Skip to main content

Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned i barhau i gynnig prydau poeth

RCT Community Meals Service CYM

Yn dilyn ymgynghoriad diweddar â'r cyhoedd, mae aelodau'r Cabinet wedi cytuno y dylai’r Cyngor ddal ati i ddarparu Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned, sy'n darparu prydau poeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth, a'i weithredu mewn ffordd newydd.

Cafodd yr opsiynau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth, sy'n cael ei adnabod fel 'Pryd-ar-glud', eu cyflwyno oherwydd y pwysau ariannol sylweddol y mae cynghorau ledled Cymru yn eu hwynebu. Mae hyn oherwydd y cynnydd yng nghostau bwyd ac ynni mewn perthynas â'r Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned.

Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Llun, 23 Ionawr, trafododd yr Aelodau yr adborth a dderbyniwyd yn ystod ymgynghoriad diweddar, a gafodd ei gynnal am bum wythnos rhwng 5 Rhagfyr 2022 a 9 Ionawr 2023. Rhoddodd y broses gyfle i drigolion ddweud eu dweud ar bedwar opsiwn posibl ar gyfer dyfodol y gwasanaeth, gan gynnwys yr opsiwn a oedd yn cael ei ffafrio gan y Cyngor, a fyddai'n golygu bod modd dal ati i ddarparu’r gwasanaeth.

Byddai'r opsiwn yma yn aildrefnu'r gwasanaeth yn fewnol, a byddai modd i drigolion ddewis cael pryd o fwyd wedi'i rewi neu bryd poeth wedi'i baratoi ymlaen llaw (lle gofynnir am hynny) wedi'i ddanfon i'w cartrefi, gyda staff y Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned yn parhau i gynnal gwiriadau lles. Byddai hefyd yn golygu ychwanegu 50c at bris pob pryd, sy’n golygu y byddai gofyn i drigolion dalu £4.55 fesul pryd. Byddai'r gwasanaeth wedi'i ailfodelu yn gweithredu ar gost o £6.28 fesul pryd, gan fanteisio ar £1.73 o gymhorthdal gan y Cyngor. Byddai'n parhau i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr.

Mae'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan y Cyngor yn golygu bod modd i staff barhau i gynnal ymweliadau lles, a hefyd yn rhoi'r dewis i ddefnyddwyr y gwasanaeth rhwng derbyn pryd poeth neu bryd wedi'i rewi (lle gofynnir am hynny). Fyddai ddim un defnyddiwr y gwasanaeth yn gorfod cynhesu ei fwyd ei hun oni bai ei fod yn dewis gwneud hynny.

Cynghorodd Swyddogion y byddai'r gost o £4.55 i baratoi a danfon bwyd yn parhau i fod yn bris cystadleuol iawn o'i gymharu â darparwyr preifat ac Awdurdodau Lleol cyfagos.

Mae crynodeb llawn o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi'i chynnwys yn adroddiad y Cabinet. Ar ôl ystyried yr adborth yn ei gyfanrwydd, cytunodd Aelodau'r Cabinet i fwrw ymlaen gyda'r opsiwn a oedd yn cael ei ffafrio gan y Cyngor i barhau â'r gwasanaeth gyda model newydd.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Hoffwn i ddiolch i drigolion am roi o'u hamser i ymateb i'r ymgynghoriad diweddar ar y Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned. Derbynion ni 416 o ymatebion drwy'r arolwg ar-lein, yn ogystal â sawl e-bost a galwad ffôn. Cafodd yr adborth a gafodd ei ddarparu ei drafod pan wnaeth y Cabinet ei benderfyniad terfynol ar ddyfodol y gwasanaeth ddydd Llun.

“Cafodd y cynigion eu cyflwyno yng ngoleuni'r heriau ariannol y mae pob Cyngor yn ei wynebu ar hyn o bryd. Ym mis Medi, adroddodd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ei bod hi'n debygol y bydd bwlch mawr yn y gyllideb ar gyfer 2023/24. Y sefyllfa ddiweddaraf yw bwlch o £38.3 miliwn, er gwaethaf y Setliad Llywodraeth Leol dros dro ffafriol.

“Byddai'n anymarferol cynnal y Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned presennol pe na bai unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud, a hynny oherwydd y cynnydd yng nghostau bwyd ac ynni a gostyngiad yn nifer y defnyddwyr gwasanaeth. Mae'r gwasanaeth yn ddewisol ac nid yw pob Awdurdod Lleol yn cynnig gwasanaeth o'r fath. Ond, rydyn ni'n effro i ba mor bwysig yw'r gwasanaeth, yn enwedig i ddefnyddwyr y gwasanaeth sy'n agored i niwed - a dyna pam y cynigodd y Cabinet opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan y Cyngor er mwyn dal ati i ddarparu'r gwasanaeth.

“Byddai'r opsiwn yma yn dal gafael ar wasanaeth gwerthfawr sydd â phris cystadleuol o £4.55 am bryd o fwyd, ac mae'n cynnig cyswllt cymdeithasol hanfodol i bobl sy'n agored i niwed ac yn rhoi'r dewis iddyn nhw ddewis rhwng derbyn pryd wedi'i rewi neu bryd poeth. Tynnwyd sylw at y themâu pwysig yma yn yr adborth i'r ymgynghoriad, a hoffwn roi sicrwydd i drigolion y bydd yr elfennau gwerthfawr yma o'r gwasanaeth yn parhau - gan gynnwys darparu pryd o fwyd poeth i'r rheiny sydd ei angen, a gwiriadau lles gan staff.

"Roedd modd i Swyddogion hefyd roi sicrwydd i drigolion ar lawer o faterion allweddol a gododd Aelodau'r Cabinet yn eu cyfarfod ddydd Llun. Yn gyntaf, gofynnais am asesiad i sicrhau bod pob defnyddiwr gwasanaeth yn gallu defnyddio offer coginio ar gyfer gwresogi prydau bwyd yn eu cartrefi, os dymunan nhw gael pryd wedi'i rewi wedi'i ddanfon. Sicrhaodd y Swyddogion hefyd fod cyflenwr prydau bwyd y gwasanaeth yn cynnig ystod eang o gynhyrchion o safon i ddefnyddwyr, gan gynnwys prif bryd a phwdin.

"Ar ôl pwyso a mesur yr holl ffactorau mewn perthynas â'r mater yma, ac ar ôl ystyried pwysau cyllidebol y Cyngor, cytunodd y Cabinet yn gyndyn i fwrw ati gyda'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan y Cyngor. Serch hynny, roedd perygl hefyd y byddai’n rhaid rhoi terfyn ar gynnig y Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned, ond, cafodd hynny ei wrthod gan y Cabinet. O ystyried hynny, mae'n bleser gen i weld bod yr opsiwn yma yn dal y fantol yn wastad i sicrhau y gallwn ni ddal ati i gynnal ein gwasanaeth gwerthfawr yma yn Rhondda Cynon Taf, a hynny am bris cystadleuol.”

Wedi ei bostio ar 26/01/23