Skip to main content

Mae Gwella'n Mesurau Gwrthsefyll Llifogydd yn Parhau i fod yn Flaenoriaeth

Flood

Mae sicrhau ein bod ni'n gwella'n mesurau gwrthsefyll llifogydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Rydyn ni wedi gwario mwy na £14 miliwn ar welliannau i isadeiledd ac £20 miliwn ar waith atgyweirio yn dilyn stormydd dros y blynyddoedd diwethaf, ers Storm Dennis yn 2020. 

Mae newid hinsawdd yn arwain at fwy o stormydd nag erioed. Eleni (2022/23), mae cyllid Llywodraeth Cymru gwerth mwy na £6.4miliwn wedi'i sicrhau ar gyfer gwaith atgyweirio yn dilyn Storm Dennis, yn ogystal â £3.9 miliwn ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd. 

Mae'r Cyngor hefyd wedi sicrhau mwy nag £8 miliwn yn rhan o Grant Ffyrdd Cydnerth yn ystod y tair blynedd diwethaf a hynny ar gyfer cynlluniau ffyrdd cydnerth sy'n canolbwyntio ar lifogydd yng Nghwm Cynon a Chwm Rhondda, gyda £400,000 wedi'i sicrhau ar gyfer 10 cynllun newydd eleni (2022/23). 

Mae'r holl waith lliniaru llifogydd uchod sydd eisoes wedi'i gwblhau wedi chwarae rôl hollbwysig yn ystod y tywydd garw a Rhybudd Tywydd Melyn y Swyddfa Dywydd (ddydd Iau, 12 Ionawr). 

Mae gan y Cyngor raglen garlam sy'n cynnwys dros 100 o gynlluniau lliniaru llifogydd ac mae'r Cyngor wedi cwblhau dros hanner o'r cynlluniau hynny. 

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: "Er ei bod hi'n ymddangos fel bod pob ceuffos a gafodd ei huwchraddio gan y Cyngor ers Storm Dennis yn 2020 wedi dal dros nos, mae yna nifer fawr o geuffosydd y mae angen eu gwella o hyd ac mae sawl blwyddyn o waith wedi'i gynllunio. 

Yn anffodus rydyn ni wedi gweld llifogydd mewn sawl lleoliad ledled ein Bwrdeistref Sirol yn dilyn glaw a thywydd garw, ond mae staff y Cyngor wedi bod yn gweithio'n ddiflino mewn amodau heriol er mwyn cadw pawb yn ddiogel. 

"Mae newid hinsawdd yn golygu bod nifer y digwyddiadau tywydd yn cynyddu ac maen nhw'n fwy difrifol. Rydyn ni'n ceisio gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith glaw trwm, a hynny gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

"Mae gan y Cyngor raglen garlam sy'n cynnwys dros 100 o gynlluniau lliniaru llifogydd ac rydyn ni wedi cwblhau dros hanner o'r cynlluniau hynny." 

Ymhlith y ffyrdd a gafodd eu cau dros dro o ganlyniad i lifogydd/dŵr wyneb oedd yr A4058 Pontypridd/Trehopcyn; Stryd y Bont/Cyfnewidfa'r A470, Pontypridd; a Heol Waunrhydd, Tonyrefail. Cafodd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus eu heffeithio dros dro hefyd.

 Cafodd oddeutu 20 eiddo preswyl/busnes eu heffeithio ac roedd rhai o'r trigolion a gafodd eu heffeithio wedi gadael eu cartrefi er diogelwch y cyhoedd. 

Roedd y Cyngor wedi agor ei Ganolfan Rheoli Argyfyngau am gyfnod Rhybudd Tywydd Melyn y Swyddfa Dywydd ac felly roedd modd monitro'r ceuffosydd allweddol. Roedd carfanau ac adnoddau ychwanegol ar gael i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau oedd wedi codi.

Wedi ei bostio ar 12/01/23