Skip to main content

Y Cyngor ar flaen y gad o ran Ymwybyddiaeth Awtistiaeth

Organisations Autism Aware Logo

Mae Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi derbyn ardystiad 'Ymwybodol o Awtistiaeth' wedi i Aelodau'r Cabinet lwyddo i gwblhau'r cynllun hyfforddiant. 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: "Mae'n bleser cyhoeddi mai Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r cyntaf yng Nghymru i dderbyn yr ardystiad yma, a diolch i Awtistiaeth Cymru am roi hyfforddiant proffesiynol i'r Aelodau. 

"Rydyn ni'n bwriadu rhoi cyfle i aelodau etholedig eraill a staff y Cyngor gael yr hyfforddiant yma hefyd. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth well i bawb o'r heriau a'r rhwystrau mae modd i rai pobl awtistig eu hwynebu. 

"Rydw i'n gobeithio bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn dilyn ein hesiampl, a hefyd yn gweithio tuag at ddod yn sefydliadau sy’n Ymwybodol o Awtistiaeth. Gyda'n gilydd gallwn ni wella gwybodaeth, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl o ran awtistiaeth er mwyn gwneud newidiadau positif a pharhaus i fywydau."

Nod yr hyfforddiant achrededig 'Ymwybodol o Awtistiaeth', sy'n cael ei lunio a'i ddarparu gan Awtistiaeth Cymru, yw codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth a helpu sefydliadau sector cyhoeddus fel Cyngor Rhondda Cynon Taf, i wella'u dealltwriaeth ohono. Mae hyn yn cynnwys gwybod pa eiriau i'w defnyddio a bod yn effro i'r problemau sy'n effeithio ar bobl awtistig. 

Roedd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ynghlwm â'r gwaith o gynllunio'r hyfforddiant, a hynny ar y cyd â phobl awtistig, yn ogystal ag unigolion niwrowahanol a niwronodweddiadol eraill. Y nod yw cyflwyno'r hyfforddiant yma i holl aelodau etholedig y Cyngor, yn ogystal â'i Uwch Reolwyr a gweddill y staff. 

Mae Awtistiaeth Cymru'n helpu i wella bywydau pobl awtistig a'u teuluoedd yng Nghymru. Mae'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, hefyd yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol a byrddau iechyd ledled Cymru, ynghyd â rhanddeiliaid allweddol a grwpiau ymgynghorol eraill.

Mae Awtistiaeth yn anabledd datblygiadol gydol oes sy'n effeithio sut mae pobl yn cyfathrebu ac yn ymdrin â'r byd. Mae mwy nag 1 ym mhob 100 person yn y DU ar y sbectrwm awtistiaeth.

Mae gwefan Awtistiaeth Cymru yn helpu i ddarparu gweledigaeth a strategaeth Llywodraeth Cymru ym maes awtistiaeth, ac mae'n adnodd hollbwysig er mwyn helpu i sicrhau bod Cymru'n wlad sy'n gyfeillgar o ran awtistiaeth.

Mae modd i chi ddefnyddio'r wefan i lawrlwytho nifer o ddeunyddiau am ddim. Mae'r rhain wedi'u llunio ar y cyd â phobl awtistig, rhieni/cynhalwyr ac unigolion proffesiynol ledled Cymru.

Bwriwch olwg ar wefan Awtistiaeth Cymru 

Wedi ei bostio ar 20/02/2023