', mae modd i'r Cyngor adrodd bod arwyddion cynnar yn dangos ein bod ni'n anelu am y sêr, yn cyrraedd y targed ac yn gwella ein harferion o ran ailgylchu!
Gyda’r Nadolig yn agosáu, mae’r Cyngor yn annog trigolion i feddwl yn wyrdd a gwneud yn siŵr ein bod ni'n ailgylchu unrhyw wastraff ychwanegol y mae modd i ni ei roi yn ein bagiau ailgylchu clir a chadis gwastraff bwyd.
Bydd casgliadau deunydd ailgylchu a gwastraff yn newid dros gyfnod y Nadolig, felly peidiwch ag anghofio gwirio pryd y bydd angen i chi roi eich eitemau allan i'w casglu, neu drefnu i'ch coeden Nadolig go iawn gael ei chasglu o ymyl y ffordd yn www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig
Wedi ei bostio ar 13/12/2023