Skip to main content

Cabinet i dderbyn diweddariad ar ystyriaethau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf

Cyn bo hir, bydd y Cabinet yn derbyn Strategaeth Cyllideb ddrafft y Cyngor sy'n nodi'r sefyllfa ariannol ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn 2023/24, yn dilyn y Setliad Llywodraeth Leol dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr.

Yn eu cyfarfod Ddydd Llun, 23 Ionawr, bydd Aelodau'r Cabinet yn trafod yr adroddiad ar y Strategaeth Gyllideb ddrafft a fydd yn amlinellu argymhellion Uwch Arweinwyr y Cyngor mewn perthynas â phennu cyllideb sy'n gytbwys yn gyfreithiol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Os cytunir arno, bydd ail gam y broses ymgynghori ar y gyllideb yn gofyn i drigolion am eu hadborth ar y Strategaeth Gyllideb ddrafft.

Mae proses y gyllideb ar gyfer 2023/24 wedi’i gosod yn erbyn cefndir o heriau ariannol digynsail ac mae’n sefyllfa y mae pob Cyngor ledled Cymru yn ei hwynebu yn y tymor byr a’r tymor canolig. Mae hyn oherwydd y cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau’r Cyngor er mwyn cefnogi trigolion, busnesau a chymunedau i adfer ar ôl y pandemig; yr argyfwng costau byw parhaus; costau cynyddol wrth ddarparu gwasanaethau'r Cyngor gyda lefel chwyddiant ar ei uchaf ers 40 mlynedd; a ffactorau allanol sy'n cael effaith andwyol barhaus – megis y rhyfel yn Wcrain.

Mae'r Setliad Llywodraeth Leol dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2022 yn gyfystyr â chynnydd o 6.6% yn y cyllid ar gyfer Rhondda Cynon Taf ar gyfer y flwyddyn nesaf. Er bod hyn yn uwch na'r ystod a amcangyfrifwyd ac a adroddwyd gan y Cyngor ar ddechrau tymor yr  hydref 2022, oherwydd pwysau costau sylweddol, mae'r Cyngor yn dal i wynebu bwlch o £38.3 miliwn yn y gyllideb.

O ganlyniad i hyn, mae Uwch Arweinwyr y Cyngor wedi ystyried ac wedi cynnig mesurau arbed cyllid ar draws pob maes. Mae'r rhain yn rhan o Strategaeth Gyllideb ddrafft sy’n targedu cyllid tuag at ddarparu gwasanaethau allweddol, yn defnyddio dull cyfrifol o ymdrin â lefel Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf ac yn cynnal sefydlogrwydd ariannol y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae hyn yn gyfnod hynod heriol i lywodraeth leol, gyda holl gynghorau Cymru yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd o ran eu cyllid. Mae'r adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Llun yn amlinellu'r sefyllfa ariannol ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn ogystal ag ystyriaethau ar sut i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2023/24.

“Cafodd maint yr her sy’n wynebu Rhondda Cynon Taf ei nodi yn ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig ym mis Medi, yn amlinellu bwlch cyllidebol o £36.5 miliwn ar gyfer 2023/24. Hyd yn oed gyda setliad amodol mwy ffafriol, mae effaith y cynnydd parhaus mewn costau wedi arwain at fwlch cyllidebol wedi’i ddiweddaru o £38.3 miliwn. Dyma oedd sail y gwaith o adolygu'r gyllideb a wnaed gan Uwch Arweinwyr y Cyngor.

“Serch hynny, mae gan y Cyngor hanes o wneud penderfyniadau ariannol cyfrifol, ac rydw i'n hyderus bod ein blaengynllunio parhaus wedi ein rhoi mewn sefyllfa gref i fynd i'r afael â'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu yn y tymor byr a'r tymor canolig. Dechreuodd y gwaith ar y gyllideb sydd i ddod yn gynnar iawn, gan ein rhoi ni mewn sefyllfa dda. Edrychon ni'n fanwl ar bob gwasanaeth, i ystyried sut mae modd lleihau'r bwlch yn y gyllideb.

“Mae’r adroddiad yn dangos sut mae modd i ni sicrhau cyllideb gytbwys ar gyfer 2023/24 heb ddiswyddiadau gorfodol, a chyda newidiadau ymylol yn unig i’r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu o gymharu â chynghorau eraill. Unwaith eto, byddwn ni'n ceisio sicrhau arbedion effeithlonrwydd gwerth miliynau o bunnoedd. Rydyn ni'n debygol o gynyddu Treth y Cyngor ond mae'n debyg y bydd hi’n codi ar un o'r cyfraddau isaf yng Nghymru – ymhell islaw’r cynnydd cyfartalog disgwyliedig – tra bod cynigion i godi ffioedd a thaliadau yn sylweddol is na’r gyfradd chwyddiant i ddiogelu defnyddwyr gwasanaethau. 

“Maes pwysig arall a fydd yn parhau i gael ei warchod yw Addysg. Mae ein cyllideb ysgolion eisoes wedi cynyddu 28% dros y 10 mlynedd diwethaf. Bydd y Cyngor yn ariannu’r holl bwysau ar ein hysgolion ar gyfer 2023/24 sy’n ymwneud â chyflogau, chwyddiant, costau ynni, newidiadau yn nifer y disgyblion ac Anghenion Dysgu Ychwanegol. Yn erbyn y sefyllfa yma bydd angen i ni gyfrannu at fantoli’r gyllideb, er ar lefel llawer is na gwasanaethau eraill y Cyngor.

“Gallai Aelodau’r Cabinet benderfynu ymgynghori ar y Strategaeth Cyllideb ddrafft yng ngham dau ymgynghoriad cyllideb blynyddol y Cyngor. Cafodd cam un ei gynnal ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2022. Os cytunir arno, byddai trigolion yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar y strategaeth ddrafft yn yr wythnosau nesaf. Bydd yr adborth a gawn yn helpu i lywio’r gyllideb derfynol a fydd yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor llawn ym mis Mawrth 2023.” 

Mae adroddiad Cabinet dydd Llun hefyd yn cyflwyno'r adborth a dderbyniwyd yng ngham un ymgynghoriad cyllideb y Cyngor. Fe’i cynhaliwyd ar wefan ymgysylltu Dewch i Siarad, gyda chefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn achlysuron ymgysylltu â’r cyhoedd. Roedd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar flaenoriaethau gwasanaeth allweddol. Ymgysylltwyd â chyfanswm o 1,300 o bobl, gan gynnwys 515 o ymatebion i'r arolwg a 525 o ymatebion 'pôl cyflym'.

Ar y cyfan, cytunodd 72.6% o'r ymatebwyr y dylai'r Cyngor dalu costau cyflog uwch a chostau eraill yn llawn mewn ysgolion, tra bod 91.7% yn teimlo bod y dull presennol o sicrhau effeithlonrwydd yn strategaeth dda. Yn ogystal, dywedodd 84.3% fod adolygiadau unigol o ffioedd a thaliadau yn ddull rhesymol, tra bod 68.3% yn teimlo ei bod yn well diogelu gwasanaethau trwy gynnydd rhesymol yn Nhreth y Cyngor. Mae crynodeb llawn o'r adborth wedi'i gynnwys mewn atodiad i adroddiad y Cabinet.

Wedi ei bostio ar 18/01/2023