Hoffai Cyngor Rhondda Cynon Taf ddiolch i bawb am ddangos eu cefnogaeth a'n helpu ni i #NewidyStori ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn eleni!
Caiff Diwrnod Rhuban Gwyn ei gydnabod yn rhyngwladol. Dyma ddiwrnod lle mae dynion yn dangos eu hymrwymiad dros y flwyddyn i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben, a hynny drwy wneud addewid i beidio â defnyddio, esgusodi neu aros yn ddistaw am drais gan ddynion tuag at fenywod.
Ddydd Gwener 24 Tachwedd, cynhaliodd y Cyngor - a'n partneriaid megis Heddlu De Cymru a'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid - wylnos yng ngolau cannwyll i gofio dioddefwyr trais ar sail rhywedd. Helpodd yr achlysur i godi ymwybyddiaeth drio roi gwybod i unigolion am y gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael, a dangos y ffordd atyn nhw. Daeth nifer o'r cyhoedd i'r wylnos. Roedd yr achlysur yn gyfle i fyfyrio a chofio'r menywod a'r merched sydd wedi dioddef o drais gan ddynion.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Roedd gwylnos yng ngolau cannwyll y Cyngor yn noson bwysig a myfyriol.
“Roeddwn i a Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yng nghwmni Alex Davies-Jones AS a'r Parchedig Charlotte Rushton o Eglwys y Santes Catrin, yn ogystal ag aelodau YEPS a berfformiodd ddrama fer yn dangos sut i nodi arwyddion cam-drin domestig.
“Mae'r Cyngor hefyd wedi gwneud addewid i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben ledled y Fwrdeistref Sirol drwy flaenoriaethu mentrau a pholisïau i helpu i gadw menywod yn ddiogel a herio ymddygiad sy'n bytholi'r trais yma.
“Mae'n arbennig i weld cynifer o bobl yn ymuno mewn undod i ddweud NA i drais yn erbyn menywod. Gyda'n gilydd, mae modd i ni newid y naratif er gwell i bawb.”
Ddydd Sul yma, 10 Rhagfyr, yw Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol, a diwrnod olaf ein hymgyrch #16DiwrnodoWeithredu. Mae heddiw yn nodi 75 mlynedd ers cyflwyno'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. Mae'r datganiad yma'n amlinellu'r hawliau sydd gan bob person, waeth beth yw eu hil, lliw croen, crefydd, rhywedd, iaith, tarddiad ethnig neu statws genedigaeth. Mae hawl menyw i fyw bywyd yn ddiogel rhag cam-drin a thrais yn hawl dynol sylfaenol.
Cofiwch, mae modd i chi wneud addewid o hyd i ddod â thrais gan ddynion yn erbyn menywod i ben - ewch i https://www.whiteribbon.org.uk/promise
Caiff White Ribbon UK ei gefnogi gan nifer o sefydliadau ac elusennau sy'n rhoi cyngor a chymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais ar sail rhywedd.
Byw Heb Ofn
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i roi cymorth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i unigolion sy'n wynebu cam-drin domestig. Maen nhw'n rhoi cyngor mewn amryw o feysydd, gan gynnwys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae modd cysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am ddim drwy ffonio 0808 90 10 800, neu drwy e-bostio gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Mae gyda nhw gyfleuster sgwrsio byw hefyd sydd ar gael ar y wefan.
https://www.llyw.cymru/byw-heb-ofn
Bawso
Elusen wedi'i leoli yng Nghaerdydd ydy Bawso. Cafodd ei sefydlu yn 1995 gan fenywod du a lleiafrifiedig ac maen nhw'n cefnogi unigolion Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol sy'n wynebu cam-drin a thrais. Maen nhw'n cynnal 25 prosiect ledled Cymru ac yn cefnogi 6000 o unigolion bob blwyddyn. Eu gweledigaeth yw bod pobl yng Nghymru yn byw yn ddiogel rhag camdriniaeth, trais a cham-fanteisio.
Mae modd i unigolion Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol fod yn ddioddefwyr nifer o fathau o gam-drin gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, masnachu pobl a phuteindra.
Mae modd iddyn nhw ffonio 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar 0800 731 8147 neu e-bostio info@bawso.org.uk
https://bawso.org.uk/cy/
Galop
Elusen yn y DU yw Galop sy'n rhoi cymorth i unigolion LHDTQ+ sydd wedi dioddef neu oroesi trais ar sail rhywedd.
Maen nhw'n cynnal pedwar llinell gymorth genedlaethol sy'n ymdrin â cham-drin domestig, troseddau casineb, cam-drin rhywiol a therapi trosi. Maen nhw hefyd yn rhoi cymorth hirdymor drwy eu gwasanaeth eiriolaeth.
Mae'r llinellau cymorth am ddim, a hynny drwy ffonio 0800 999 5428 neu e-bostio help@galop.org.uk
https://galop.org.uk/
-----------------------------------------
Mae'r Cyngor yn credu mewn hawliau cyfartal i bawb, fel bod modd i ddynion a menywod fyw eu bywydau heb gael eu cyfyngu gan ymddygiadau niweidiol.
Diolch am ymuno â ni eleni ar gyfer ymgyrch 16 Diwrnod o Weithredu Diwrnod Rhuban Gwyn 2023. Mae dod a thrais yn erbyn menywod a merched i ben yn golygu bod modd i bawb fyw bywydau gwell, ac mae hynny'n dechrau wrth i ni ymrwymo i #NewidyStori.
Wedi ei bostio ar 08/12/2023