Skip to main content

Achlysuron 2023 yn Nhaith Pyllau Glo Cymru

wmeevents2023

Rydyn ni'n falch iawn o gadarnhau y bydd ein hachlysuron blynyddol poblogaidd yn dychwelyd yn 2023!

Mae ein calendr achlysuron yn dechrau gydag Achlysur Ŵy-a-Sbri bob blwyddyn a bydd yn cael ei gynnal ddydd Mercher 5 a dydd Iau 6 Ebrill eleni. Bydd yr helfa wyau, ffair bleser i blant a gweithgareddau celf a chrefft yn dychwelyd, ynghyd ag Antur Danddaearol Bwni'r Pasg. Eleni, bydd Bwni'r Pasg yn ymuno â ni ac yn cwrdd â phawb sy'n mynd dan ddaear.

Os ydych chi'n hoff iawn o geir clasur, cadwch 24 Mehefin yn rhydd yn eich dyddiadur pan fydd y Sioe Ceir Clasur ar y safle.

Bydd hwyl arswydus ar gael ar 30 a 31 Hydref gydag achlysur Rhialtwch Calan Gaeaf ac wedyn bydd Siôn Corn yn dychwelyd, gan droi'r lleoliad yn ogof unigryw ac arbennig rhwng 25 Tachwedd a 24 Rhagfyr.

Rydyn ni'n falch iawn o groesawu Nathaniel Cars yn ôl yn noddwr yr achlysur am yr ail flwyddyn yn olynol.

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am bob un o'n hachlysuron. Edrychwn ni ymlaen at eich croesawu chi!

 

Facebook @rhonddaheritagepark

Twitter @rhonddaheritage

Wedi ei bostio ar 13/02/23