Mae modd i drigolion lleol dderbyn cyngor proffesiynol AM DDIM ynglŷn â sut i gofrestru fel busnes bach (microfenter) i gynnig cymorth yn y cartref i bobl hŷn a phobl anabl.
Mae modd i’r microfenter yma fod yn fusnes bach neu'n berson hunangyflogedig sy’n cynnig gofal a chymorth i'r rhai sydd eu hangen y mwyaf. Mae'r microfentrau’n cael eu talu'n uniongyrchol gan y rhai sy'n derbyn y gofal a'r cymorth.
Mae angen microfentrau yma yn Rhondda Cynon Taf i gynnig gofal a chymorth i'n trigolion hŷn a phobl anabl gyda thasgau gofal personol, paratoi prydau bwyd a gweithgareddau yn ystod y dydd.
Rydyn ni'n chwilio am bobl angerddol a gofalgar sy’n fodlon cynnig gofal a chymorth i'w cymdogion hŷn ac anabl.
Mae cynnig gofal a chymorth yn rhan o ficrofenter yn eich galluogi chi i ofalu am drigolion eich cymuned, hyd yn oed y rhai rydych chi'n eu hadnabod. Dyma gyfle i weithio oriau hyblyg a derbyn incwm rheolaidd.
Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan fenter gymdeithasol Catalyddion Cymunedol (Community Catalysts), ac yn cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Meddai'rCynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rydyn ni'n falch iawn o gefnogi menter Catalyddion Cymunedol. Dyma ffordd arbennig o weithio oriau hyblyg, ennill arian a darparu gwasanaeth gwerthfawr i'r rhai sydd ei angen fwyaf.
"Does dim angen profiad blaenorol o weithio yn y sector gofal. Rydyn ni'n chwilio am bobl gofalgar sydd eisiau gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
"Byddwch chi’n gweithio'n agos â Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor. Mae’r Catalyddion Cymunedol yn cynrychioli’r cymorth ychwanegol sydd ei angen er mwyn hyrwyddo byw'n annibynnol yn Rhondda Cynon Taf."
Meddai Heather Maling, o Gatalyddion Cymunedol: "Rydyn ni wedi cefnogi nifer o bobl ledled Y Deyrnas Unedig i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth ar ffurf busnes bach ers 10 mlynedd.
Does dim angen i chi feddu ar brofiad proffesiynol o weithio yn y sector gofal na gwybod sut i redeg busnes, yr unig beth sydd ei angen arnoch chi yw gwybodaeth am beth sy’n cyfrif fel gofal da."
"Rydyn ni nawr eisiau dod o hyd i bobl sy'n angerddol ac yn ofalgar, ac sy'n dymuno helpu yn eu cymunedau, gweithio'n hyblyg, dewis oriau gwaith ei hun, derbyn cyflog teg a darparu gwasanaeth o safon. "
Meddai Sian Nowell, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro y Gwasanaethau Gofal a Chymorth, Trawsnewid ac Integreiddio: "Rydyn ni'n falch iawn o gael gweithio â'r fenter Catalyddion Cymunedol ar y prosiect yma. Bydd y prosiect yn cynyddu nifer y cyfleoedd sydd ar gael i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolion.
"Bydd y prosiect yma o fudd i bobl am sawl rheswm. Yn gyntaf, mae’n helpu i ehangu’r farchnad gofal cymdeithasol lleol, sy'n help mawr. Yn ail, mae'n creu cyfleoedd i entrepreneuriaid newydd a chyfleoedd gwaith hyblyg i bobl yn eu cymunedau.
"Rydyn ni'n annog pobl sydd â diddordeb mewn dechrau busnes bach yn y sector gofal cymunedol i gysylltu â ni er mwyn derbyn cymorth AM DDIM gan y Catalyddion Cymunedol."
Mae'r Catalyddion Cymunedol yn fenter gymdeithasol sy'n cefnogi pobl leol ledled Y Deyrnas Unedig i helpu eraill yn eu cymunedau. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Catalyddion Cymunedol
Hoffech chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i fod yn Gatalydd Cymunedol yn RhCT? Ffoniwch Heather Maling ar 07442 361 409 neu e-bostiwch h.maling@communitycatalysts.co.uk
Wedi ei bostio ar 24/01/2023