Skip to main content

Lleihau perygl llifogydd gyda dau gynllun lleol yn Rhydfelen

Masefield Way

Ffordd y Cae Ŷd

Bydd gwaith lliniaru llifogydd pwysig yn mynd rhagddo mewn dau leoliad gwahanol yn Rhydfelen, er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd pan fydd cawodydd trwm o law. Mae’r ddau gynllun yn elwa ar gyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y gwaith yn Ffordd y Cae Ŷd a rhan gyfagos o Heol Bryn-tyle yn dechrau ddydd Llun, 13 Chwefror. Bydd y cynlluniau yn cael eu cynnal i ffwrdd o'r briffordd, sy'n golygu does dim angen cynllun rheoli traffig ac felly fydd dim gormod o darfu yn lleol. Mae'r Cyngor wedi penodi Calibre Contracting Ltd i gyflawni’r cynllun ar y safle.

Bydd saith wythnos o waith yn Heol Bryn-tyle yn gosod strwythur a fydd yn helpu i reoli llif y dŵr yn well pan fydd cyfnodau trwm o law, gan leihau'r pwysau ar isadeileddau eraill ym mannau is yn y rhwydwaith. Bydd y cynllun yn Ffordd y Cae Ŷd yn gosod strwythur a fydd yn helpu i leihau nifer y malurion sy'n mynd i mewn i'r system ddraenio, gan leihau'r rhwystrau a allai achosi llifogydd.

Cyfanswm y buddsoddiad ar gyfer y ddau gynllun yw £250,000, ac mae'r Cyngor wedi derbyn cyfraniad o 85% o'r Grant Gwaith Graddfa Fach gan Lywodraeth Cymru. Mae’r 15% sy’n weddill yn cael ei ddarparu gan Raglen Gyfalaf y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'r gwaith yma yn Rhydfelen yn cynrychioli'r buddsoddiad diweddaraf sydd wedi'i dargedu ledled cymunedau yn y Fwrdeistref Sirol i helpu i leihau'r risg o lifogydd. Mae'r Cyngor yn parhau i flaenoriaethu buddsoddiad i liniaru llifogydd, wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, er mwyn cydnabod y tebygolrwydd cynyddol o stormydd yn sgil y newid yn yr hinsawdd.

“Mae ein rhaglen waith yn cynnwys mwy na 100 o gynlluniau lliniaru llifogydd, gyda hanner ohonyn nhw eisoes wedi’u cwblhau – gyda £18 miliwn wedi’i wario ar uwchraddio seilwaith a £25 miliwn wedi'i wario ar waith atgyweirio yn dilyn difrod yn sgil stormydd yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r glaw trwm diweddar yn ystod mis Ionawr wedi dangos i ni bod ein gwaith hyd yn hyn wedi bod yn effeithiol mewn nifer o leoliadau – ond rydyn ni'n effro i'r ffaith bod llawer mwy o waith i'w wneud.

"Y cynlluniau sydd ar y gweill yn Ffordd y Cae Ŷd a Heol Bryn-tyle yn Rhydfelen yw'r cynlluniau mwyaf diweddar i dderbyn arian gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2022/23. Cafodd bron i £16 miliwn ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn ariannol bresennol ar gyfer gwaith atgyweirio sy'n gysylltiedig â Storm Dennis, yn ogystal ag oddeutu £3.9 miliwn ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd ar draws y rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a'r rhaglen Grant Gwaith Graddfa Fach. Rydyn ni hefyd wedi derbyn £400,000 i ddatblygu 10 cynllun Ffyrdd Cydnerth pellach.

"Efallai y bydd preswylwyr yn sylwi ar ddechrau’r ddau brosiect yn Rhydfelen yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 13 Chwefror. Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r contractwr y mae wedi'i benodi i wneud cynnydd effeithlon dros yr wythnosau nesaf i gyflawni'r buddsoddiad lliniaru llifogydd yma ar gyfer y gymuned."

Wedi ei bostio ar 10/02/2023