Skip to main content

Cytuno i gynnal ymgynghoriad ar gyfer Strategaeth Ddrafft Canol Tref Aberdâr

Aberdare Town Centre 5

Mae Aelodau'r Cabinet wedi cytuno i ymgynghori â thrigolion ar Strategaeth Ddrafft Canol Tref Aberdâr. Bydd y Strategaeth Ddrafft yn amlinellu gweledigaeth glir y Cyngor ar gyfer y dref, yn ogystal â'i amcanion a'i flaenoriaethau niferus o ran buddsoddi.

Yn ei gyfarfod ddydd Mercher, 28 Mehefin, bu’r Cabinet yn trafod y strategaeth ddrafft a gafodd ei llywio gan waith ymgysylltu cynnar â’r cyhoedd a rhanddeiliaid rhwng mis Hydref 2022 a mis Chwefror 2023. Cytunodd yr Aelodau ag argymhellion y swyddogion i gynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y strategaeth ddrafft – a fydd yn digwydd dros gyfnod o chwe wythnos, gan ddechrau yn haf 2023.

Bydd y Cyngor yn darparu arolwg mae modd ei lenwi ar-lein drwy wefan Dewch i Siarad RhCT, ac yn hyrwyddo hyn ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor yn ogystal â gosod hysbysebion yng nghanol y dref. Yn ogystal â hynny, bydd modd casglu copïau papur o Lyfrgell Aberdâr a lleoliadau eraill yn y gymuned, a bydd sesiynau 'galw heibio' hefyd yn cael eu cynnal.

Mae rhagor o fanylion am weledigaeth y strategaeth ar gyfer Aberdâr, ynghyd â’i hamcanion strategol a'r chwe thema o ran buddsoddi, wedi’u cynnwys ar waelod y dudalen yma.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Mae’r Cabinet wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad chwe wythnos ar Strategaeth Ddrafft Canol Tref Aberdâr, sy’n amlinellu ei weledigaeth glir ar gyfer dyfodol y dref ac yn egluro sut mae modd cyflawni hyn drwy amcanion strategol. Bwriad y strategaeth ddrafft yw nodi glasbrint ffurfiol ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, yn yr un modd â'r strategaethau a luniwyd ar gyfer trefi Pontypridd, Porth ac Aberpennar.

“Cafodd y swyddogion adborth gwerthfawr dros ben i'r ymarfer ymgysylltu cynnar a gynhaliwyd rhwng mis Hydref a mis Chwefror, a hoffwn ddiolch i aelodau'r gymuned am eu cymorth. Nod y broses honno oedd dod i ddeall barn y trigolion am dref Aberdâr, a gofyn iddyn nhw amlygu ei chryfderau, ei gwendidau ac unrhyw gyfleoedd posibl i ddatblygu. Bydd y thema yma'n berthnasol o hyd yn yr ymgynghoriad sydd i ddod, gyda ffocws ar yr amcanion yn y strategaeth ddrafft.

“Mae canol pob tref yn parhau i wynebu heriau anferth yn sgil y pandemig a’r argyfwng costau byw, ac mae’n bwysig cydnabod bod Aberdâr hefyd wedi colli asedau pwysig megis rhai siopau manwerthu cenedlaethol a banciau.

“Serch hynny, mae llawer o bethau i fod yn obeithiol yn eu cylch hefyd. Mae gan Aberdâr gymuned fusnes gref sy'n cael ei hybu gan Ardal Gwella Busnes Caru Aberdâr (Our Aberdare BID). Mae'r mudiad yma'n cynrychioli mwy na 250 o fusnesau ac yn gweithio gyda'r Cyngor ar amrywiaeth o brosiectau. Mae sawl eiddo amlwg yng nghanol y dref hefyd wedi bod yn destun buddsoddi a bellach yn cael eu defnyddio unwaith eto - megis hen westy'r Boot, Hen Neuadd y Dref a hen dafarn y Black Lion.

“Cafodd Aberdâr hefyd arian sylweddol ar gyfer prosiectau mawr eraill, gan gynnwys rhai sy'n agos at ganol y dref megis cyfleusterau addysg a hamdden Sobell, adeilad o’r radd flaenaf ar gyfer Coleg y Cymoedd, ac unedau busnes modern yn Nhresalem. Cafodd pob un o'r rhain eu cyflwyno yn y blynyddoedd diwethaf. Cyn bo hir, bydd Aberdâr hefyd yn elwa ar drenau mwy cyflym a chyson o dan gynllun Metro De Cymru.

“Rydw i'n annog aelodau'r gymuned i ddweud eu dweud ar Strategaeth Ddrafft Canol Tref Aberdâr yn yr ymgynghoriad sydd i ddod. Bydd hyn yn rhoi gwybod i ni sut i barhau i feithrin y momentwm a grëwyd gan fuddsoddiadau diweddar. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i drigolion sut i gymryd rhan, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb, cyn bo hir. Mae disgwyl i’r gweithgarwch fynd rhagddo dros yr haf.”

Roedd yr ymarfer ymgysylltu cynnar yn gofyn i drigolion a busnesau lleol rannu'u gwybodaeth leol fel bod modd i'r Cyngor ddod i ddeall barnau pobl am y dref. Darparon ni arolwg a gweithdai yn rhan o'r gwaith, ac roedd y broses yn destun trafodaeth gan y Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant.

Mae'r adroddiad i'r Cabinet ddydd Mercher yn nodi canfyddiad clir o'r ymarfer yma, sef bod yn rhaid i Ganol Tref Aberdâr ehangu'i harlwy os ydy hi am gyflawni ei photensial yn brif dref yr ardal. Mae’r strategaeth ddrafft felly yn nodi’r weledigaeth ganlynol:

"Adeiladu ar dreftadaeth unigryw a lleoliad strategol Aberdâr i greu cyrchfan mwy bywiog, deinamig a deniadol i drigolion lleol ac ymwelwyr". Mae'r amcanion strategol yn cynnwys:

  • Gwella cynaliadwyedd trwy gynyddu nifer yr ymwelwyr a sicrhau cyfran fwy o wariant gan ymwelwyr.
  • Manteisio i'r eithaf ar safleoedd ac adeiladau yng nghanol y dref i amrywio'r ystod o wasanaethau ac amwynderau a ddarperir.
  • Gwella’r defnydd diogel o fannau cyhoeddus ar lefel y strydoedd, a darparu cysylltiadau gwell â chyrchfannau cyfagos.
  • Helpu i ddatblygu rhagor o amrywiaeth o ran busnesau yn y dref ar gyfer ymwelwyr ac anghenion lleol.
  • Gwella edrychiad cyffredinol a hunaniaeth canol y dref.

Mae chwe thema buddsoddi wedi’u cyflwyno er mwyn helpu i gyflawni’r amcanion yma:

  • Ailddatblygu ac ailddefnyddio adeiladau cyfredol i ddarparu bwytai o ansawdd uchel, llety i ymwelwyr, mannau gwaith, a safleoedd manwerthu unigryw.
  • Gweithio gyda busnesau a’r gymuned i ddod â stori Aberdâr yn fyw, gan wneud arlwy a threftadaeth y dref yn fwy gweladwy, ac atgyfnerthu ei hardal gadwraeth.
  • Cryfhau hunaniaeth y dref fel lle dymunol i fyw a gweithio ynddi, yn ogystal ag ymweld â hi, drwy gyfoethogi profiad yr ymwelydd ac ehangu’r arlwy cyfredol i dwristiaid.
  • Gwella a hyrwyddo llwybrau cerdded/beicio a gosod rhagor o arwyddion, gan gynnwys rhai i gyrchfannau cyfagos.
  • Gwella mannau agored canol y dref ymhellach, cefnogi bioamrywiaeth, creu mannau o ansawdd uchel ar gyfer busnesau newydd a chyfleoedd hamdden, yn ogystal â chynnal rhagor o achlysuron.
  • Meithrin partneriaethau lleol ac adeiladu ar waith da Ardal Gwella Busnes Caru Aberdâr (BID) i sefydlu mentrau newydd a chefnogi busnesau ymhellach.
Wedi ei bostio ar 06/07/23