Skip to main content

Y gymuned yn dod at ei gilydd i helpu Ysgol Gynradd Bodringallt

Bodringallt Primary School garden tidy up

Mae Aelod o Gabinet y Cyngor ar faterion Addysg wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Bodringallt i gynorthwyo â chlirio ei gardd gymunedol.  O ganlyniad i ymdrech ardderchog gan wirfoddolwyr, mae hyn wedi helpu i atgyweirio difrod gan fandaliaid.

Bu'r Cynghorydd Rhys Lewis yn cymryd rhan yn yr achlysur yn yr ysgol yn Ystrad Rhondda ddydd Mercher, 15 Chwefror. Mae gardd yr ysgol wedi profi difrod parhaus, gan gynnwys tân yn ystod gwyliau'r Nadolig. Mae'r ysgol wedi derbyn cefnogaeth wych gan y gymuned leol ers yr achos, gan gynnwys cynigion i helpu i glirio'r difrod ynghyd â chyfraniadau ariannol tuag at gost yr atgyweiriadau.

Bu gwirfoddolwyr dydd Mercher yn cynnwys staff a disgyblion Ysgol Gynradd Bodringallt, helpwyr o Ysgol Hen Felin ac aelodau o'r gymuned ehangach. Bu'r grŵp yno ym mhob tywydd, ac mae eu hymdrechion wedi gwella golwg ardal allanol yr ysgol yn aruthrol.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Diolch Ysgol Gynradd Bodringallt am fy ngwahodd i gymryd rhan yn yr achlysur cymunedol ddydd Mercher, i helpu i glirio ardal yr ardd sy'n golygu cymaint iddyn nhw. Roedd yn wych cwrdd â'r holl helpwyr o'r ysgol, yn hen ac ifanc ac roedd yn gwbl amlwg cymaint mae gardd yr ysgol yn golygu i bawb.

"Da iawn i'r holl wirfoddolwyr oedd wedi cymryd rhan, gan gynnwys y staff a disgyblion o Ysgol Hen Felin oedd wedi rhoi eu hamser i helpu ar y diwrnod hefyd. Mae ein hysgolion yn llefydd mor bwysig, sydd wrth galon eu cymunedau lleol, ac mae'r cymorth hael mae'r cyhoedd wedi'i roi ers yr achos ym mis Ionawr wedi' amlygu agosatrwydd cymunedol ar waith ar ei orau."

Bu Sion Howells, Pennaeth Ysgol Gynradd Bodringallt, yn sôn hefyd am ymateb y gymuned ers yr achos. Ychwanegodd: "Mae pobl o bobman wedi cysylltu â ni yn eu cannoedd, gan anfon dymuniadau da, cyfraniadau ariannol a chynnig i ddod i helpu yn Ysgol Gynradd Bodringallt. Rydyn ni wedi'n llorio â'r holl garedigrwydd.

"Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i bawb a oedd wedi'n cefnogi a'n cynorthwyo ni ar Ddiwrnod Cymunedol Gardd yr Ysgol, gan gynnwys diolch i'n ffrindiau yn Ysgol Hen Felin am ddau focs blodau hyfryd, Hefyd, diolch i'n disgyblion Senedd bendigedig, ein rhieni, y Cynghorydd Lewis, swyddogion y Cyngor, Carfan Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Set Recruitment, Carfan Diogelwch y Ffyrdd Rhondda Cynon Taf a Chadeirydd ein Llywodraethwyr am y pice ar y maen!

"Rydyn ni'n ffodus iawn i gael cymaint o gefnogaeth nawr, a chymaint o gefnogaeth ymroddedig ar gyfer y dyfodol. Bydd Diwrnodau Cymunedol Gardd yr Ysgol eraill i ddod, am fod dydd Mercher wedi bod yn ddiwrnod llwyddiannus yn llawn agosatrwydd."

Yn dilyn yr achosion diweddar o fandaliaeth yn yr ysgol, mae'r Cyngor yn gosod gwell system teledu cylch cyfyng  sy'n monitro ardal gardd yr ysgol, ynghyd â gosod ffensys perimedr diogel mwy cadarn gan ddefnyddio cyllid o Grant Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru.

Wedi ei bostio ar 21/02/23