Skip to main content

Cefnogi Mis LHDTC+

logo pride

Unwaith yn rhagor, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cefnogi Mis Hanes LHDTC+. Dyma ddathliad blynyddol mis o hyd i ddathlu hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol ac anneuaidd, gan gynnwys hanes eu hawliau nhw a mudiadau hawliau sifil cysylltiedig. 

Eleni, mae'r Cyngor yn cyd-weithio gyda'r hanesydd ac awdur LHDTC+ Norena Shopland i lansio Llinell Amser Hanes LHDTC+ RhCT. Dyma ran ryngweithiol o'n cymdeithas sy'n caniatáu pobl leol i gyfrannu at y llinell amser gyda straeon eu hunain a rhannu straeon pobl LHDTC+ o ardal Rhondda Cynon Taf.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: "Rydyn ni unwaith yn rhagor yn falch i gefnogi Mis Hanes LHDTC+. Dyma gyfle i bawb rannu gwybodaeth a myfyrio ar yr hanes a'r eiliadau pwysig ym mywydau pobl LHDTC+ sydd wedi dod â ni at y sefyllfa bresennol.     

"Yn Rhondda Cynon Taf rydyn ni'n deall bod cydraddoldeb, parch ac urddas yn bwysig i sicrhau bod ein cymuned yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Yn y Cyngor, rydyn ni'n derbyn y cyfrifoldeb o hyrwyddo’r gwerthoedd yma a dangos ein bod ni'n deall ein rôl wrth greu’r gymuned yna."

Yn rhan o'r dathliad yna, rydyn ni'n cynnal achlysur i lansio Llinell Amser Hanes LHDTC+ yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, ddydd Mawrth 28 Chwefror am 2pm. Mae croeso i bawb.

Mae gan Norena Shopland, sydd yn wreiddiol o Gaerdydd, radd feistr mewn astudiaethau treftadaeth. Mae hi wedi gweithio i’r Amgueddfa Brydeinig, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban ac Amgueddfa Llundain, ynghyd â sefydliadau treftadaeth blaenllaw eraill.

Mae hi'n gyfrifol am nifer o brosiectau sy'n torri tir newydd, gan gynnwys y prosiect cyntaf yng Nghymru i gynnwys cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd yn rhan o hanes Cymru, gan arwain at Pride Cymru, yr arddangosfa gyntaf sy’n canolbwyntio’n benodol ar bobl, cynghreiriaid ac achlysuron LHDTC+ yng Nghymru.

A hithau wedi rheoli 'Gender Fluidity', y prosiect trawsryweddol cyntaf i gael ei ariannu yng Nghymru, ei llyfr, Forbidden Loves: LGBT Stories From Wales yw’r gwaith hanesyddol cyflawn cyntaf ar gyfeiriadedd rhywiol Cymreig a hunaniaeth rhywedd.

Mae ei chyhoeddiadau eraill, The Curious Case of the Eisteddfod Baton, yn dathlu canu corawl a mwyngloddio yng Nghymru. Mae The Veronal Mystery yn archwilio cefndir trosedd hoyw ym mywyd go iawn.

Caiff Mis Hanes LHDTC+ ei ddathlu ledled y DU bob mis Chwefror i gyd-fynd â diddymu Adran 28 yn 2003, a oedd yn golygu bod modd i ysgolion siarad am bobl LHDTC+ a'u hanesion yn agored ac yn gadarnhaol, a hynny heb i athrawon ofni y bydden nhw’n colli eu swyddi. Fe gychwynnodd Mis Hanes LHDTC+ yn y DU ym mis Chwefror 2005 gan Schools Out UK. Mae'n dathlu bywydau pobl LHDTC+ o amgylch y byd.

Bydd yr achlysur i lansio Llinell Amser LHDTC+ yn cael ei gynnal yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Glofa Lewis Merthyr, Trehafod, CF37 2NP, ddydd Mawrth 28 Chwefror am 2pm. Mae croeso i bawb. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch cydraddoldeb@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 24/02/23