Skip to main content

Tocynnau bws rhatach ar gyfer teithiau lleol dros gyfnod y Nadolig unwaith eto

Bus-travel-Christmas-2025-WELSH - Copy

Mae'r Cyngor yn atgoffa trigolion ac ymwelwyr â Rhondda Cynon Taf y bydd teithio ar fysiau'n rhatach drwy gydol cyfnod y Nadolig eleni! Fydd tocynnau sengl am deithiau o fewn ffin y Fwrdeistref Sirol ddim yn costio mwy na £1.50 ar draws pob gweithredwr bysiau. Bydd hyn yn berthnasol drwy gydol mis Rhagfyr 2025.

Bydd y cynnig o docynnau bws rhatach yn weithredol o ddydd Llun, 1 Rhagfyr, i ddydd Mercher, 31 Rhagfyr yn ddi-dor. Dyma'r wythfed tro ers haf 2023 i'r Cyngor gynnig tocynnau rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus i drigolion – gan ddefnyddio cyllid a sicrhawyd o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth San Steffan.

Mae'r cynnig wedi bod yn boblogaidd iawn yn y gorffennol a'i nod yw helpu i leihau rhwystrau economaidd sydd efallai'n rhwystro pobl rhag teithio ar y bws.  Mae wedi cael ei dargedu yn ystod cyfnodau allweddol o'r flwyddyn, megis gwyliau ysgol a chyfnod y Nadolig. Defnyddiwyd y cynnig o £1.50 ddiwethaf dros chwe wythnos y gwyliau haf yn 2025.

Fel arfer, bydd y cynnig sydd ar ddod ym mis Rhagfyr 2025 yn berthnasol i bob taith bws sy'n cychwyn ac yn gorffen o fewn ffin Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae pob gweithredwr bysiau lleol yn rhan o'r cynllun a bydd yn berthnasol o daith gynta'r dydd i'r un olaf. Fydd dim cyfyngiadau amser yn cael eu rhoi ar waith.

Yn ystod cyfnod y cynnig, rhaid i ddeiliaid cerdyn teithio rhatach sganio eu cerdyn yn ôl yr arfer. Fydd teithiau sy'n dechrau neu'n gorffen y tu allan i Rondda Cynon Taf ddim yn cael eu cynnwys yn y cynnig yma, a bydd raid talu'r ffi lawn arferol.

Cofiwch, mae prisiau tocynnau bws i rai 5 i 21 oed wedi'u cyfyngu i uchafswm o £1 am un daith ar hyn o bryd, diolch i Lywodraeth Cymru. Bydd angen i bob person rhwng 16 a 21 oed ddangos ‘Fy Ngherdyn Teithio’ dilys i fanteisio ar y cynllun, tra bydd angen i rai dan 16 oed brynu tocyn bws unffordd i blentyn. Fydd y cynnig yma i bobl ifainc ddim yn cael ei effeithio gan fenter leol y Cyngor ym mis Rhagfyr 2025.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:   "Rydw i'n falch bod y Cyngor unwaith eto'n gallu cynnig tocynnau bws rhatach ar bob taith leol i drigolion ac ymwelwyr â Rhondda Cynon Taf. Mae hyn diolch i gyllid parhaus rydyn wedi'i sicrhau gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Bydd yn cadw'r pris uchaf o £1.50 ar gyfer tocyn bws a gyflwynwyd yn ystod gwyliau haf yr ysgol, a bydd yn darparu arbediad sylweddol i ddefnyddwyr bysiau yn ystod mis Rhagfyr 2025.

“Bydd ein cynllun tocynnau bws rhatach ​​unwaith eto yn rhedeg ochr yn ochr â’n cynnig parcio am ddim dros y Nadolig yn Aberdâr a Phontypridd, a fydd ar gael ym mhob maes parcio’r Cyngor ar ôl 10am bob dydd ym mis Rhagfyr. Nod y mentrau yma yw helpu trigolion a theuluoedd yn ystod cyfnod yr ŵyl, sy'n gallu bod yn gyfnod drud o'r flwyddyn – tra hefyd yn annog pobl i Siopa'n Lleol a rhoi hwb i'n masnachwyr stryd fawr a chanol trefi ledled y Fwrdeistref Sirol.

“Mae gan annog pobl i ddal y bws ar gyfer eu teithiau bob dydd sawl mantais arall, o leihau nifer y cerbydau ar ein ffyrdd a gwella tagfeydd traffig i leihau amseroedd teithio a diogelu’r amgylchedd. Mae gweithredwyr bysiau wedi gweld cynnydd amlwg yn nifer y cwsmeriaid yn ystod cynigion blaenorol – wrth i ni geisio torri'r rhwystrau economaidd sy'n atal pobl rhag defnyddio'r bws, ar adeg pan fo costau byw yn parhau i fod yn uchel.

“Mae’r Cyngor yn parhau i groesawu cymorth ariannol gan Lywodraeth San Steffan drwy ei Chronfa Ffyniant Gyffredin. Fe gawson ni £1.2 miliwn y llynedd, ynghyd â £1 miliwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn gyfredol (2025/26). Roedd hyn yn ein galluogi i barhau i gyflwyno tocynnau bws rhatach yn ystod cyfnodau allweddol o'r flwyddyn.”

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan Lywodraeth y DU, wedi'i dyrannu i Awdurdodau Lleol i helpu i gyflwyno mentrau a fydd yn lleihau costau byw i drigolion.  Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy fesurau sy'n gwella effeithlonrwydd ynni, ac yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.

Wedi ei bostio ar 18/11/2025