Skip to main content

Lleoedd Diogel yn y gymuned nawr ar gael i gefnogi oedolion

Safe Places scheme introduced in partnership with Cwm Taf People First

Mae'r Cyngor a People First Cwm Taf wedi cyflwyno'r tri Lle Diogel cyntaf yn Rhondda Cynon Taf – lle mae modd i unrhyw oedolyn dros 18 oed fynd iddyn nhw os ydyn nhw'n teimlo ar goll, yn teimlo'n ofnus, yn agored i niwed neu angen cymorth.

Mae Lleoedd Diogel yn gynllun cenedlaethol sy'n sefydlu lleoliadau sy'n cynnig cymorth i rywun os ydyn nhw'n dod ar draws problemau neu anawsterau pan maen nhw allan yn crwydro yn y gymuned, a hynny gyda chymorth gan staff hyfforddedig. Mae'r cynllun lleol newydd yn Rhondda Cynon Taf nawr ar gael i bob oedolyn sy'n teimlo eu bod nhw angen lle diogel i fynd iddo. Mae'r lleoedd diogel yma wedi'u lleoli yn Llyfrgell Pontypridd, Llyfrgell Aberdâr a Llyfrgell Treorci.

Mae’r cynllun newydd yma wedi'i gefnogi gan Heddlu De Cymru, ac mae wedi ychwanegu'r 3 llyfrgell yma sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor at Rwydwaith Cenedlaethol Lleoedd Diogel. Y nod yw ychwanegu'r 10 llyfrgell arall sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor yn y dyfodol agos.

Mae'r holl Leoedd Diogel wedi'u cofrestru, a bydd gyda nhw sticer gyda logo Lleoedd Diogel (fel sydd yn y llun uchod) fel bod modd i'r cyhoedd eu hadnabod. Bydd staff hyfforddedig ym mhob llyfrgell yn gwybod sut i helpu'r person sy'n dod i un o'r Lleoedd Diogel, yn dibynnu ar y sefyllfa. Gallai hyn amrywio o eistedd gyda'r person i gael sgwrs gyfeillgar, i gysylltu â ffrindiau a theulu, neu ffonio am gymorth mewn argyfwng.

Mae modd i bobl sy'n teimlo y bydden nhw'n manteisio ar y cynllun Lleoedd Diogel wneud cais am ffurflen gais. Mae'r rhain ar gael drwy e-bostio People First Cwm Taf ar enquiries@rctpeoplefirst.org.uk neu drwy ffonio 01443 757954.

Bydd y rheiny sy'n cofrestru angen ychwanegu dau enw a dau rif cyswllt i'w ffurflen gais. Gallai'r rhain fod yn ffrindiau neu'n deulu a fyddai'n hapus i dderbyn galwad ffôn gan staff y Lleoedd Diogel os oes angen unrhyw gymorth. Bydd pob aelod yn derbyn cerdyn wedi'i frandio y bydd modd iddyn nhw ddangos i staff yn ein llyfrgelloedd i dderbyn y cymorth sydd ei hangen arnyn nhw.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rydw i'n falch bod y llyfrgelloedd sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor ym Mhontypridd, Aberdâr a Threorci bellach yn Lleoedd Diogel dynodedig, diolch i'r fenter wych yma rhwng People First Cwm Taf a Heddlu De Cymru. Mae ein llyfrgelloedd yn hybiau cymunedol ardderchog ac yn lleoliadau addas i gynnig y gwasanaeth yma, sydd ar gael i unrhyw oedolyn sy'n teimlo ei fod angen lle diogel i fynd iddo.

"Mae People First Cwm Taf yn gwneud gwaith arbennig i hyrwyddo lleisiau'r rheiny sydd ag anabledd dysgu yn Rhondda Cynon Taf, ac mae'r Cyngor yn falch o fod wedi cyd-weithio gyda'r sefydliad ers llawer o flynyddoedd. Rydyn ni wedi gweithio ar lawer o achlysuron yn y gymuned gyda'n gilydd, gan gynnwys yr achlysur 'Fy Niwrnod i, Fy Newis i' llynedd. Mae'r ymarfer bwysig yma wedi rhoi gwell dealltwriaeth i ni o ba wasanaethau oriau dydd sydd bwysicaf i bobl sydd ag anableddau dysgu i'w helpu nhw i fod mor annibynnol â phosibl.

"Rydyn ni o'r farn y dylai bawb deimlo'n ddiogel ac yn hyderus i fod yn rhan o'u cymuned, a hyderaf y bydd y cynllun yma’n tawelu meddwl rhai pobl, gan roi sicrwydd iddyn nhw bod modd mynd i Le Diogel os oes angen cymorth arnyn nhw. Mae'r Cyngor a People First Cwm Taf yn y broses o sefydlu 10 Lle Diogel pellach yn y llyfrgelloedd eraill sy’n cael eu cynnal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

"Gallai'r cymorth y mae oedolyn yn ei dderbyn mewn Lle Diogel amrywio o sgwrs fer, i staff yn ffonio am gymorth mewn sefyllfa o argyfwng. Hoffwn i annog i unrhyw oedolyn sy'n teimlo y mae'n bosibl y gallen nhw fanteisio ar y cynllun Lleoedd Diogel yn y dyfodol i fynd ati i gofrestru."

Wedi ei bostio ar 10/02/2023