Skip to main content

Dewch i ddathlu diwedd 2025 a chroesawu 2026 mewn steil yn Lido Ponty!

fran christmas

Dewch i ddathlu diwedd 2025 a chroesawu 2026 mewn steil yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty! 

Mae atyniad arbennig Pontypridd wedi cadarnhau y bydd cyfle i nofio ar ddydd San Steffan a dydd Calan unwaith eto'r flwyddyn yma. Bydd tocynnau ar werth yn yr wythnosau nesaf.

Mae'r achlysuron Nadoligaidd yma'n nodi diwedd blwyddyn wych arall i Lido Ponty. Yn 2025, dathlodd y Lido 10 mlynedd ers ailagor yn dilyn gwaith adfywio sylweddol gwerth £6.3 miliwn. Mae Parc Coffa Ynysangharad wedi bod yn gartref i'r Lido ers 1927.

Hyd hyn, mae pobl o bob oed ac o bob cwr o'r byd wedi mwynhau cyfleusterau'r Lido, ac mae dros 850,000 o sesiynau nofio wedi'u cynnal yn y pwll.

Yn ystod 2025, mae 100,000 o bobl wedi mwynhau sesiynau nofio'n gynnar yn y bore, sesiynau hwyl i'r teulu a sesiynau nofio mewn dŵr oer.

Wrth i Lido Ponty fynd o nerth i nerth, yr un yw'r stori am boblogrwydd y sesiynau nofio ddydd San Steffan a dydd Calan.

Yn dilyn cyfres o benwythnosau nofio mewn dŵr oer yn yr Hydref/Gaeaf, mae tymheredd y dŵr yn y prif bwll a'r pwll gweithgaredd wedi cwympo i 14 gradd. Serch hynny, b tymheredd dŵr y pwll yn codi’n ôl i 28 gradd ar gyfer dydd San Steffan a dydd Calan.

Mae modd i'r holl deulu fwynhau'r nofio tymhorol, ymlacio ar ôl Nadolig prysur neu ddechrau'r Flwyddyn Newydd mewn steil. Bydd modd dewis o bum sesiwn bob dydd. Mae croeso i bawb ac mae modd i chi wisgo siwt ddŵr os ydych chi'n dymuno.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emmanuel, Aelod Cabinet Rhondda Cynon Taf â chyfrifoldeb dros Lido Ponty: "Mae'r Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, wedi mwynhau blwyddyn arbennig yn 2025.

"Felly, does dim gwell ffordd o ddathlu'r flwyddyn arbennig na nofio ar ddydd San Steffan, a rhoi croeso i 2026 drwy ymuno â'r sesiwn nofio hynod boblogaidd ar ddydd Calan.

"Mae rhagor o bobl yn ymweld â'r Lido i fwynhau'r cyfleuster arbennig bob blwyddyn, gyda dros 100,000 o sesiynau nofio wedi'u trefnu'r flwyddyn yma. Ers ailagor yn 2015 yn dilyn gwaith adfywio sylweddol, mae bron i filiwn o bobl wedi mwynhau'r Lido, a gafodd ei adeiladu yn y 1920au.

“Dyma lwyddiant go iawn yng nghanol tref Pontypridd, mae'r Lido yn denu pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt i Barc Coffa Ynysangharad, wrth iddyn nhw fwynhau nofio yn yr awyr agored ac amgylchoedd hanesyddol ehangach Pontypridd.

"Dyma edrych ymlaen at flwyddyn arall i Lido Ponty, ei staff ymroddgar a'i gwsmeriaid gwych."

Bydd yr ystafelloedd newid a'r cawodydd dan do ac awyr agored ar gael.

Bydd tocynnau i nofio ar ddydd San Steffan ar werth 9am ddydd Llun, 1 Rhagfyr. Cost tocyn yw £10, gyda phlant dan 5 oed yn nofio am ddim. 

Bydd tocynnau i nofio ar ddydd Calan ar werth 9am ddydd Llun, 8 Rhagfyr. Cost tocyn yw £10, gyda phlant dan 5 oed yn nofio am ddim.

 

 

Wedi ei bostio ar 19/11/2025