Mae'r Cyngor yn falch o fod wedi penodi'r prif gontractwyr adeiladu ar gyfer 2 o'i brosiectau buddsoddi mewn ysgolion y dyfodol yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn y Cymer ac Ysgol Llanhari. Mae gwaith dylunio ar gyfer y 2 ddatblygiad arwyddocaol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, a hynny er mwyn ehangu a gwella'r cynnig addysg cyfrwng Cymraeg a darparu cyfleusterau newydd o'r radd flaenaf i ddisgyblion a staff yn y 2 ysgol.
Yn gynharach eleni, cymeradwyodd Aelodau o'r Cabinet don nesaf y Cyngor o fuddsoddiadau mawr yn ei ysgolion er mwyn cwblhau o leiaf 9 prosiect newydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn rhan o bartneriaeth â Llywodraeth Cymru gwerth £414 miliwn. Mae hyn yn golygu bydd bron i £1 biliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn cyfleusterau ysgolion newydd ledled Rhondda Cynon Taf yn ystod y cyfnod o 20 mlynedd rhwng 2014 i 2033.
Mae rhagor o fanylion am y 2 brosiect cyfrwng Cymraeg yma, y cynnydd hyd yn hyn, a phenodi'r prif gontractwyr, isod.
Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, y Cymer
Ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i ddisgyblion 11 i 19 oed ar y safle presennol. Kier Construction sydd wedi'i benodi'n gontractwr ac mae'r gwaith dylunio eisoes wedi dechrau, ar y cyd â'r ysgol. Bydd y cyfleusterau addysgu newydd ar gyfer 900 o ddisgyblion, yn rhan o ddatblygiad modern, cwbl hygyrch a fydd hefyd yn cynnwys ardaloedd mannau addas ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, a chyfleusterau chwaraeon newydd i'r ysgol a'r gymuned eu defnyddio.
Mae'r Cyngor yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y datblygiad yn y flwyddyn newydd ac, yn amodol ar ei gymeradwyo, mae'n bosibl y bydd gwaith galluogi cychwynnol yn ddechrau ar y safle yr haf nesaf cyn i'r prif gam adeiladu ddilyn o hydref 2026 ymlaen.
Ysgol Llanhari
Ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i ddisgyblion 3 i 19 oed ar y safle presennol. Mae camau cynnar y gwaith dylunio wedi dechrau, gyda Willmott Dixon wedi'i benodi'n gontractwr adeiladu ar gyfer y prosiect. Bydd lle ar gyfer 910 o ddisgyblion yn yr ysgol, gan gynnwys y chweched dosbarth. Bydd meithrinfa i 30 o blant a chyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg i 40 o ddisgyblion ar y safle. Bydd y datblygiad cwbl hygyrch yn cynnwys mannau dysgu awyr agored a chyfleusterau chwaraeon newydd. Bydd llawer o'r cyfleusterau ar gael i'r gymuned ehangach eu defnyddio hefyd.
Y nod ar hyn o bryd yw dechrau'r prif gyfnod adeiladu yn gynnar yn 2027. Bydd hyn yn amodol ar roi caniatâd cynllunio a chymeradwyo cyllid.
Bydd y Cyngor yn cyflawni'r 2 brosiect ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio cyfraniad cyllid sylweddol o'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, ynghyd â chyfalaf cyfatebol gan y Cyngor.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: “Rwy'n falch iawn o weld cynnydd sylweddol wrth i ni benodi'r contractwyr adeiladau ar gyfer y gwaith buddsoddi cyffrous yma yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ac Ysgol Llanhari. Rydyn ni hefyd yn falch o hyd am gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cyfleusterau addysg newydd, wrth i ni droi'n golygon nawr at y don nesaf o 9 prosiect yn rhan o ymrwymiad gwerth £414 miliwn. Mae hyn yn dilyn agor ysgolion newydd yng Nghilfynydd, y Ddraenen Wen, Rhydfelen, Pentre'r Eglwys, Llanilltud Faerdref, Pont-y-clun a Glynrhedynog mewn pryd ar gyfer blwyddyn academaidd flaenorol 2024/25.
“Mae buddsoddi mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor er mwyn cyfrannu at nod ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’ Llywodraeth Cymru, yn ogystal â bodloni ein dyheadau a’n targedau ein hunain sydd wedi'u nodi yn 7 deilliant ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Fe agoron ni ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer Rhydfelen, Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf, ym mis Medi 2024, ynghyd â safle newydd modern ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog. Roedd y 2 brosiect llwyddiannus yma yn sgil gwaith gwella ac ehangu cyfleusterau ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Gyfun Rhydywaun yng Nghwm Cynon 3 blynedd yn ôl.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld datblygiad pellach y gwaith dylunio ar gyfer prosiectau'r dyfodol yn y Cymer a Llanhari dros y misoedd nesaf, gyda gwaith yn mynd rhagddo tuag at gyflwyno ceisiadau cynllunio ffurfiol maes o law. Hoffwn i hefyd groesawu Kier Construction a Willmott Dixon i'r prosiectau priodol, wrth i ni weithio'n agos gyda'r 2 gontractwr i ddarparu cyfleusterau addysg newydd i'n disgyblion, ein staff a'n cymunedau fod yn falch ohonyn nhw.”
Wedi ei bostio ar 27/11/2025