Skip to main content

Cysylltu ein Cyn-filwyr

Connected 1

Mae'r Cyngor yn parhau i feithrin ei berthynas barhaus â chymuned y Lluoedd Arfog trwy sicrhau bod cyfrifiaduron llechen ar gael i gyn-filwyr i'w galluogi nhw i fanteisio ar wasanaethau hanfodol a chadw mewn cysylltiad â'i gilydd. 

Mae Cynllun Cysylltu Cyn-filwyr y Cyngor yn enghraifft bellach o ymrwymiad yr awdurdod lleol i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. Cyngor Rhondda Cynon Taf fu un o'r cyntaf yng Nghymru i ymuno â Chyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, ac fe wnaeth y Cyngor gadarnhau'i ymrwymiad eto yn 2018.  

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod mwy na 7,500 o gyn-filwyr y Lluoedd Arfog yn byw yn Rhondda Cynon Taf, y drydedd boblogaeth fwyaf o gyn-filwyr fesul awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae gan Wasanaeth Cyn-filwyr y Cyngor 80 o gyfrifiaduron llechen yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog: Rhaglen 'Force[PF1]  For Change'. Mae'r cyfrifiaduron llechen wedi cael eu cyflenwi gan Centerprise International ac mae cyn-filwyr yn Rhondda Cynon Taf yn eu defnyddio nhw'n aml yn rhan o'r Cynllun Cysylltu Cyn-filwyr. 

MeddaiDirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: "Mae'r Cynllun Cysylltu Cyn-filwyr yn caniatáu ein cyn-filwyr i gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd a'u ffrindiau, yn ogystal â chaniatáu iddyn nhw fod yn rhan o grwpiau rhithwir i gyn-filwyr. Mae hyn oll yn eu helpu nhw i gynnal cynhwysiant cymdeithasol trwy dechnoleg ddigidol yn ogystal ag wyneb yn wyneb i gefnogi grwpiau ledled y Fwrdeistref Sirol. 

“Mae cymaint o ddyled arnom ni i’n cyn-filwyr a byddwn ni byth yn anghofio eu gwasanaeth dros y wlad. Mae'r cyfrifiaduron llechen yma’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cymaint o bobl." 

Mae Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog trwy ddarparu rhaglenni cyllid sy'n creu newid gwirioneddol i gymunedau'r Lluoedd Arfog ledled y DU.

Mae modd i gyn-filwyr yn Rhondda Cynon Taf logi'r cyfrifiaduron llechen unrhyw bryd, yn rhad ac am ddim, drwy Wasanaeth Cyn-filwyr y Cyngor. Does dim angen cysylltiad wi-fi preifat gan fod yr holl ddata yn cael ei ddarparu'n rhad ac am ddim gyda'r cyfrifiaduron llechen. Mae hyfforddiant rhad ac am ddim hefyd ar gael os oes angen. 

Mae Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor hefyd yn cynnig ystod eang o gymorth am faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid a Chyflogaeth. 

 Trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM, caiff cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog siarad â swyddogion penodol yn gyfrinachol. Mae Swyddogion o Wasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor hefyd yn mynychu cyfarfodydd grŵp cymorth yn wythnosol. 

Cymuned y Lluoedd Arfog, Ddoe a Heddiw: Cymorth sydd ar gael

Dros y blynyddoedd diweddar, mae'r Cyngor hefyd wedi rhoi Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol i'r Gwarchodlu Cymreig a'r Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan, a holl bersonél Yr Awyrlu Brenhinol, o'r gorffennol i'r presennol.   

Mae modd i gyn-filwyr yn Rhondda Cynon Taf fenthyg y cyfrifiaduron llechen rhad ac am ddim ar unrhyw adeg trwy ffonio Carfan Lluoedd Arfog y Cyngor ar 07747 485 619 neu e-bostio

Wedi ei bostio ar 21/02/2023