Skip to main content

Cefnogi Diwrnod Hawliau Gofalwyr (Cynhalwyr) 2025: Grymuso Cynhalwyr i Ddefnyddio'u Hawliau yn Rhondda Cynon Taf

Ddydd Iau, 20 Tachwedd, rydyn ni'n ymuno â Carers UK, ein Cynllun Cynnal y Cynhalwyr, a sefydliadau ledled y wlad i nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2025. Dyma ymgyrch genedlaethol sy'n codi ymwybyddiaeth o'r hawliau a chymorth sydd ar gael i gynhalwyr di-dâl.

Thema eleni yw, ‘Adnabod eich hawliau, defnyddiwch eich hawliau', sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod cynhalwyr yn deall eu hawliau ac yn teimlo'n hyderus i fanteisio ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. I nodi'r achlysur, mae Cynllun Cynnal y Cynhalwyr RhCT yn gwahodd cynhalwyr di-dâl i ymuno â gweithgareddau creadigol am ddim - sy'n eu galluogi nhw i gael seibiant a chymdeithasu ag eraill:

  • Creu Celf Resin. 10.30am-12.30pm, Cynon Linc – Aberdâr
  • Gwneud torch. 12.45pm-2.45pm, Cynllun Cynnal y Cynhalwyr, Heol Gelliwastad, Pontypridd
  • Creu Celf Resin. 2pm-4pm, Llyfrgell Porth

Rhaid cadw lle ymlaen llaw. I gadw lle, ffoniwch  01443 281 463  neu e-bostiwch:cynnalycynhalwyr@rctcbc.gov.uk

Yn ogystal â'r achlysuron yma, diben Diwrnod Hawliau Gofalwyr yw sicrhau bod cynhalwyr di-dâl ledled Rhondda Cynon Taf yn deall eu hawliau cyfreithiol a'r hyn sydd ar gael iddyn nhw. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Absenoldeb Cynhalwyr Di-dâl – hawl i gymryd hyd at 5 diwrnod o absenoldeb di-dâl y flwyddyn i reoli cyfrifoldebau gofalu o dan Ddeddf Absenoldeb Gofalwyr 2024.
  • Asesiadau i Gynhalwyr – Bydd yr asesiad yn edrych ar yr effaith mae gofalu yn ei chael arnoch chi a'r cymorth sydd ei angen arnoch chi o bosibl.
  • Gweithio hyblyg – gofyn am drefniadau gweithio hyblyg o ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth a mwy nag un cais y flwyddyn.
  • Nodi Cynhaliwr ar eich cofnodion – gofyn i’ch meddyg teulu nodi cynhaliwr ar eich cofnod claf, gan eich gwneud yn flaenoriaeth ar gyfer pethau fel brechlynnau.

Mae modd dod o hyd i restr lawn o hawliau cynhalwyr yma: Diwrnod Hawliau Gofalwyr | Carers UK

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn gyfle pwysig i gydnabod y cyfraniad anhygoel y mae cynhalwyr di-dâl yn ei wneud bob dydd.

“Rydyn ni eisiau i gynhalwyr deimlo eu bod wedi’u grymuso i ddeall a defnyddio eu hawliau – boed hynny’n cymryd absenoldeb, gofyn am drefniadau gweithio hyblyg, neu gael mynediad at asesiad i gynhalwyr.

“Ochr yn ochr â’r hawliau cenedlaethol yma, rydyn ni'n falch o gynnig cymorth lleol drwy ein Cynllun Cynnal y Cynhalwyr. Mae'r cymorth yma'n cynnwys cyngor ymarferol, gostyngiadau hamdden, ac achlysuron a gweithgareddau yn y gymuned.

“Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr eleni, rydyn ni eisiau sicrhau bod pob cynhaliwr ledled Rhondda Cynon Taf yn effro i'w hawliau a’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw.”

Mae'r diwrnod hefyd yn ymwneud â sicrhau bod cynhalwyr di-dâl yn effro i'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw:

  • Cynllun Gostyngiadau Hamdden i Gynhalwyr –cyfle i fwynhau cyfraddau rhatach mewn canolfannau hamdden ledled Rhondda Cynon Taf.
  • Cerdyn Argyfwng i Gynhalwyr – tawelwch meddwl os bydd rhywbeth yn digwydd i chi'n annisgwyl.
  • Cynllun Cynnal y Cynhalwyr– Mynediad at gyngor, gwybodaeth a chymorth ymarferol wedi'u teilwra i'ch rôl ofalu, gan gynnwys cymorth i gynhalwyr ifainc.

Mae'r Cyngor yn falch o gefnogi'r diwrnod pwysig yma drwy annog cynhalwyr i gael gwybod am yr adnoddau a'r hawliau sydd ar gael iddyn nhw.

Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Yn aml, mae cynhalwyr ifainc yn jyglo'r ysgol, ffrindiau a chyfrifoldebau gofalu – sy'n gallu eu gorlwytho nhw. Diben Diwrnod Hawliau Gofalwyr yw sicrhau eu bod yn gwybod at ble i droi am gymorth a bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

“Trwy Gynllun Cynnal y Cynhalwyr, rydyn ni'n cynnig cymorth wedi’i deilwra i gynhalwyr ifainc – gan roi’r lle iddyn nhw gymryd seibiant, cysylltu ag eraill, a chael mynediad at gyngor a gwybodaeth.

“Rydyn ni eisiau i gynhalwyr ifainc yn Rhondda Cynon Taf deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi, ac yn effro i'r ffaith bod eu hawliau yr un mor bwysig â’u cyfrifoldebau gofalu.”

Ers 60 mlynedd, mae Carers UK wedi ymgyrchu dros hawliau gwell i gynhalwyr di-dâl y DU. Rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau dyfodol lle mae pob cynhaliwr yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi'n briodol a lle mae’n derbyn y cymorth sydd ei angen arno i fyw bywyd y tu hwnt i'w gyfrifoldebau gofalu.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Carers UK, ewch i: Carers UK

Am gymorth lleol i gynhalwyr, cysylltwch â Chanolfan Cynnal y Cynhalwyr RhCT:

Ffoniwch:  01443 281 463

E-bostiwch: CynnalyCynhalwyr@rctcbc.gov.uk

Facebook | Instagram | Gwefan

Wedi ei bostio ar 20/11/2025