Mae'r Cyngor wedi darparu diweddariad mewn perthynas â gwaith adeiladu cam pump Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, er mwyn sefydlu rhan olaf y llwybr rhwng Glynrhedynog a Tylorstown. Mae hanner y gwaith wedi'i gyflawni, ac mae wedi cynnwys adeiladu tair pont droed newydd a dau lwybr ar gyfer cerddwyr a beiciau.
Mae'r llwybr cerdded a beicio 10 cilomedr o hyd rhwng Maerdy a Tylorstown wedi gwneud cynnydd ardderchog ers 2023. Mae'r buddsoddiad sylweddol yma ar gyfer cymunedau Cwm Rhondda Fach yn cael ei ddarparu yn rhan o bartneriaeth â Llywodraeth Cymru dros bum gam gwaith. Mae cam un, dau, pedwar a phump yn mynd i'r afael â'r prif lwybr, gyda cham tri yn darparu llwybr allweddol oddi ar y prif lwybr.
Mae manylion mewn perthynas â chynnydd y pedwar cam gwaith cyntaf wedi'u cynnwys ar waelod y diweddariad yma - gyda chamau un a dau (sy'n mynd â'r llwybr drwy ardal Maerdy) a cham pedwar (yng Nglynrhedynog) wedi'u cwblhau a'u hagor.
Dechreuodd contractwr y Cyngor, Horan Construction Ltd, gam pump ym mis Mehefin 2025 - y rhan olaf, 2.8 cilomedr o hyd, rhwng Glynrhedynog a Tylorstown. Bydd yn parhau â'r llwybr o ben mwyaf deheuol cam pedwar, gan ymestyn rhwng Canolfan Chwaraeon Rhondda Fach (Glynrhedynog) a throsbont Stanleytown, a chysylltu â llwybr i'r gymuned Ffordd Liniaru Porth wrth ei ben deheuol. Bydd y rhan yma yn dilyn llwybr yr hen linell rheilffordd, ac yn creu cysylltiadau â'r ganolfan chwaraeon a Meddygfa Tylorstown.
Mae tair pont droed allweddol wedi'u hadeiladu a'u gosod hanner ffordd drwy gyfnod y gwaith yma. Bydd y rhain yn parhau i fod ar gau hyd nes y bydd cam pump wedi'i gwblhau, a bydd yn ffurfio rhan o'r llwybr cerdded a beicio pan fydd yn agor.
Mae'r bont gyntaf, Pont Pendyrus, wedi cymryd lle hen bont droed bren y ganolfan hamdden. Mae'r bont yn 17 metr o hyd a bydd yn ffurfio rhan o'r llwybr i'r ganolfan hamdden - gan ddefnyddio strwythur dur wedi'i uwchraddio sy'n fwy llydan ac yn bodloni safonau teithio llesol.
Mae'r ail a'r drydedd bont newydd, Pont Gogledd Tylorstown a Phont De Tylorstown, yn cymryd lle hen strwythurau rheilffordd a oedd wedi dirywio gormod i'w trwsio. Mae'r ddwy bont yn 20 metr o hyd ac yn bontydd dur amgen, mwy llydan, sy'n addas ar gyfer safonau teithio llesol modern. Yn ogystal â hyn, mae gwaith atgyweirio'r ategweithiau a'r colofnau wedi’i gwblhau.
Hefyd yn rhan o gam pump, mae gwaith tir sylweddol wedi'i gwblhau er mwyn creu dau lwybr newydd i Feddygfa Tylorstown a Chanolfan Hamdden Cwm Rhondda Fach.
Mae cam pump ar y trywydd cywir i'w gwblhau ar amser erbyn diwedd mis Mawrth 2026 - a fydd yn sicrhau bod y llwybr cyfan, 10 cilomedr o hyd, rhwng Maerdy a Tylorstown ar gael i'r cyhoedd yng ngwanwyn 2026, gan gwblhau'r buddsoddiad sylweddol yn ei gyfanrwydd.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rwy'n falch ein bod ni bellach tua hanner ffordd trwy gam pump Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, sy'n fuddsoddiad sylweddol mewn llwybr cerdded a beicio 10 cilomedr o hyd rhwng Maerdy a Tylorstown. Mae'r cynllun wedi bod yn ymrwymiad hirdymor i'r Cyngor, gyda'r cam cyntaf wedi'i ddarparu yn 2023 - ac rydyn ni bellach ychydig o fisoedd i ffwrdd o gwblhau'r prif lwybr cyfan.
"Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth pwysig Llywodraeth Cymru wrth ddarparu'r prosiect sylweddol yma – cyllid llawn cam pump yw’r dyraniad diweddaraf o'r Gronfa Teithio Llesol. Hefyd yn 2025/26, rydyn ni wedi sicrhau cyllid gwerth dros £1 miliwn er mwyn dylunio llwybrau newydd rhwng Tonysguboriau a Llanharan, a Threorci a Threherbert, a datblygu rhagor o gynlluniau lleol y cytunwyd arnyn nhw mewn egwyddor. Mae ein cynnydd parhaus yn adlewyrchu'r pwysigrwydd rydyn ni'n ei roi ar annog pobl i gerdded a beicio’n fwy bob dydd - er mwyn gwella iechyd a lles, lleihau nifer y cerbydau ar ein ffyrdd, a diogelu'r amgylchedd.
"Mae diweddariad cam pump heddiw yn dangos y cynnydd da sydd wedi'i wneud ers i'r gwaith ddechrau'n gynharach eleni. Mae tair pont droed newydd, sy’n fwy addas ar gyfer teithio llesol, wedi'u hadeiladu a'u gosod yn lle strwythurau hŷn. Mae dau lwybr newydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr wedi'u creu ger Meddygfa Tylorstown a Chanolfan Hamdden Cwm Rhondda Fach. Rwy'n edrych ymlaen at gynnydd pellach yn cael ei wneud dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, rydyn ni ar y trywydd cywir i gwblhau rhan olaf y llwybr 10 cilomedr cyfan yn y gwanwyn."
Dyma grynodeb o'r manylion am bedwar cam cyntaf y llwybr:
- CafoddCam Un ei gwblhau ddiwedd 2023. Creodd y gwaith yma ben mwyaf gogleddol y llwybr teithio llesol cyffredinol, o leoliad i'r gogledd o ystad ddiwydiannol Maerdy i bwynt ger Cofeb Porth Maerdy.
- CafoddCam Dau ei gwblhau yn 2024, gan ailafael yn y llwybr i'r de o gam un. Mae'n ymestyn trwy ardal Maerdy am 1.5 cilomedr o Gofeb Porth Maerdy, gan ddilyn yr hen reilffordd.
- Bydd Cam Tri yn gwella'r llwybr beicio presennol yn ardal Maerdy ac yn creu llwybr 1.5 cilomedr o hyd newydd sy'n arwain i Stryd Richard a Phwll Nofio Glynrhedynog. Derbyniodd y cam yma ganiatâd cynllunio ym mis Mehefin 2024 ac mae'n parhau i gael ei ddatblygu, gyda gwaith ceisio cyllid yn parhau ar gyfer ei gyflawni.
- CafoddCam Pedwar ei gwblhau yn 2025, gan uwchraddio'r hen reilffordd ar draws Glynrhedynog – o bwynt i'r gogledd o Deras Ffaldau (ger Maerdy) i bwynt ger Cartref Angladdau Dolycoed (Tylorstown). Roedd yn cynnwys cyswllt newydd â Stryd yr Afon (Glynrhedynog) ac adeiladu dwy bont droed newydd ym Mlaenllechau.
Wedi ei bostio ar 20/11/2025