Skip to main content

Lansio Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

RCT Eisteddfod Launch Day
Gwybodaeth - Eisteddfod Genedlaethol

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei lansio mewn gŵyl arbennig yn Y Lion, Treorci, ddydd Sadwrn 4 Mawrth. 

Gan ddod â’r gymuned ynghyd, mae’r ŵyl yn cynnig blas o’r hyn i’w ddisgwyl yn yr Eisteddfod, a gynhelir yn yr ardal yn ystod wythnos gyntaf mis Awst y flwyddyn nesaf. 

Mae’r trefnwyr wedi gweithio gyda pherfformwyr, artistiaid a grwpiau cymunedol ar draws y sir er mwyn creu rhaglen arbennig yn Y Lion, sy’n rhedeg o 10:00 tan yn hwyr, gyda gig gan Candelas, sydd wedi perfformio ar bob un o lwyfannau mawr yr Eisteddfod yn cloi’r cyfan ar y diwedd. 

Mae’r ŵyl yn dathlu dechrau’r gwaith paratoi ar gyfer yr Eisteddfod, sydd yn dychwelyd i’w gwreiddiau, gan i’r ŵyl fodern gyntaf gael ei chynnal yn Aberdâr yn 1861.  

Mae’r Eisteddfod wedi datblygu ac esblygu llawer iawn ers hyn, ac mae’r ŵyl fodern yn ddathliad cynnes, cyfeillgar a chynhwysol o’n hiaith a’n diwylliant.  Mae’n un o wyliau mwyaf Ewrop, gyda thros 1,000 o weithgareddau sy'n denu mwy na 160,000 o ymwelwyr yn flynyddol, wrth deithio o amgylch Cymru. 

Mae Cadeirydd Eisteddfod 2024, Helen Prosser, yn edrych ymlaen at y digwyddiad, ac meddai, “Rydyn ni’n falch iawn i lansio Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf mewn gŵyl i’r teulu cyfan ddydd Sadwrn 4 Mawrth.

Mae gennym ni raglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau i bawb.  Mae’r Eisteddfod yn ŵyl i bawb ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ein digwyddiad yn Nhreorci yn gyfle i drigolion lleol glywed mwy am ein cynlluniau ac y bydd pawb yn awyddus i ymuno â’r gwaith trefnu dros y misoedd nesaf.

“Ein prif neges wrth i ni lansio’r prosiect yw fod yr Eisteddfod yn perthyn i ni i gyd, os ydyn ni wedi bod i’r ŵyl yn y glorffennol neu os ydyn ni eisiau clywed am beth sy’n digwydd yn Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf. 

“Rydyn ni am i bawb ymuno â ni, yn ddysgwyr, siaradwyr Cymraeg hyderus a phawb sydd wedi colli cysylltiad gydag ein hiaith ers yr ysgol neu sydd heb gael cyfle i ddysgu.

“Mae gennym ni ddigonedd o waith i’w wneud dros y deunaw mis nesaf, yn trefnu cystadlaethau, hyrwyddo’r ŵyl a chodi arian, ac rydyn ni eisiau i bobl o bob cymuned, pentref a thref ar draws y tri chwm i fod yn rhan o’r paratoadau.

“Dyma ein Eisteddfod Genedlaethol gyntaf ni ers 1956, felly rydyn ni am i’r prosiect a’r ŵyl fod yn wych er mwyn dangos i bawb beth sydd gennym ni i’w gynnig yma yn Rhondda Cynon Taf.”

 Eisteddfod Genedlaethol  

Ychwanegodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod Cabinet Addysg a’r Iaith Gymraeg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, “Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Rondda Cynon Taf yn 2024.  Bydd y digwyddiad yn Y Lion yn rhoi blas i’n trigolion o’r hyn sydd i ddod pan fydd gŵyl fwyaf Ewrop yn dod i’n hardal ni. 

“Mae’r Eisteddfod i chi, i mi, i bob un ohonon ni.  Mae ‘na rywbeth i bawb yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024, ac rydyn ni eisiau i’n holl gymunedau fod yn rhan o’r hwyl, beth bynnag eu hoed, eu cefndir neu amgylchiadau. 

“Gyda chymaint i edrych ymlaen ato, bydd y digwydd yn Y Lion yn ffordd hwyliog i gychwyn beth gyd yn ddechrau cyffrous i ŵyl mor wych ac adnabyddus. 

“Cafodd yr Eisteddfod fodern gyntaf ei chynnal yn Aberdar yn 1861, ac mae’n wych ei bod hu’n dod adref i Rhondda Cynon Taf.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld ein trigolion ac ymwelwyr ar y Maes yn mwynhau popeth sydd gan yr ŵyl i’w gynnig.” 

Mae’r partneriaid ar gyfer y digwyddiad yn Y Lion yn cynnwys Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Aelwyd Cwm Rhondda a Dysgu Cymraeg Rhondda Cynon Taf. 

Yn dilyn yr ŵyl, bydd trefnwyr yn cynnal cyfarfod agored ym Mhrifysgol De Cymru, Trefforest nos Iau 16 Mawrth am 19:00 i bawb sydd â diddordeb i fod yn rhan o’r gwaith o drefnu’r cystadlaethau a’r gweithgareddau artistig.  Mae croeso mawr i bawb yn y digwyddiad, a bydd cyfieithu ar y pryd ar gael.  

Byddwn yn dechrau ar y gwaith o drefnu gweithgareddau ar lefel meicro-leol a bydd rhagor o fanylion am hyn ar gael yn fuan. 

Wedi ei bostio ar 22/02/23