Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnal Gwylnos gyhoeddus yng Ngolau Cannwyll ddydd Mawrth, 25 Tachwedd, i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn - Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Atal Trais yn erbyn Menywod. Mae thema eleni, Dweud ein dweud, yn galw ar ddynion a bechgyn i fod yn gynghreiriaid gweithredol o ran dod â diwedd i drais yn erbyn menywod a merched trwy herio agweddau ac ymddygiad niweidiol, a rhagfarn sy’n ymwneud â rhywedd bob dydd.
Ymunwch â ni yn Llyfrgell Pontypridd - Llys Cadwyn, Pontypridd (CF37 4TH) rhwng 5pm a 7pm ddydd Mawrth 25 Tachwedd. Mae'r achlysur AM DDIM ac mae croeso i bawb.
Bydd y noson yn cynnwys perfformiadau, barddoniaeth, a Gwylnos yng Ngolau Cannwyll i anrhydeddu dioddefwyr a goroeswyr trais ar sail eu rhyw. Byddwn ni'n croesawu siaradwyr gwadd a pherfformwyr o ledled y gymuned, gan gynnwys:
- Côr Menywod Taf-elái
- Alex Davies-Jones AS
- Emma Wools, Comisiynydd Heddlu a Throseddu
- Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid
- Carfan Cymunedau Diogel
- Y Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Rhuban Gwyn
- Bydd yr Wylnos yng Ngolau Cannwyll yn cael ei harwain gan y Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau: "Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ddiwrnod pwerus i'n hatgoffa bod dod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben yn gyfrifoldeb ar bawb.
"Rwy'n annog pawb i ymuno â ni ar gyfer ein Gwylnos yng Ngolau Cannwyll ar 25 Tachwedd, ac i wneud yr Addewid y Rhuban Gwyn i beidio â defnyddio, esgusodi, neu aros yn dawel ynglŷn â thrais dynion yn erbyn menywod."
Pam bod Diwrnod Rhuban Gwyn yn bwysig:
- Bydd 1 ym mhob 4 menyw yn profi ymosodiad rhywiol neu ymgais i ymosod yn ystod eu bywyd (Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 2025)
- Mae 3 ym mhob 5 menyw wedi wynebu aflonyddu rhywiol neu fwlio yn y gwaith (Cyngres yr Undebau Llafur, 2023)
- Mae 77% o ferched rhwng 7 a 12 oed wedi profi niwed ar-lein ystod y flwyddyn ddiwethaf (Girlguiding, 2024)
- Yn 2022-23, roedd20% o bob trosedd a gofnodwyd gan yr heddlu yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched (Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 2025)
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Hyrwyddwr y Rhuban Gwyn: “Mae'r Diwrnod Rhuban Gwyn yma'n ymwneud â gweithredu yn ogystal ag ymwybyddiaeth. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod pwysigrwydd codi'ch llais.
“Rhaid inni herio ymddygiadau bob dydd sy’n cyfrannu at ddiwylliant o anghydraddoldeb a cham-drin. Drwy sefyll gyda'n gilydd, rydyn ni'n anfon neges glir: nid oes lle i drais yn erbyn menywod a merched yn ein cymdeithas.
"Ymunwch â ni ar 25 Tachwedd a helpwch ni i greu byd lle mae pawb yn ddiogel, yn gyfartal, ac yn cael eu parchu.”
I ddysgu rhagor ynghylch Diwrnod Rhuban Gwyn, ewch i: White Ribbon Day 2025 — White Ribbon UK
Wedi ei bostio ar 20/11/2025