Bydd astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal ar gyfer cynllun posibl i gyflwyno mesurau a fydd yn rhoi blaenoriaeth i fysiau ar yr A4119 rhwng Llantrisant a thref Tonypandy, gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Bydd yr astudiaeth yn ategu astudiaethau tebyg i archwilio'r posibilrwydd o sefydlu coridor a fyddai'n rhoi blaenoriaeth i fysiau rhwng Llantrisant/Tonysguboriau a Chaerdydd - y cyfeirir ato gan amlaf fel Coridor Trafnidiaeth Gogledd-orllewin Caerdydd. Mae Achos Busnes Amlinellol yn cael ei baratoi ar ôl i astudiaeth gychwynnol nodi nifer o opsiynau trafnidiaeth cyhoeddus ar gyfer y rhanbarth.
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd bellach wedi dyrannu £82,510 o gyllid i ymchwilio i gynllun ategol i wella effeithlonrwydd gwasanaethau bysiau sy’n defnyddio’r A4119 rhwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg a thref Tonypandy. Mae'r Cyngor wedi comisiynu ymgynghorwyr drwy Drafnidiaeth Cymru.
Bydd yr astudiaeth yn edrych ar opsiynau i gyflwyno mesurau Cludo Cyflym i Fysiau ar yr A4119 i gynyddu capasiti a dibynadwyedd y gwasanaethau bysiau. Mae'r mesurau gan amlaf yn cynnwys sefydlu rhannau penodol o'r ffyrdd i fysiau, a rhoi blaenoriaeth i fysiau wrth gyffyrdd. Y canolbwynt fydd rhoi blaenoriaeth i fysiau mewn ardaloedd wedi'u targedu lle mae tagfeydd traffig.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i baratoi cynllun dichonoldeb ddrafft, a fydd yn cael ei ddilyn gan Adroddiad Dichonoldeb Opsiynau sy'n cynnwys amcangyfrifon costau i bob opsiwn a ddaw i law i'w ystyried.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'r Cyngor wedi gwneud cais am astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer cynllun posibl i gyflwyno mesurau a fydd yn rhoi blaenoriaeth i fysiau ar yr A4119 rhwng Llantrisant a thref Tonypandy. Bydd gwella effeithlonrwydd gwasanaethau bysiau yn annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae llawer o fanteisio i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, o leihau'r traffig ar ein ffyrdd, i leddfu tagfeydd traffig a helpu i wella'r amgylchedd.
"Nod yr astudiaeth a gomisiynwyd yw ategu prif gynlluniau Coridor Trafnidiaeth y Gogledd-orllewin, sydd wedi nodi nifer o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus i wella cysylltedd o Bont-y-clun, Tonysguboriau, Llantrisant a Beddau, i mewn i Greigiau, Plasdwr a Chanol Dinas Caerdydd. Bydd hefyd yn annog teithio i'r cyfeiriad arall i mewn i Rondda Cynon Taf, tuag at dref Llantrisant ac ymhellach i'r gogledd.
"Mae Rhanbarth Porth Cwm Rhondda wedi'i nodi'n Ardal Cyfleoedd Strategol ar gyfer buddsoddiad a thwf economaidd gan y Cyngor. Mae cynllun deuoli’r A4119 rhwng Coedelái ac Ynysmaerdy wrth wraidd yr ardal brysur yma a bydd yn helpu i wella llif traffig yn sylweddol ar adegau prysur – gan gynnwys teithiau bws. Dechreuodd y gwaith ar y safle'r haf diwethaf, ac mae'n parhau i fynd rhagddo er mwyn cael ei gwblhau yn 2024.
"Rydw i'n falch bod y cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb i archwilio'r mesurau Bar hyd rhan allweddol o'r A4119. Bydd yr astudiaeth yn datblygu'r broses o gyflwyno opsiynau i'w trafod."
Wedi ei bostio ar 13/02/2023