Skip to main content

Buddsoddiad pellach ar gyfer meysydd â blaenoriaeth wedi'i gymeradwyo gan y Cabinet

Investment priorities - Copy

Mae’r Cabinet wedi trafod rhaglen gyfalaf tair blynedd newydd ac wedi cytuno arni. Mae'r rhaglen yn cynnwys buddsoddiad pellach gwerth £7.1 miliwn i'w wario ar feysydd â blaenoriaeth y Cyngor, gan ganolbwyntio'n benodol ar gynnal a chadw priffyrdd, ffyrdd heb eu mabwysiadu, draenio, strwythurau, parciau, mannau gwyrdd a mannau chwarae.

Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 28 Chwefror, bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu'r rhaglen gyfalaf tair blynedd newydd, a fydd yn buddsoddi £187.32 miliwn rhwng 2023/24 a 2025/26. Mae'r Aelodau wedi cytuno i argymell bod y Cyngor Llawn yn cytuno ar y rhaglen gyfalaf newydd yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2023. 

Mae’r rhaglen tair blynedd yn cynnwys rhaglen gyfalaf graidd gwerth £42.5 miliwn wedi’i hariannu’n llawn. Mae hefyd yn cynnwys cyllid sylweddol i gefnogi’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a gwelliannau i’r priffyrdd, grantiau penodol, a defnyddio cronfeydd wrth gefn sydd eisoes wedi’u dyrannu i gynlluniau gwahanol. 

Roedd yr adroddiad yn nodi bod cyllid pellach a oedd wedi'i neilltuo ar gyfer cynlluniau buddsoddi a seilwaith hefyd ar gael, a bydd modd defnyddio'r cyllid yma i helpu i gynnal a gwella seilwaith yn Rhondda Cynon Taf. Mae buddsoddiad un-tro gwerth £7.1 miliwn, sy'n ychwanegol at gyllidebau cyfalaf craidd, yn cael ei gynnig ar gyfer meysydd â blaenoriaeth penodol y flwyddyn nesaf (2023/24):

  • Cynnal y priffyrdd (£2.5 miliwn) 
  • Ffyrdd heb eu mabwysiadu (£300,000) 
  • Strwythurau priffyrdd (£2.4 miliwn) 
  • Draenio (£500,000) 
  • Strwythurau Parciau  (£250,000) 
  • Parciau a Mannau Gwyrdd (£750,000) 
  • Mannau Chwarae (£200,000) 
  • Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd (MUGAs) (£200,000). 

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Seilwaith a Buddsoddi: “Mae’r Cabinet bellach wedi cytuno ar fuddsoddiad ychwanegol gwerth £7.1 miliwn, i'w wario ar feysydd â blaenoriaeth allweddol y flwyddyn nesaf. Mae'r arian yma’n ychwanegol at y cyllidebau cyfalaf craidd ar gyfer y meysydd â blaenoriaeth yma, gan roi hwb iddyn nhw. Bydd y buddsoddiad arfaethedig nawr yn cael ei drafod gan y Cyngor Llawn ar 8 Mawrth.  

“Mae’r Cyngor wedi gallu cynnig a gweithredu buddsoddiadau cyfalaf o’r math yma ar sawl achlysur yn y blynyddoedd diwethaf, gan ddyrannu oddeutu £146 miliwn mewn adnoddau ychwanegol ers mis Hydref 2015.  

“Rwy’n falch bod cyllid sylweddol wedi’i ddyrannu i'n rhaglen garlam ar gyfer cynnal a chadw'r ffyrdd fel bod modd i ni barhau i leihau canran y ffyrdd A, B ac C sydd angen eu hatgyweirio. Yn ogystal â hynny, mae cyllid pwysig wedi'i neilltuo ar gyfer strwythurau sy'n cynnal ein rhwydwaith ffyrdd, gyda'r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw tua 1,500 o waliau, pontydd a chwlferi yn y fwrdeistref sirol. 

“Mae cyllid pwysig hefyd wedi’i glustnodi i ehangu ein rhaglen Ffyrdd heb eu Mabwysiadu ymhellach, sy’n gwella ffyrdd preifat sydd ddim wedi’u cynnal a’u cadw i safon dderbyniol. Mae'r rhaglen wedi nodi 23 o gynlluniau hyd yn hyn – a bydd y cyllid newydd arfaethedig yn caniatáu i ragor o leoliadau gael eu cynnwys yn rhan o Raglen Gyfalaf y Priffyrdd y flwyddyn nesaf. 

“Yn olaf, rwy'n falch bod £1 miliwn yn cael ei ddyrannu i'n parciau, strwythurau'n parciau a'n mannau gwyrdd. Bydd y buddsoddiad yma'n helpu i gynnal a gwella ein mannau awyr agored sy'n dod â chymaint o bleser i'n trigolion ac i ymwelwyr. Bydd y dyraniad o £200,000 ar gyfer mannau chwarae i blant yn rhan o'r buddsoddiad mawr a pharhaus yn y maes yma. Dros y saith mlynedd diwethaf, mae 100 o gyfleusterau wedi’u gwella ar gyfer ein pobl ifainc, ac mae buddsoddiad tebyg wedi’i glustnodi ar gyfer Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd ar ôl i ni gyhoeddi ym mis Hydref 2022 y bydd cyfleusterau newydd yn cael eu darparu i gymuned Pen-y-graig a’r Graig.”

Wedi ei bostio ar 03/03/2023