Nodwch, bydd Maes Parcio Stryd y Dug yn Aberdâr ar gau tan yn hwyrach yn yr wythnos, gan fod y tywydd gwlyb iawn yn ddiweddar wedi cael effaith ar gynnydd.
Mae gwelliannau o ran mynediad i gerddwyr a draeniau er mwyn diogelu'r cyfleuster yng nghanol y dref ar gyfer y dyfodol, yn cael eu cynnal yn rhan o'r cynllun parhaus.
Mae angen y trefniadau cau presennol er mwyn cwblhau'r elfen gosod wyneb newydd olaf, a heddiw (17 Tachwedd) oedd diwrnod olaf y trefniadau cau a hysbysebwyd.
Fodd bynnag, mae natur y gwaith gosod wyneb newydd yn gofyn am dywydd braf, ac mae'r wythnos ddiwethaf wedi bod yn wlyb iawn – gan gynnwys y rhybudd tywydd ambr, Storm Claudia, ddydd Gwener.
Felly, bydd Maes Parcio Stryd y Dug yn parhau i fod ar gau o yfory (dydd Mawrth 18 Tachwedd) ymlaen, er mwyn cwblhau'r gwaith.
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi rhagor o ddiweddariadau cynnydd yn ystod y diwrnodau nesaf, a bydd dyddiad ailagor newydd yn cael ei rannu ar ôl pennu'r dyddiad terfynol.
Diolch i drigolion, busnesau ac ymwelwyr canol y dref am eich amynedd a chydweithrediad parhaus.
Wedi ei bostio ar 17/11/2025