Bydd Canolfan Hamdden Sobell, Aberdâr, yn elwa ar waith helaeth i'w phwll nofio y mis nesaf, wrth i'r system awyru gyfan gael ei huwchraddio.
Bydd angen cau'r pwll a'r ystafelloedd newid am bythefnos o ganlyniad i'r gwaith hanfodol felly mae staff yn gobeithio manteisio ar y cyfnod yma i gwblhau gwelliannau pellach i'r ystafelloedd newid.
Bydd aelodau'r cyhoedd yn croesawu'r newyddion am y gwaith gwella sydd ar y gweill, gan eu bod nhw wedi mynegi pryderon am dymheredd yr aer yn y pwll nofio a'r ystafelloedd newid.
Bydd y system awyru newydd yn golygu y bydd modd rheoli'r tymheredd yn well, gan wella'r amgylchedd i gwsmeriaid. Bydd y system newydd hefyd yn fwy effeithlon i'r ganolfan.
Er mwyn cynnal y gwaith, bydd y pwll nofio ar gau rhwng 1 a 15 Rhagfyr. Rydyn ni wedi cysylltu â phob grŵp sy'n defnyddio'r pwll, yn ogystal â chwsmeriaid gwersi nofio, yn uniongyrchol.
Bydd rhannau eraill y ganolfan, gan gynnwys y gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd a chyfleusterau chwaraeon dan do, yn parhau i fod ar agor yn ôl yr arfer.
Anogir aelodau'r cyhoedd sydd eisiau nofio yn ystod y cyfnod yma i fynd i bwll nofio Abercynon neu bwll nofio Glynrhedynog. Mae modd gweld amserlenni ac oriau agor pob pwll nofio Hamdden am Oes, yma:
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am Hamdden: “Mae'r gwaith gwella, a fydd o fudd i gwsmeriaid ac effeithlonrwydd cyffredinol y ganolfan pan gaiff ei gwblhau, yn sylweddol ac yn hanfodol.
“Rydyn ni'n buddsoddi yn nyfodol Canolfan Hamdden Sobell ac yn bodloni anghenion a cheisiadau ein cwsmeriaid.
“O ganlyniad i'r gwaith, bydd angen cau'r pwll nofio. Rydyn ni'n cydnabod bod hyn yn anghyfleus ond rydyn ni'n diolch i gwsmeriaid ymlaen llaw am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth i ni weithio i wella'u canolfan.”
Dilynwch Ganolfan Hamdden Sobell ar Facebook ac Instagram i gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf
Wedi ei bostio ar 18/11/2025