Mae diweddariad wedi'i ddarparu am waith atgyweirio'r arglawdd yn Heol Ynysybwl yng Nglyn-coch. Bydd y contractwr sydd newydd ei apwyntio yn cwblhau wythnos o waith yn y safle o 16 Ionawr ymlaen er mwyn llywio'r cynllun terfynol, sydd wedi'i drefnu ar gyfer y gwanwyn yma.
Mae angen gwaith sefydlogi ar yr arglawdd yn y safle yma yn dilyn nifer o achosion anawdurdodedig ac anghyfreithlon o gloddio’r tir, a oedd wedi cael gwared â'r modd o gynnal y ffordd uwchlaw. Mae goleuadau traffig wedi aros yn eu lle yn y lôn i gyfeiriad y de ar y B4273, Heol Ynysybwl, tra bo'r llwybr troed agosaf at yr arglawdd wedi'i gau er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd a cherddwyr.
Mae'r cynllun wedi bod yn gymhleth iawn ac wedi ei gwneud yn ofynnol i ymgynghorwyr arbenigol ymchwilio i'r mater parhaus a oedd wedi'i achosi gan y gwaith cloddio anghyfreithlon. Hyd yn hyn, mae gwaith sefydlogi cychwynnol wedi cael ei gyflawni, tra bo draenio, ecoleg, olrhain gwasanaethau ac arolygon tirffurfiau yn cael eu cwblhau.
Mae'r Cyngor wedi dyfarnu'r contract sefydlogi arglawdd i Alun Griffiths (Contractors) Ltd er mwyn dylunio ac adeiladu'r cynllun. Bydd wythnos o ymchwiliadau tir yn cael eu cynnal ddydd Llun, Ionawr 16 ymlaen, er mwyn llywio dyluniad cynllun terfynol y contractwr, sydd wedi'i drefnu ar hyn o bryd ar gyfer gwanwyn 2023.
Bydd y gwaith rheoli traffig presennol ar Heol Ynysybwl yn parhau drwy gydol yr ymchwiliadau yma, gan gynyddu hyd yr amser bydd y lôn wedi’i chau dros dro. Bydd y signalau traffig yn cael eu rheoli â llaw gyda cherbydau'n cael eu dal yn ôl am gyfnodau byrion er mwyn caniatáu llwytho/dadlwytho deunyddiau. Bydd y gwaith yn cael ei drefnu y tu allan i'r oriau prysuraf, rhwng 9.30am a 3pm, er mwyn lleihau ar yr amhariad – fodd bynnag mae rhai achosion o oedi traffig lleol yn anochel. Bydd gwaith clirio llystyfiant a choed ar gyfer prif gyfnod y gwaith yn cael ei gynnal ynghyd â'r ymchwiliadau.
Hoffai'r Cyngor estyn diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd parhaus a chydweithrediad. Rydyn ni'n deall fod hyn yn gynllun hir, ac mae'r achosion y tu allan i reolaeth y Cyngor. Byddwn ni'n cyfleu manylion y prif gynllun atgyweirio wedi iddyn nhw gael eu cadarnhau.
Wedi ei bostio ar 13/01/23