Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cynigion ar gyfer cynllun teithio AM DDIM ar fysiau trwy gydol mis Mawrth 2023. Bydd hyn yn berthnasol i bob taith leol yn Rhondda Cynon Taf a bydd yn dod i rym ddydd Mercher (1 Mawrth).
Yn eu cyfarfod ddydd Mawrth, 28 Chwefror roedd aelodau'r Cabinet wedi trafod adroddiad sy'n amlinellu'r cynnig. Mae'r cynnig yn berthnasol i bob cwmni bysiau lleol a phob taith sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf ym mis Mawrth 2023 (waeth pa amser o'r dydd yw hi).
Bydd y cynllun yma'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer 2022/23 ac yn arbed cyfanswm o £500,000 i drigolion Rhondda Cynon Taf yn ystod y mis. Rhaid defnyddio'r cyllid erbyn diwedd mis Mawrth 2023 ac mae wedi ei glustnodi i ariannu mentrau sy'n lleihau costau byw i drigolion trwy roi mesurau sy'n mynd i'r afael ag effeithlonrwydd ynni, tlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd ar waith.
Mae nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau bws wedi lleihau ers pandemig Covid-19 ac mae'r gwasanaethau yng Nghymru wedi derbyn cymorth ariannol gan Gynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun yma wedi bod yn hanfodol i fynd i'r afael â'r diffyg refeniw sy'n cael ei gynhyrchu gan docynnau yn ogystal â chostau ychwanegol cynnal y gwasanaeth.
Nododd adroddiad i'r Cabinet ddydd Mawrth fod annog trigolion i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na cheir yn rhan o'u trefniadau teithio dydd i ddydd yn rhan allweddol o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 ac ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae teithio ar fws yn hytrach na mewn cerbyd preifat yn opsiwn sy'n isel o ran carbon ond rhaid iddo fod yn fforddiadwy ac yn hawdd i'w ddefnyddio.
Bydd y cynllun teithio am ddim ar fysiau yn Rhondda Cynon Taf yn annog rhagor o bobl i fanteisio ar y gwasanaeth ac yn fuddiol i'r amgylchedd. Bydd y cynnig yma mewn grym o ddydd Mercher, 1 Mawrth hyd at ddydd Gwener, 31 Mawrth. Dydy'r cynnig ddim yn berthnasol i unrhyw daith sy'n dechrau neu'n gorffen tu hwnt i ffiniau'r Fwrdeistref Sirol. Bydd rhaid parhau i dalu'r pris arferol ar gyfer y rhain.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Yn ddiweddar mae'r Cyngor wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer mentrau sy'n mynd i'r afael â chostau byw i drigolion ac i ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd. Rwy'n falch ein bod ni wedi cymeradwyo'r cynllun teithio ar wasanaethau bws am ddim trwy gydol mis Mawrth 2023, a hoffwn i ddiolch i gwmnïau bysiau lleol am eu cydweithrediad.
"Gallai'r cynllun arwain at arbedion gwerth £500,000 i drigolion Rhondda Cynon Taf, a bydd yn hollbwysig i nifer o bobl wrth i'r argyfwng costau byw barhau i gael effaith ar gartrefi ledled y Fwrdeistref Sirol a gweddill y DU.
"Mae'r Cyngor hefyd wedi sicrhau rhagor o arian gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer 2023/24 a 2024/25 ac os bydd y cynllun yma'n llwyddiannus, mae'n bosibl y bydd modd ystyried cyfleoedd tebyg yn y dyfodol.
"Mae annog trigolion i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o'u harferion bob dydd yn hollbwysig i ddiogelu'r amgylchedd mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd - trafnidiaeth sy'n gyfrifol am 17% o allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Rydyn ni wedi gosod nodau uchelgeisiol i ddod yn Gyngor carbon niwtral, ac yn awyddus i geisio sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol gyfan yn dod mor agos at fod yn niwtral o ran carbon ag sy'n bosibl. Bydd mentrau megis teithio ar wasanaethau bws am ddim yn fuddiol wrth weithio at y nodau yma.
"Yn ogystal â'r buddion amgylcheddol, bydd rhagor o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn golygu bod llai o dagfeydd ac felly bydd pob siwrnai yn cymryd llai o amser. Mae'r buddion eraill yn cynnwys rhagor o gyfleoedd rhyngweithio cymdeithasol i drigolion a gweithgarwch economaidd yn ein cymunedau. Bydd darparu trafnidiaeth am ddim hefyd yn fuddiol i'r rheiny sy'n ei chael hi'n anodd fforddio i ddefnyddio'r gwasanaeth."
Pam bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhoi cynnig ar gynllun teithio am ddim ar fysiau?
Diben y cynllun yw cynyddu nifer y trigolion sy'n manteisio ar wasanaethau bysiau. Bydd hyn yn cyfrannu at wneud y gwasanaethau lleol yn fwy cynaliadwy ac yn gwella ein hamgylchedd trwy annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na cheir preifat.
Rydyn ni hefyd yn rhagweld y gallai'r cynllun arwain at arbedion gwerth £500,000 i drigolion a lleddfu ychydig ar effaith yr argyfwng costau byw.
Pryd fydd y cynllun ar waith?
Bydd y cynllun ar waith o ddydd Mercher, 1 Mawrth hyd at ddydd Gwener, 31 Mawrth.
Sut mae'r cynllun yn cael ei ariannu?
Yn ddiweddar mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac mae'r amodau am ei dderbyn yn nodi bod rhaid gwario rhan ohono yn ystod y flwyddyn ariannol yma. Os na fyddwn ni'n gwario rhan o'r cyllid eleni, bydd Llywodraeth y DU yn ei gymryd oddi wrthon ni. Bydd y cyllid yma'n ariannu'r cynllun yn llawn.
Pa deithiau fydd yn cael eu cynnig am ddim?
Rhondda Cynon Taf fydd yr unig Gyngor yng Nghymru sy'n cynnig y cynllun yma, felly bydd y cynllun yn cynnwys teithiau sy'n dechrau ac yn gorffen yn y Fwrdeistref Sirol yn unig. Fydd y cynllun ddim yn talu am deithiau sy'n croesi ffiniau'r sir.
Bydd angen i deithwyr sy'n teithio allan o Rondda Cynon Taf neu i mewn i'r Fwrdeistref Sirol o unrhyw awdurdod lleol arall brynu eu tocynnau arferol am y pris llawn priodol. Er enghraifft, byddai teithio ar fws sy’n mynd o Aberdâr i Borthcawl am ddim o Aberdâr i Gilfach Goch ond byddai rhaid i'r teithiwr dalu'r pris llawn petai'r daith yn gorffen ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae pob gwasanaeth bws yn rhan o'r cynllun, waeth pwy yw'r gweithredwr a does dim cyfyngiadau amser ar y cynllun, felly mae'r gwasanaethau cyntaf ac olaf yn gymwys.
Oes unrhyw gynlluniau ar y geill i gynnig y cynllun yma eto yn y dyfodol?
Cynllun peilot yn unig yw'r fenter ar hyn o bryd. Ar ôl i'r cynllun ddod i ben bydd y Cyngor yn asesu ei effaith ac yn gwrando ar adborth cyn ystyried gwneud rhywbeth tebyg yn y dyfodol. Gan ddibynnu ar ddeilliannau'r cynllun, mae'n bosibl y bydd modd cynnig cynllun tebyg ym mis Rhagfyr er mwyn rhoi hwb i'r ymgyrch siopa'n lleol dros gyfnod y Nadolig.
Wedi ei bostio ar 28/02/2023