Mae'r Cyngor wedi buddsoddi mewn adeiladau newydd sbon i ysgolion cynradd ym Mhont-y-clun, Pentre'r Eglwys a Llantrisant, ac mae Arweinydd y Cyngor a'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg wedi ymweld â phob lleoliad i ddathlu dechrau'r gwaith.
Aeth y Cynghorydd Andrew Morgan a'r Cynghorydd Rhys Lewis i ymweld â disgyblion, staff a'r carfanau adeiladu yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ddydd Mercher, 8 Chwefror. Morgan Sindall yw'r contractwr sydd wedi'i benodi i gyflawni'r gwaith, ac mae'r gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau yn y tri lleoliad dros yr wythnosau diwethaf. Y nod yw agor yr adeiladau newydd yn 2024 a 2025.
Llynedd, cafodd caniatâd cynllunio ei roi ar gyfer datblygu safleoedd presennol yr ysgolion, gan wella cyfleusterau'r ysgol bresennol trwy ddarparu adeiladau o’r radd flaenaf sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â phob prosiect wedi'i chrynhoi ar waelod y diweddariad yma.
Mae'r buddsoddiad yn cael ei gyflawni gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru, a hynny drwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Rhoddodd Llywodraeth Cymru gymeradwyaeth ariannol i bob prosiect ym mis Rhagfyr 2022 drwy elfen ariannu refeniw'r Rhaglen, y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.
Cymerodd y Cynghorydd Andrew Morgan a'r Cynghorydd Rhys Lewis ran mewn seremoni torri'r dywarchen ym mhob ysgol ddydd Mercher er mwyn dathlu bod y prif waith adeiladu wedi dechrau. Manteisiodd y Cynghorwyr ar y cyfle i weld y cynnydd sydd wedi'i wneud ar y safleoedd hyd yma.
Roedd y gwaith cychwynnol yn cynnwys gosod ffensiau diogelwch, gwaith tir a gosod canolfannau ar y safle er mwyn paratoi ar gyfer y brif ran o'r gwaith. Mae un adeilad wedi'i ddymchwel ar safle Ysgol Gynradd Pont-y-clun, gyda gwaith yn mynd rhagddo i osod yr ystafelloedd dros dro fydd eu hangen yn ystod y cyfnod adeiladu ar gyfer y prosiect yma.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae buddsoddi mewn cyfleusterau ysgol newydd ar gyfer ein pobl ifainc yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor. Pleser oedd cael ymweld ag Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ddydd Mercher er mwyn gweld cynnydd y prosiectau yma wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo. Bydd y cyfleusterau yma'n agor yn 2024 a 2025, gan wneud gwahaniaeth sylweddol i fywyd beunyddiol y disgyblion.
"Rydyn ni'n parhau i groesawu'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r cynlluniau yma trwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu – sy'n ein galluogi i fuddsoddi'n sylweddol yn ein hysgolion er gwaethaf yr heriau ariannol presennol. Bydd pob un o'n prosiectau newydd yn rhoi cyfle i'r gymuned ehangach ddefnyddio'r safle, gan greu canolfan fodern yng nghanol pob cymuned.
"Rydw i'n edrych ymlaen at weld cynnydd y prosiectau yn yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod, a hoffwn ddiolch i'r tair ysgol ynghyd â chontractwr y prosiect am y croeso cynnes dydd Mercher."
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Braf iawn oedd gweld dechrau'r gwaith o godi tri adeilad ysgol newydd sbon ym Mhont-y-clun, Pentre'r Eglwys a Llantrisant. Bydd y prosiectau yma'n creu ysgolion y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddyn nhw, drwy ddatblygu amgylcheddau dysgu modern sy'n ennyn diddordeb y disgyblion ac yn helpu ein hysgolion i gyflawni pob agwedd ar y cwricwlwm.
"Mae'r prosiectau yma'n un rhan o fuddsoddiad ehangach sydd wedi'i gynllunio'n lleol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru - yn cynnwys buddsoddiad gwerth £72 miliwn ledled ardal Pontypridd erbyn 2024. Yn ddiweddar, rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, Glynrhedynog hefyd. Mae'r rhain yn dilyn prosiectau mawr yn Ysgol Rhydywaun, Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, a fydd yn barod yn ystod y flwyddyn academaidd yma.
"Mae pob un o'n datblygiadau ysgol yn anelu at fod yn Garbon Sero-Net yn unol â nodau ac ymrwymiadau ehangach y Cyngor o ran Newid yn yr Hinsawdd. Hoffwn ddiolch unwaith eto i'r tair ysgol a'n contractwr am eu croeso ddydd Mercher - rwy'n edrych ymlaen at ymweld eto cyn bo hir."
Isod mae crynodeb o'r hyn y bydd y buddsoddiadau yn eu cyflawni ym mhob ysgol:
Ysgol Gynradd Pont-y-clun (yn gynnar yn 2025)
Bydd yr adeilad deulawr yn cynnwys dwy ystafell ar gyfer y dosbarth meithrin, dwy ystafell i'r dosbarth derbyn, pum ystafell i'r babanod, naw ystafell i'r adran iau, ardal ganolog a phrif neuadd gyda mannau amrywiol eraill. Bydd meysydd chwarae caled yn cael eu darparu y tu allan, yn ogystal â dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd a meysydd chwarae glaswellt anffurfiol eraill. Bydd gan y ddau faes parcio gyfanswm o 40 o leoedd parcio (bydd gan 10% ohonyn nhw gyfleuster gwefru cerbydau trydan) a bydd nifer helaeth o fannau storio beiciau yn cael eu darparu.
Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref (erbyn y gwanwyn, 2024)
Bydd yr adeilad unllawr yn cynnwys ystafelloedd dosbarth ar gyfer dosbarth meithrin, dosbarth derbyn, tri dosbarth i'r babanod a phedwar dosbarth i blant yr adran iau. Yn ogystal â hynny, bydd ardal ganolog, prif neuadd a mannau amrywiol eraill. Y tu allan bydd ardaloedd wedi'u tirlunio a meysydd chwarae caled a meddal, dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cae chwaraeon glaswellt (5 bob ochr) a thrac rhedeg glaswellt 40 metr. Bydd 23 o leoedd parcio (bydd gan bedwar ohonyn nhw gyfleuster gwefru cerbydau trydan) a mannau storio beiciau.
Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi (erbyn yr haf, 2024)
Bydd gan yr adeilad deulawr ystafelloedd dosbarth ar gyfer dau ddosbarth meithrin, un dosbarth derbyn, tri dosbarth i'r babanod a chwe dosbarth i blant yr adran iau, yn ogystal ag ardal ganolog, prif neuadd a chyfleusterau a mannau amrywiol eraill. Bydd meysydd chwarae caled yn cael eu darparu y tu allan, yn ogystal â chae chwaraeon (7 bob ochr), dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd a meysydd chwarae anffurfiol ar ochr ddeheuol y safle. Bydd 28 o leoedd parcio yn cael eu darparu (bydd gan bedwar ohonyn nhw gyfleuster gwefru cerbydau trydan) yn ogystal â mannau storio beiciau.
Wedi ei bostio ar 14/02/2023