Skip to main content

Mannau Diogel a Chynnes – Ar Agor Nawr!

Mae dros 100 o leoliadau eisoes wedi cofrestru i gadw trigolion Rhondda Cynon Taf yn ddiogel ac yn gynnes drwy gydol fisoedd y gaeaf tan ddiwedd mis Mawrth.

Diolch i'r cannoedd o wirfoddolwyr ymroddedig sydd unwaith eto wedi rhoi o'u hunain i helpu'r rheiny mewn angen. Bellach, bydd gyda miloedd o drigolion gymorth holl bwysig i'w helpu drwy fisoedd y gaeaf a thrwy gydol y flwyddyn.

Mae'r cynllun Mannau Diogel a Chynnes newydd yn adeiladu ar lwyddiant Canolfannau Croeso'r Gaeaf, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus dros y 3 blynedd diwethaf.

Ers lansio'r prosiect yn 2022, mae dros 14,000 o drigolion wedi cael cymorth ac mae bron i 14,000 o brydau a diodydd poeth wedi cael eu gweini. 

Eleni mae mwy o Fannau Diogel a Chynnes ar agor nag erioed o'r blaen, gyda thua 108 o leoliadau yn derbyn cyfran o werth £125,000 o gyllid Mannau Diogel a Chynnes Llywodraeth Cymru.

Mae hyn yn ychwanegol at dros £2.5 miliwn mae'r Cyngor wedi'i gael o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a ffynonellau cyllido allanol eraill. Mae hyn wedi'i ddyfarnu i grwpiau cymunedol yn y trydydd sector a'r sector gwirfoddol i helpu i gefnogi'r gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud ledled ein bwrdeistref sirol.

Mae'r Mannau Diogel a Chynnes bellach ar agor, a byddan nhw'n darparu lleoliad diogel i bobl gadw'n gynnes, cael byrbryd, paned a sgwrs.

Os ydych chi'n teimlo'n oer ac angen lle diogel i aros yn gynnes, cael byrbryd, paned a sgwrs, neu wefru eich ffôn symudol, derbyn cyngor am ddim yn ymwneud ag ynni a hyd yn oed cymryd rhan mewn gweithgareddau am ddim, yna mae'r mannau yma ar gael i chi a'ch teulu.

Bydd pob un o 13 o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf yn Fan Diogel a Chynnes y gaeaf yma, a bydd modd i drigolion fynd yno am groeso cynnes a lle i ymlacio a gwefru eu dyfeisiau symudol.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein trigolion mwyaf agored i niwed a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi nhw. Ers mis Ebrill 2022, mae'r Cyngor wedi talu miliynau i drigolion yn rhan o ymrwymiadau gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor ei hun.

“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi darparu cymorth yn amrywio o daliadau uniongyrchol i filoedd o deuluoedd, i ddarparu cymorth ariannol i fanciau bwyd lleol i’w helpu i barhau i gyflawni eu gwaith hanfodol.

“Rwy’n falch o gyhoeddi bod modd i ni gefnogi ein sefydliadau cymunedol sydd yn eu tro yn ein helpu i gefnogi ein trigolion.”

Mae modd i drigolion sy'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw gysylltu â'r Cyngor ar unrhyw adeg drwy'r Canolfannau Cydnerthedd y Gymuned drwy gwblhau 'ffurflen gais am gymorth' ar-lein ar www.rctcbc.gov.uk/CostauByw. Bydd cymorth yn cael ei ddarparu gan staff y Cyngor, gwirfoddolwyr Cydnerthedd y Gymuned, partneriaid y trydydd sector a phartneriaid cymunedol.

Mae modd i drigolion Rhondda Cynon Taf dderbyn cyngor yn ymwneud â'r gwasanaethau sydd ar gael hefyd drwy Garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys:

  • Cymorth Grant neu Fenthyciad – efallai y bydd cymorth ariannol ar gael i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi
  • RCT Switch – cyngor diduedd am ddim ynglŷn â newid tariff
  • Cyngor cyffredinol ar effeithlonrwydd ynni er mwyn arbed ynni yn y cartref
  • Cyngor ynghylch dyled cyfleustodau (nwy, trydan a dŵr)
  • Cyngor ynghylch gwneud y mwyaf o'ch incwm a rheoli arian. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.rctcbc.gov.uk/GwresogiacArbed neu e-bostiwch y Garfan: GwresogiacArbed@rctcbc.gov.uk

Am fanylion llawn a lleoliadau'r Mannau Diogel a Chynnes, ewch i www.rctcbc.gov.uk/MannauDiogelaChynnes ac am gyngor cyffredinol am y cymorth costau byw sydd ar gael, ewch i www.rctcbc.gov.uk/CostauByw.

Wedi ei bostio ar 27/11/2025