Skip to main content

Y Cabinet i drafod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn dilyn ymgynghoriad

Bydd y Cabinet yn trafod yr adborth diweddaraf ar yr ymgynghoriad ar y gyllideb a gallai argymell strategaeth derfynol ar gyfer 2023/24 yn y cyfarfod  o'r Cyngor Llawn. Bydd y strategaeth yn ymateb i'r heriau ariannol y mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn eu hwynebu, fel y mae’r holl awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, amddiffyn trigolion a gwasanaethau cymaint â phosibl a pharhau i fuddsoddi mewn meysydd sy'n flaenoriaeth.

Ddydd Mawrth, 28 Chwefror, bydd y Cabinet yn trafod adroddiad sy'n amlinellu'r adborth a dderbyniwyd yng Ngham 2 o'r broses ymgynghori ar y gyllideb a gafodd ei chynnal rhwng 24 Ionawr a 6 Chwefror. Rhoddodd y broses gyfle i drigolion a rhanddeiliaid sydd â diddordeb i ddweud eu dweud ar Strategaeth Cyllideb ddrafft, y cytunwyd arni gan y Cabinet ym mis Ionawr.

Mae pob Cyngor yn parhau i wynebu heriau heb eu tebyg yn y tymor byr a chanolig, law yn llaw â phwysau cynyddol ar wasanaethau lleol yn sgil effaith parhaus COVID-19 a'r argyfwng costau byw.

Ein bwlch yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yw £38.3 miliwn, sy'n adlewyrchu'r pwysau sylweddol ar y gyllideb - ac ar ôl ystyried y Setliad Llywodraeth Leol dros dro, gan ddarparu cynnydd o 6.6% yn y gyllideb ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn 2023/24. Mae'r Strategaeth Cyllideb ddrafft yn mynd i'r afael â'r sefyllfa yma ac yn amlinellu cynigion i osod cyllideb sy'n gytbwys yn gyfreithiol.

Os cytunir ar y strategaeth, bydd yn parhau i ddiogelu'r Gyllideb Ysgolion, sydd wedi cynyddu 28% dros y 10 mlynedd diwethaf. Byddai'r cynnig ar gyfer y flwyddyn nesaf yn ariannu’r holl bwysau y mae ein hysgolion yn eu hwynebu yn sgil cyflogau, chwyddiant, costau ynni, newidiadau yn nifer y disgyblion a heriau Anghenion Dysgu Ychwanegol, gyda’r angen i ysgolion gyfrannu drwy arbedion effeithlonrwydd ar lefel sy'n sylweddol is o'i chymharu â gwasanaethau eraill y Cyngor.

Mae'r strategaeth yn cynnig un o'r cynnydd lleiaf yng Nghymru'r flwyddyn nesaf yn nhermau Treth y Cyngor, sef 3.5%, gan barhau â'n sefyllfa o osod y cynnydd cyfartalog isaf o holl gynghorau Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Byddai'r cynnig yn ein gweld ni'n parhau â dull cyfrifol o osod lefelau Treth y Cyngor, gan gydbwyso'r effaith ar wasanaethau a gallu'r cyhoedd i dalu.

Mae'r strategaeth hefyd yn cynnig defnyddio cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i wneud cyfraniad untro o £5 miliwn tuag at gostau ynni, y mae disgwyl y byddan nhw'n cynyddu yn 2023/24 – ynghyd â £4.1 miliwn o’r gronfa wrth gefn ar gyfer y Cronfeydd Trosiannol er mwyn pennu cyllideb gytbwys gyffredinol. Mae gyda ni hanes da o ddefnyddio cronfeydd wrth gefn yn gall wrth osod ein cyllideb, ac mae gyda ni drefniadau ar waith i ail-lenwi cronfeydd wrth gefn dros amser.

Mae elfennau allweddol eraill o'r strategaeth yn cynnwys nodi arbedion o £16.1 miliwn trwy gamau effeithlonrwydd y flwyddyn nesaf, yn dilyn adolygiad manwl ar draws yr holl wasanaethau. Byddai ffïoedd a chostau'r Cyngor yn codi 5% yn gyffredinol, sydd yn sylweddol is na chyfradd chwyddiant, gyda rhai ffioedd a chostau yn destun cynlluniau penodol. 

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Bydd Aelodau o'r Cabinet yn trafod yr adborth a dderbyniwyd yn ystod cam 2 o'r broses ymgynghori ar y gyllideb, a gallai argymell i'r Aelodau o'r Cyngor Llawn y dylid mabwysiadu'r Strategaeth Cyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24 pan fydd yn cyfarfod ym mis Mawrth 2023.

“Mae hyn yn gyfnod hynod heriol i lywodraeth leol, gyda'r holl gynghorau yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd o ran eu cyllid. Rydyn ni, fel pob cartref ledled Rhondda Cynon Taf, yn wynebu cynnydd yn ein costau, ac mae disgwyl y bydd biliau ynni ar gyfer ysgolion, cartrefi gofal, canolfannau hamdden ac adeiladau cymunedol yn codi 300% y flwyddyn nesaf. Mae chwyddiant bwyd yn cynyddu cost y bwyd rydyn ni'n ei ddarparu i'n hysgolion, cartrefi gofal a chartrefi drwy'r Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned. Yn gyffredinol, mae disgwyl i'n costau yn 2023/24 gynyddu i lefel sy'n £38 miliwn yn fwy na'r arian sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Serch hynny, mae gan y Cyngor hanes o wneud penderfyniadau ariannol cyfrifol, ac mae ein blaengynllunio parhaus wedi ein rhoi ni mewn sefyllfa dda. Dechreuodd gwaith yn gynnar iawn ar y gyllideb sydd i ddod, a dydyn ni ddim yn cynnig unrhyw ddiswyddiadau gorfodol. Bydd y newidiadau y cytunwyd arnyn nhw ym meysydd Rheoli Gwastraff, Prydau yn y Gymuned a darpariaeth Meithrinfeydd sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor yn galluogi i'r gwasanaethau gwerthfawr yma barhau. Mae'r sefyllfa gyffredinol yn gadarnhaol, yn enwedig o ystyried y rhagolygon ychydig fisoedd yn ôl. Mae hyn wedi cael ei gyflawni drwy ein dull rhagweithiol wrth i ni ddelio â phwysau cyllidebol heb ei debyg.

“Bydd ein cynnydd arfaethedig o 3.5% yn nhreth y cyngor unwaith eto ymhlith y lleiaf ledled Cymru, gyda’r Cyngor eisoes yn gosod y cynnydd cyfartalog isaf yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf. Bydd lefel 2023/24 yn osgoi cynnydd gormodol y gellid bod wedi ei ystyried, yn enwedig o ystyried yr her ariannol rydyn ni'n ei wynebu - ac mae'r rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru yn trafod cynnydd o dros 5%. Mae'r cynnig yn un sy'n cynrychioli cynnydd teg, gan sicrhau bod y gwasanaethau allweddol y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw'n cael eu hamddiffyn.

“Mae'r Uwch Garfan Reoli hefyd wedi trafod arbedion effeithlonrwydd ar gyfer pob gwasanaeth y Cyngor. Mae'r arbedion gwerth £16.1 miliwn sydd wedi'u nodi o ganlyniad i broses adolygu eithriadol ac wedi'u cyflawni ar ben yr arbedion gwerth miliynau o bunnoedd a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r broses adolygu sydd wedi'i gynnal gan uwch swyddogion wedi rhoi sicrwydd bod modd i'r arbedion diweddaraf gael eu cyflawni heb gael effaith sylweddol ar wasanaethau.

“Mae hefyd yn braf gweld bod y strategaeth yn cynnwys ariannu’r holl bwysau ariannol y mae ein hysgolion yn eu hwynebu. Mae'r pwysau ariannol yma'n ymwneud â chyflogau, chwyddiant, costau ynni, niferoedd disgyblion a heriau Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae cyllideb yr ysgol wedi cynyddu 28% dros y 10 mlynedd diwethaf ac mae'r strategaeth arfaethedig yn sicrhau bod ein hysgolion yn parhau i gael eu blaenoriaethu.”

Wedi ei bostio ar 21/02/2023